Dogni Bwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Allwch chi ddychmygu sut y byddech chi'n teimlo heddiw os byddai rhywun yn dweud wrthych nad oedd modd i chi brynu eich hoff fwyd?
Neu, os byddai modd, dim ond swm bach y gallech ei brynu ac y byddai'n rhaid iddo bara wythnos a byddai'n rhaid i chi giwio amdano?
Dyma ddigwyddodd i bobl yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1939-45) pan gyflwynwyd dogni ym Mhrydain.
Pam y cyflwynwyd dogni ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd?
Ceisiodd Adolf Hitler, unben yr Almaen, orfodi diwedd cynnar i'r rhyfel drwy ymosod ar longau oedd yn cludo bwyd a nwyddau eraill i Brydain.
Roedd am newynu'r genedl er mwyn ei threchu, a'i arf oedd fflyd o longau tanfor oedd yn teithio ar draws yr Iwerydd.
Yng Nghymru, fel mewn rhannau eraill o Brydain, roedd awyrennau’r Almaenwyr hefyd yn targedu porthladdoedd a dociau, yn ogystal â threnau nwyddau mewn mannau diwydiannol fel Casnewydd, Abertawe a Chaerdydd.
Beth oedd Dogni yn yr Ail Ryfel Byd?
Roedd rhai eitemau, yn enwedig bwyd, yn brin iawn ac yn anodd eu prynu yn y siopau arferol.
Dechreuodd pobl brynu nwyddau mewn panig mewn ffordd debyg i'r hyn a welwyd yn y cyfnod diweddar fel yn ystod yr argyfwng petrol neu adeg pandemig Covid.
Felly, cyflwynodd y Llywodraeth gynllun ddogni fel system deg i ganiatáu i bobl gael swm penodol o fwyd bob wythnos.
Roedd cynllun dogni gan wledydd eraill a oedd yn rhan o'r rhyfel hefyd, fel America. Roedd rhai pobl yn cofio dogni gan ei fod hefyd wedi digwydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18).
Pryd dechreuodd Dogni Bwyd ym Mhrydain yn yr Ail Ryfel Byd?
Gyda'r prinder bwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn dal yn fyw yn y cof, cyflwynodd y llywodraeth y cynllun dogni bwyd ym mis Ionawr 1940.
Sut roedd y system dogni'n gweithio?
Derbyniodd pob person yn y wlad, gan gynnwys plant, lyfr dogni a bu'n rhaid i bob cartref gofrestru gyda chigydd, groser a dyn llaeth lleol a oedd yn gorfod sicrhau bod ganddynt ddigon o fwyd i'w cwsmeriaid.
Roedd y llyfrau dogni'n cynnwys cwponau y bu'n rhaid eu cyflwyno wrth brynu eitemau. Roedd gan bawb lyfr dogni, gan gynnwys aelodau o'r Teulu Brenhinol.
Tyfodd y rhestr o fwydydd a gafodd eu dogni wrth i'r rhyfel barhau.
Roedd y rheolau'n llym iawn ac roedd pobl oedd yn cael eu dal yn ceisio twyllo yn wynebu dirwy neu gael eu hanfon i'r carchar.
Yn aml, roedd pobl a oedd yn dlawd neu'n ddi-waith ac yn dioddef o ddiffyg maeth yn y blynyddoedd cyn y rhyfel yn cael eu bwydo'n well o lawer yn ystod y rhyfel oherwydd dogni.
Sut roedd dogni'n effeithio ar fywydau pobl yn yr Ail Ryfel Byd?
Dig for Victory, gan Mary Tunbridge.
Yn 1939 dechreuodd y llywodraeth ei hymgyrch 'Dig for Victory' a chyhoeddodd gyfres o bosteri lliwgar i annog pobl i dyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain.
Gellir gweld rhai o'r posteri hyn yn Swyddfa Bost Blaen-waun a Siop y Teiliwr yn yr Amgueddfa.
Cafodd cynhyrchion oedd dros ben eu troi’n jam, picl neu siytni, fel y gellid eu bwyta yn y gaeaf.
Roedd pobl hefyd yn cadw geifr, ieir, cwningod a moch. Roedd moch yn arbennig o boblogaidd gan y bydden nhw’n bwyta bron unrhyw beth a gellid eu pesgi'n gyflym i'w lladd am eu cig.
Roedd Woolton Pie yn bastai llawn llysiau ac roedd yn bryd cyffredin iawn yn ystod rhyfel.
Roedd yn galluogi pobl i ddefnyddio'r llysiau a dyfwyd ganddyn nhw a'r llysiau a gafodd eu dogni, gan sicrhau deiet maethlon.
Pwy oedd Potato Pete a Doctor Carrot?
