Cymru yn y Gofod

Edrych ar y Lleuad

Beth yw’r Lleuad?

Y Lleuad yw unig loeren naturiol y Ddaear. Fe’i ffurfiwyd 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl ac mae oddeutu 240,000 o filltiroedd o’r Ddaear.

Mae’r Lleuad yn cylchdroi’r Ddaear unwaith bob 27 diwrnod, yr un amser ag y mae’n ei gymryd i droi unwaith. O’r herwydd, mae’n ymddangos o’r Ddaear fel pe bai’r Lleuad yn aros yn ei hunfan, yn hytrach na throelli.

Neil Armstrong oedd y person cyntaf i gerdded ar y Lleuad ym 1969. Ers hynny mae 11 o ofodwyr wedi cerdded yn ôl ei droed. Mae cynlluniau i bobl ddychwelyd yn y dyfodol agos, gyda NASA yn gobeithio codi canolfan yno erbyn 2028.

Syr William Lower (tua 1570-1615)

Wedi’i eni yng Nghernyw, symudodd Syr William Lower i Drefenty, Sir Gaerfyrddin, o gwmpas 1601 wedi iddo briodi â Penelope Perrot.

Ym 1607, arsyllodd ar Gomed Halley gyda’i lygad noeth a defnyddiodd groesffon i fesur ei safle mewn perthynas â’r sêr. Rhannodd ei ganfyddiadau gyda seryddwyr eraill y cyfnod, gan gynnwys Thomas Harriot, ddaeth yn gyfaill agos iddo.

Bu gwelliant mawr yn arsylliadau Lower wedi i’r telesgop gael ei ddyfeisio yn yr Iseldiroedd ym 1608. O fewn blwyddyn roedd seryddwyr Prydain, gan gynnwys Harriot, yn gwneud telesgopau eu hunain ac yn eu hanfon at arsyllwyr eraill megis Lower.

Magodd Lower ddiddordeb mewn astudio’r Lleuad gyda’i delesgop. Ym 1610, arsyllodd ar ei hwyneb afreolaidd gan ei gymharu â tharten yr oedd ei gogyddes wedi’i choginio – ‘yn llawn pethau golau a thywyll’. Ni chafodd y darganfyddiad hwn ei gyhoeddi gan Lower – y seryddwr o’r Eidal, Galileo Galilei, gafodd y clod.

John Dillwyn-Llewellyn (1810-1882)

Ganwyd John Dillwyn-Llewellyn yn Abertawe ym 1810, yn fab hynaf i Lewis Weston Dillwyn, dyn busnes a naturiaethwr lleol blaenllaw.

Magodd ddiddordeb mewn ffotograffiaeth yn ystod y 1840au, ac arloesodd yn y broses Oxymel - ffordd o gadw delweddau gan ddefnyddio mêl a finegr.

Roedd gan Llewellyn gariad mawr at seryddiaeth hefyd ac ym 1851 cododd arsyllfa ar dir ei ystâd ym Mhenlle’r-gaer. Anrheg pen-blwydd i’w ferch, Thereza, a rannai ei ddiddordeb yn awyr y nos, oedd yr arsyllfa. Byddai Thereza yn cynorthwyo ei thad gyda’i arbrofion, ac ym 1857 bu iddynt gynhyrchu un o’r ffotograffau cynharaf o’r Lleuad. Arweiniodd eu hymdrechion at y safle’n dod yn lle poblogaidd i wylio’r sêr.

Yn 2013, lansiodd Ymddiriedolaeth Penlle’r-gaer broject i adfer yr adeilad i’w ogoniant blaenorol.

Arthur Mee a Chymdeithas Seryddol Cymru

Ganwyd Arthur Mee yn Aberdeen, yr Alban, ym mis Hydref 1860. Pan oedd yn ifanc, symudodd y teulu i Lanelli, ac ym 1892 ymgartrefodd Arthur yng Nghaerdydd gan weithio fel newyddiadurwr i’r Western Mail.

