Cymru Yfory
Roedd blwyddyn Arwisgo’r Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon ym 1969 yn flwyddyn gyffrous iawn yng Nghymru. Yn rhan o ddathliadau swyddogol Blwyddyn yr Arwisgo, cynhaliwyd arddangosfa ‘Cymru Yfory’ ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i adlewyrchu cyffro glanio ar y lleuad a thaith Apollo 11.
Fel y disgrifiwyd yn rhagair y catalog:
“Os dewisa Amgueddfa Genedlaethol dderbyn cyfraniadau o stiwdio'r lluniwr, o'r farchnadfa, o swyddfa'r cynlluniwr neu labordy ymchwil ni ofynna am batrwm i'w ddilyn. Dyna a wnaeth Amgueddfa Victoria ac Albert mewn modd cyffrous yn 1946 yn yr arddangosfa ‘Britain can make it’. Gwelsom yr adeg honno wedi llawer blwyddyn lom fflach o anturiaeth a lliw ac adawiad annisgwyl am y dyfodol.
Dewisodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru gyfrannu i flwyddyn yr Arwisgo a Chroeso '69 trwy edrych tu draw i'w gorwelion cyffredin ac i'r dyfodol.
Gwahoddwyd cyfraniadau amrywiol oddi wrth wahanol sefydliadau a gofynnwyd iddynt am syniadau dychmygol yn ymwneud â'r dyfodol. Nid addewidion mohonynt; nid syniadau dymunol efallai, ond cyfeiriant o leiaf at agweddau o bosibliadau'r dyfodol.”
Roedd yr arddangosfa yn gam mawr i ffwrdd o draddodiadau arferol yr Amgueddfa. Roedd yn dangos nid yn unig diddordeb yn y gorffennol, ond hefyd ym mywyd y gymuned yn y cyfnod presennol a'r dyfodol.
Defnyddiwyd y Brif Neuadd i gyd – wedi'i gwahanu oddi wrth weddill yr Amgueddfa gyda llenni mawr a nenfwd plastig enfawr wedi’i lenwi ag aer. Am y tro cyntaf, comisiynwyd dylunwyr proffesiynol i ddylunio a chynllunio'r arddangosfa. Cydlynodd Alan Taylor (Uwch Ddylunydd, BBC Wales TV) a John Wright (Pennaeth Coleg Celf Casnewydd) y dylunio, gyda thros 20 sefydliad yn cyfrannu. Roedd y canlyniad yn arbennig ac yn syrpreis llwyr i bob ymwelydd a oedd yn adnabod y Brif Neuadd fel lleoliad ffurfiol ar gyfer cerfluniau clasurol.
Roedd amrywiaeth y stondinau yn yr arddangosfa hon ym 1969 yn anferth, a’u dychymyg yn ddi-ben-draw. Yn eu plith, roedd syniadau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol – o Gaerdydd i’r Cymoedd, aber afon Hafren a thai ac ysgolion. Roedd rhai yn realistig ond roedd y rhan fwyaf yn ymylu ar y rhyfedd a dwl, yn enwedig y stondinau am ddillad, dodrefn ac arferion yr aelwyd yn y dyfodol. Roedd General Industrial Plastics Ltd, sef cynhyrchwyr a dylunwyr eitemau plastig, yn gyfrannwr mawr. Y cwmni yma wnaeth greu’r nenfwd plastig llawn aer, ynghyd â darnau o ddodrefn llawn aer a'r bag plastig a ddaeth gyda'r catalog swyddogol. Cyfrannodd Coleg Celf Caerdydd, y Bwrdd Glo Cenedlaethol, Dinas Caerdydd, Swyddfa'r Post a British Rail at y stondinau hefyd.
Yn rhan o'r awyrgylch llawn hwyl, crëwyd cyfrannwr ffug o'r enw Kumro Kemicals Corporation. Mae'r catalog yn esbonio y sefydlwyd y cwmni ym 1999 (ym 1969 y cynhaliwyd y digwyddiad hwn!) a bod eu cynnyrch yn "ganlyniad i'r rhaglen ymchwil fwyaf dwys erioed gan unrhyw sefydliad yn Hemisffer y Gorllewin..." Yn rhan o'u cyfraniad, cynhyrchodd Kumro amlenni wedi’u selio yn dwyn y teitl, PEIDIWCH AG AGOR TAN 1999 – ac mae un yn y Llyfrgell sydd yn dal heb ei hagor!
Wrth gyhoeddi delweddau, rhaid ystyried materion hawlfraint, ac mae gan nifer o'r ffotograffau hyn stamp ar y cefn gyda naill ai Hylton Warner & Co Ltd neu Giovanni Gemin (Whitchurch Road, Caerdydd). Ychydig iawn o wybodaeth ddaeth i'r fei wrth chwilio am Hylton Warner ar-lein, a dim byd o gwbl am Giovanni Gemin. Felly, rhoddwyd hysbyseb ar wefan y Photo Archive News yn gofyn i unrhyw un a oedd yn gyfarwydd â'r ddau ffotograffydd gysylltu. Ar ôl sbel, clywsom gan fab Giovanni Gemin. Yn ei haelioni, rhoddodd yr awdur uchel ei fri, Giancarlo Gemin, ganiatâd i ni gyhoeddi'r ffotograffau, a dywedodd y canlynol wrthym am ei dad:
“O 1961 ymlaen, roedd e'n ffotograffydd diwydiannol a masnachol yng Nghaerdydd. Roedd yn gweithio’n gyson i BBC Cymru, ac roedd yn un o ffotograffwyr swyddogol Arwisgo’r Tywysog Siarl. Cafodd gydnabyddiaeth gan Sefydliad Siartredig y Ffotograffwyr Corfforedig (AIIP) ac roedd yn Aelod Cyswllt Sefydliad y Ffotograffwyr Meistr (AMPA).”
Yn ogystal ag eitemau o effemera megis y catalog swyddogol, bag plastig, sticeri ac yn y blaen, mae dwy gyfrol o lyfrau sylwadau ymwelwyr hefyd wedi goroesi. Dyma gofnod gwych o ymateb yr ymwelwyr. Mae'r rhan fwyaf yn gadarnhaol iawn, ond nid oedd pawb yn gwerthfawrogi edrych i'r dyfodol yn hytrach na'r gorffennol clasurol. Dyma ambell sylw sydd wedi ein gwneud i ni wenu:
BW, Rhiwbeina “Ofnadwy”
RM, Rhondda “Ddim cystal â'r Amgueddfa Brydeinig”
MB, Cheltenham “Wedi drysu’n lân!”
MD, Durham “Mae'n well gennyf i'r HEN GYMRU falch ac urddasol, nid yr un plastig a ffug”
CS, Caerdydd “Angen dwstio”
SL, Caerdydd “Rwtsh, gwastraff gofod amgueddfa da!”
TO, Swydd Corc “SBWRIEL”
Yn ddiweddar buom mewn cysylltiad â Drake Educational Associates a brynodd Hylton Warner ynghyd â hawlfraint eu ffotograffau rai blynyddoedd yn ôl. Diolch iddynt am adael i ni ddefnyddio'r delweddau yn yr erthygl hon.
sylw - (3)