Er mwyn gwneud yr ymgyrch yn ddeniadol, crëwyd dau gymeriad, Potato Pete a Doctor Carrot i annog pobl i fwyta llysiau.
Ymddangosodd y ddau yn y rhan fwyaf o ryseitiau mewn llyfrau a chylchgronau.
Pa fath o fwyd gafodd ei ddogni ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd?
Dyma enghraifft o ddogn i un oedolyn yn ystod y rhyfel:
- Bacwn a ham 4 owns
- Menyn 2 owns
- Caws 2 owns
- Marjarîn 4 owns
- Braster coginio 4 owns
- Llaeth 3 pheint
- Siwgr 8 owns
- Jam 1 pwys bob deufis
- Te 2 owns
- Wyau, 1 yr wythnos, os oedd ar gael a phecyn o wyau powdr bob pedair wythnos.
-
Oherwydd eu bod yn dal i dyfu, roedd plant yn derbyn llaeth ychwanegol, sudd oren ac olew iau penfras.
Roedd llawer o eitemau nad oeddent yn fwyd hefyd yn cael eu dogni fel sebon, dillad, petrol a phapur.
Pryd daeth dogni i ben ar ôl yr Ail Ryfel Byd?
Daeth y rhyfel i ben yn 1945 ond parhaodd y dogni.
Oherwydd tywydd gwael, roedd bara'n cael ei ddogni tan 1948 ac roedd tatws hefyd yn brin.
Doedd rhai bwydydd ddim yn cael eu dogni o gwbl e.e. cig morfil ond, heb fawr o syndod, ni fu hyn erioed yn boblogaidd gyda phobl Prydain!
Dim ond ar ddechrau'r 50au y daeth dogni rhai bwydydd i ben h.y. te yn 1952, wyau, hufen, siwgr a melysion yn 1953, a menyn, caws ac olew coginio yn 1954 a chig a bacwn yn 1954.
Dyma lun o Mrs Barbara Donaldson o Aberdâr, Morgannwg Ganol.
Roedd hi'n cofio dogni'n glir gan ei bod hi'n 13 oed pan ddechreuodd y rhyfel.
Roedd yr wy sych yn eithaf blasus, meddai, ac roedd modd ei ddefnyddio mewn sawl ffordd.
Ar ôl y rhyfel, roedd hi bob amser yn gwrthod prynu marjarîn gan fod arno flas artiffisial a’i fod yn ei hatgoffa hi o flynyddoedd y rhyfel a "The White Cliffs of Dover", sef cân nad oedd hi erioed yn hoff ohoni!
Ffeithiau llai adnabyddus am Ddogni yn yr Ail Ryfel Byd.
Nid oedd cig morfil yn cael ei ddogni, h.y. roedd ar gael i bobl ei brynu heb lyfrau dogni.
Doedd hwn ddim yn boblogaidd gyda'r cyhoedd ym Mhrydain gan fod pobl o’r farn bod ganddo arogl annymunol a blas diflas hyd yn oed pan ychwanegwyd sbeisys ato.
Gan fod bananas wedi'u mewnforio h.y. wedi'u cludo o wledydd tramor, roedden nhw’n un eitem o fwyd nad oedd ar gael o gwbl yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Byddai rhai siopau ffrwythau'n rhoi arwydd yn eu ffenestri gan ddweud, "Oes wir, does dim bananas gennym!" i godi ysbryd pobl. Ysbrydolwyd hyn gân hwyliog Americanaidd o'r 1920au “Yes, we have no bananas!”.
Ffrwythau eraill na welodd llawer o blant mohonyn nhw nes bod y rhyfel wedi dod i ben, oedd orenau, lemonau, pîn-afalau a grawnwin, oedd hefyd yn cael eu mewnforio.
sylw - (13)
Because of the lack of them, an Orange always came in stockings at Christmas.
Born 1943.
Because of the lack of them, an Orange always came in stockings at Christmas.
Born 1943.
During and post WW 2 ration books were introduced to manage the distribution of essential food items eggs, butter etc to ensure we all had access to these items in fair and reasonable quantities.... Rationing of food, fuel etc had been "mandated" by the then government of the day and administered by local authorities and businesses. Some of us are still around to bear witness to these difficult times and be thankful to the government and our parents. P
During and post WW 2 ration books were introduced to manage the distribution of essential food items eggs, butter etc to ensure we all had access to these items in fair and reasonable quantities.... Rationing of food, fuel etc had been "mandated" by the then government of the day and administered by local authorities and businesses. Some of us are still around to bear witness to these difficult times and be thankful to the government and our parents. P
It's a shocking revelation reading the ration portions. We take so much for granted today.
An excellent article, clear and informative.