Dangosodd Mee ddiddordeb brwd mewn seryddiaeth o oed ifanc. Pan oedd yn ddwy ar bymtheg cafodd delesgop ac arsyllodd ar rai o wrthrychau Cysawd yr Haul, megis y Lleuad a’r blaned Mawrth, gan wneud darluniau manwl o’u nodweddion.

Chwaraeodd Mee ran flaenllaw hefyd mewn annog diddordeb amaturaidd mewn seryddiaeth yng Nghymru, gan sefydlu Cymdeithas Seryddol Cymru ym 1895. Byddai’r Gymdeithas yn trefnu darlithoedd rheolaidd ar bynciau seryddol ac yn cyhoeddi cyfnodolyn dan olygyddiaeth Mee. Ar ei hanterth, roedd gan y gymdeithas 200 o aelodau, ond daeth i ben ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914.

Mae Crater Mee, ar ochr dde-orllewinol y Lleuad, yn anrhydeddu ei gyfraniad i seryddiaeth.

Hugh Percy Wilkins (1896-1960)

Ganwyd Wilkins yng Nghaerfyrddin ym mis Rhagfyr 1896. Roedd ei ddiddordeb mewn seryddiaeth yn amlwg o oed ifanc; cynhyrchodd ei ddarluniau seryddol cyntaf pan oedd yn 13 oed.

Wedi dychwelyd o fod yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, symudodd Wilkins i Lanelli lle magodd ddiddordeb mawr mewn astudio’r Lleuad a’i hwyneb. Cwblhaodd ei fap cyntaf o’r Lleuad ym 1924 a dros y ddeng mlynedd nesaf cyhoeddodd nifer o fapiau mwy a manylach.

Ym 1938, dechreuodd Wilkins weithio ar fap llawer mwy. Gorffennwyd y map ym 1946 a dyma’i waith enwocaf. Roedd dros 7.6 metr (300 modfedd) mewn diameter ac yn datgelu rhannau cudd o’r Lleuad a nodweddion oedd gynt yn anhysbys. Cafodd y map ei ddefnyddio gan NASA i benderfynu lle i lanio yn ystod teithiau’r Apollo yn y 1960au. Yn anffodus, ni fu Wilkins fyw i weld hyn, ond enwyd crater ar y Lleuad er anrhydedd i’w gyfraniad i waith arsyllu ar y lleuad.

Eclips Haul, 2015

Ar 20 Mawrth 2015, roedd Prydain yn dyst i ddigwyddiad prin iawn, sef eclips haul.

Mae eclips haul yn digwydd pan fo’r Lleuad yn pasio’n uniongyrchol rhwng y Ddaear a’r Haul, gan gau allan goleuni haul uniongyrchol a throi dydd yn dywyllwch. Yn y 500 mlynedd diwethaf, dim ond wyth eclips llwyr sydd wedi bod yn bosibl eu gweld o’r Deyrnas Unedig; y diwethaf ym 1999. Yn 2015, roedd modd gweld eclips rhannol o Gymru, oedd yn ymestyn dros oddeutu 85% o’r Haul.

Ymgasglodd pobl i wylio’r eclips mewn digwyddiadau oedd wedi’u trefnu’n arbennig ledled y wlad; un ohonynt yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Gwyliodd dros 200 o amaturiaid, seryddwyr a phlant ysgol y digwyddiad o ardd yr Amgueddfa gan ddefnyddio telesgopau a theclynnau arsyllu cartref.

Roedd rhaid gwisgo sbectol arbennig i edrych ar yr eclips yn ddiogel. Roedd rhai o’r rheiny a ddefnyddiwyd gan arsyllwyr yn yr amgueddfa hon wedi’u gwneud gan Dr Howard Miles o Bort Talbot, oedd yn un o brif wneuthurwyr y sbectol syllu ar yr haul.

Cymru, Y SÊR a'r Planedau

Astroarchaeoleg

Roedd nifer o gredoau’n hynafiaid yn cylchdroi o amgylch safleoedd arwyddocaol gwawrio a machlud yr Haul, y Lleuad neu’r sêr. Roeddynt yn codi cofebau i nodi’r digwyddiadau hyn. Astroarchaeoleg yw’r enw a roddir ar astudio’r safleoedd hyn.

