Modrwyau Galar o Pennard
Modrwyau Galar o Pennard
Modrwyau Galar o Cydweli
Modrwyau Galar o Cydweli
Modrwyau Galar o Hundleton, Sir Benfro
Modrwyau Galar o Hundleton, Sir Benfro

Roedd teimladau personol dwys yn cael eu mynegi ar fodrwyau galar hefyd. Ond yma, cyfleu’r rhwyg yn y berthynas rhwng y byw a'r marw oedd diben y fodrwy. Yn y Canol Oesoedd, roedd y byw’n cadw rhyw fath o gysylltiad â’r meirw trwy weddïo dros eu heneidiau, ond daeth hyn i ben adeg y Diwygiad Protestannaidd ac, o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, dim ond cofio am y meirw y câi pobl ei wneud, nid eu helpu. Weithiau, roedd modrwyau galar yn cael eu rhannu mewn angladdau fel ffordd o helpu perthnasau a chyfeillion y sawl a fu farw i gofio amdanynt. Roedd y modrwyau hyn yn cyfuno angen pobl i gofio’u hanwyliaid a hen draddodiad y memento mori ac roeddent yn aml yn cynwys llythrennau blaen enw’r un a fu farw a dyddiad eu marwolaeth. Roedd y modrwyau’n ffordd o atgoffa pobl pa mor agos oedd marwolaeth, yn enwedig mewn cyfnod pan oedd llawer o bobl yn marw o glefydau heintus, wrth roi genedigaeth neu hyd yn oed o afiechydon syml. Roedd motiffau memento mori yn gyffredin yn niwylliant y Canol Oesoedd diweddar a’r cyfnod Modern Cynnar, yn aml ar ffurf penglog, ac maent i’w gweld mewn darluniau a llyfrau, ac ar gerrig beddi a gemwaith. Yn y portreadau o Edward a Gawen Goodman o Ruthun, a dynnwyd yn yr 16eg ganrif ac sydd i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, mae’r dynion yn gwisgo modrwyau galar mawr aur ar eu mynegfys, a llun penglog yn crechwenu ar y ddwy. Eu bwriad oedd atgoffa pobl pa mor fyr yw bywyd ac weithiau roedd arnynt arysgrif fwy personol yn dwyn i gof rywun penodol oedd wedi marw.

Nid oes yr un o’r modrwyau galar a ganfuwyd yn ddiweddar gan ddefnyddwyr datgelyddion metal yng Nghymru mor gywrain â’r rhai uchod ond yr un yw'r egwyddorion y tu ôl iddynt. Ym mis Hydref 2010, daeth Mr R. Pitman o hyd i fodrwy alar aur ym Mhennard, Abertawe. Mae arni batrwm delltwaith wedi’i fewnosod ag enamel glas tywyll a chredir ei bod yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif. Mae’n un o sawl modrwy a ddaeth i law’r prosiect Hel Trysor; Hel Straeon ac mae yn Amgueddfa Abertawe erbyn hyn. Gwelir yr arysgrif ‘Prepared bee to follow me’ ar y tu mewn – gair i atgoffa y gallai angau daro unrhyw bryd ac y dylai’r Cristion da baratoi at hynny yn ysbrydol ac yn feddyliol. Wyddom ni ddim pwy oedd y ‘me’: efallai rhywun oedd eisoes wedi marw; neu efallai Angau ei hunan.

Ceir neges gliriach ar dair enghraifft arall. Mae arysgrifau Lladin ar yr ochr fewnol yn nodi llythrennau cyntaf enw’r bobl a fu farw a dyddiad eu marwolaeth. Mae’r hynaf, a ganfuwyd gan Mr D. Raven ym mis Mai 2013 yng Nghydweli ac sydd yn Amgueddfa Caerfyrddin erbyn hyn, yn cofnodi marwolaeth ‘J. A. ob 25 July 98 aeta 37’ [J. A. a fu farw 25 Gorffennaf 1698, yn 37 oed]. Mae’r ochr allanol yn blaen ar wahân i benglog wedi’i ysgythru ac mae’n debyg iawn i fodrwy aur arall a ganfuwyd yn Hundleton, Sir Benfro, gan Mr K. Lunn ym mis Tachwedd 2013, ac sydd yn Amgueddfa Aberdaugleddau erbyn hyn. Yma, mae’r penglog yn fwy amrwd a’r arysgrif yn dweud ‘A. E. obijt 30 Jan’ 17034’ [A. E. a fu farw 30 Ionawr 1703/4]1.

Mae enghraifft arall a ganfuwyd ychydig ymhellach i’r dwyrain yng Nghaer-went, Sir Fynwy, gan Mr Colin Price, ym mis Gorffennaf 2011, ychydig yn wahanol, â phatrwm blodeuog yn hytrach na phenglog ar y tu allan. Yn ôl yr arysgrif, modrwy ydyw i gofio am ‘G. K. obt 26 March 1702’ [G. K. a fu farw 26 Mawrth 1702]. Er bod y manylion yn brin, maent yn cyfleu’r golled bersonol a’r galar a deimlai’r bobl oedd wedi colli rhywun annwyl a'r angen i gofio amdanynt ymhell i'r dyfodol.

1Y rheswm dros y dryswch ymddangosiadol ynghylch y flwyddyn y bu farw yw mai’r hen galendr a ddefnyddid cyn mabwysiadu Calendr Gregori yng Nghymru a Lloegr yn 1752. Cyn hynny, ar 25 Mawrth, nid 1 Ionawr, roedd y flwyddyn newydd yn dechrau’n swyddogol. Felly, 1 Ionawr 1703, yn hytrach nag 1 Ionawr 1704, fyddai’r diwrnod ar ôl 31 Rhagfyr 1703.

Gadael sylw