Ceir nifer o’r safleoedd pwysig hyn yng Nghymru, gan gynnwys Bryn Celli Ddu yn Ynys Môn. Codwyd y gofeb, ger tref Llanddaniel-fab, oddeutu 5000 o flynyddoedd yn ôl. Fe’i defnyddiwyd yn wreiddiol fel lloc defodol ac yn ddiweddarach daeth yn siambr gladdu.

Bryn Celli Ddu yw’r unig feddrod yn Ynys Môn sydd wedi’i gosod mewn llinell sy’n cyd-fynd â chodiad yr Haul ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn. Ar doriad gwawr ar hirddydd haf, mae’r Haul, wrth iddo godi, yn mynd i mewn drwy gyntedd y gofeb gan oleuo’r siambr gladdu fewnol. Y gred oedd bod y goleuni hwn yn dod â chynhesrwydd a bywyd i’r rhai oedd yn y siambr.

Joseph Harris (1702/3-1764)

Ganwyd Joseph Harris yn Nhrefeca, Powys. Roedd ei ddiddordeb mewn seryddiaeth yn amlwg o oed ifanc a gwyddom ei fod wedi creu nifer o offerynnau ar gyfer ei arsylliadau. Parhaodd y diddordeb hwn gan ddatblygu’n yrfa broffesiynol pan symudodd i Lundain yn 22 oed.

Tra’r oedd yn Llundain, datblygodd Harris enw da fel gwneuthurwr offerynnau, gan brofi nifer o’i ddyfeisiau ar ddwy fordaith i’r Caribî; un rhwng 1725 a 1727 a’r llall rhwng 1730 a 1732. Yn ystod y mordeithiau hyn, gwnaeth Harris nifer o arsylliadau pwysig o ran safle’r ddaear a’r planedau.

Ym 1761, gyda’i iechyd yn dirywio, dychwelodd Harris i Drefeca i dystio i un o ddigwyddiadau gwyddonol pwysicaf y ddeunawfed ganrif – y blaned Fenws yn croesi’r Haul. Yn ôl un hanesydd, Harris oedd yr unig un i arsyllu ar y digwyddiad o Gymru.

Nathaniel (1725-1804) ac Edward Pigott (1753-1825)

Ganwyd Nathaniel Pigott ym Middlesex, Lloegr. Roedd Pigott yn seryddwr amatur brwd ac yn gyfaill agos i seryddwyr enwog megis Charles Messier a William Herschel. Drwy’r cysylltiadau hyn ac yn sgil gyrfa lwyddiannus yn y gyfraith, gallai Pigott brynu rhai o offerynnau gwyddonol a thelesgopau gorau ei ddydd.

Ym 1777, symudodd Nathaniel a’i fab, Edward, i Frampton House ger Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg. Aethant ati i godi arsyllfa ar dir yr ystâd, a’r farn gyffredin oedd mai hon oedd yr orau yng Nghymru tan flynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sicrhaodd yr adeilad hwn, ac ystod yr offerynnau arsyllol oedd ynddo, le amlwg i Gymru ym maes seryddiaeth.

Ym 1770, darganfu Nathaniel fodolaeth ‘sêr dwbl’ – dwy seren sy’n ymddangos fel petaent yn agos at ei gilydd wrth edrych arnynt drwy delesgop. Yn yr un flwyddyn, sylwodd Edward ar nifwl (nebula) yng nghlwstwr sêr Coma Berenices. Hwn yw’r unig wrthrych a nodwyd o Gymru a ymddangosodd yng nghatalog enwog Messier o Wrthrychau Seryddol.

Isaac Roberts (1829-1904)

Ganwyd Isaac Roberts yn Groes, Sir Ddinbych. Symudodd i Lerpwl yn bymtheng mlwydd oed i ddilyn gyrfa fel peiriannydd. Roedd gan Roberts ddiddordeb brwd mewn seryddiaeth ac arloesodd gyda ffurf o ffotograffiaeth llun hir oedd yn caniatáu iddo ddilyn hynt gwrthrychau seryddol gyda llun mwy cadarn nag unrhyw beth a welwyd o’r blaen.

Yn ystod ei oes, tynnodd Roberts nifer o luniau o glystyrau sêr a galaethau, gan ddatgelu manylion oedd gynt yn anhysbys am siâp, maint a threfn sêr. Ei ffotograff enwocaf yw’r Nifwl Mawr yn Andromeda, a dynnodd ym 1887. Dangosodd y ffotograff hwn fod gan y galaeth strwythur troellog – ffaith oedd yn annisgwyl ar y pryd – a datguddiodd wybodaeth newydd am ffurfiant galaethau.

Mae pwysigrwydd gwaith Roberts wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol. Ym 1895, dyfarnwyd iddo Fedal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, ac mae crater ar y Lleuad wedi’i enwi er anrhydedd iddo.

Y Ganolfan Gwylio’r Gofod

Spaceguard UK yn Nhrefyclo, Powys, yw’r unig sefydliad yn y Deyrnas Unedig sy’n canolbwyntio ar berygl Gwrthrychau Ger y Ddaear (GGD). Meteoroidau, asteroidau a chomedau yw GGD, sy’n dod yn agos, neu’n mynd i wrthdrawiad â’r Ddaear, gan achosi dinistr o bosibl. Llond llaw yn unig o seryddwyr ym Mhrydain sy’n astudio’r gwrthrychau hyn, ac mae un ohonynt, Jay Tate, yn rhedeg y Ganolfan.

Mae bygythiad GGD yn cael ei dderbyn yn fwyfwy'r dyddiau hyn, yn enwedig yn sgil meteor yn ffrwydro dros Chelyabinsk, Rwsia yn 2013. Mae gwaith sefydliadau fel Spaceguard UK yn hanfodol i asesu peryglon posib a chynnal gwaith ymchwil ar sut y gellid osgoi effeithiau gwrthdrawiad. Un ffordd bosibl o ddelio â GGD sy’n bygwth yw eu ‘gwthio’ oddi ar eu trywydd gan ddefnyddio roced neu ffrwydrad dan reolaeth.

Bannau Brycheiniog ac Awyr Dywyll Cwm Elan

Gwobr a roddir gan yr International Dark-Sky Association (IDA) i ardaloedd sydd ag awyr nos o ansawdd Eithriadol yw Statws Gwarchodfa Awyr Dywyll.

Dyfarnwyd y statws hwn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 2013, ac mae’n un o wyth safle’n unig ledled y byd. Er mwyn cael y teitl hwn, cynhaliwyd arolwg o 36 lleoliad ar hyd a lled 520 milltir sgwâr y Parc Cenedlaethol er mwyn mesur lefelau llygredd goleuni. Cronfa ddŵr Wysg yw un o’r lleoliadau gorau i arsyllu ar awyr y nos yn y parc.

Mae potensial mawr yng ngwerth ‘Twristiaeth Awyr Dywyll’ i’r Parc Cenedlaethol. Mae ymdrechion eisoes wedi’u gwneud i leihau goleuni diangen yn y Parc, gan gynnwys goleuadau stryd, fydd yn arwain at leoliadau hyd yn oed yn dywyllach.

Ym mis Gorffennaf 2015, rhoddodd yr IDA statws haen arian i Ystâd Cwm Elan. Hwn yw’r Parc Awyr Dywyll cyntaf yn y byd sydd dan berchnogaeth breifat gyda mynediad i’r cyhoedd.

Cymry yn y Gofod

Tecwyn Roberts

Ganwyd Tec Roberts yn Llanddaniel-fab, Ynys Môn, ym 1925. Ar ôl gwasanaethu am gyfnod byr yn yr Awyrlu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd weithio fel peiriannydd awyrenneg, gan symud i Ganada yn gynnar yn y 1950au er mwyn bwrw ymlaen â’i yrfa.

Ymunodd Roberts â NASA ym 1959 fel Swyddog Deinameg Hediadau. Fel rhan o’r rôl hon, roedd yn gyfrifol am reoli symudiad llongau gofod pan oeddent mewn orbit, gan weithio’n gyntaf yng nghanolfan Rheoli’r Daith yn Cape Canaveral, ac yn ddiweddarach yn Houston, Texas. Tec a boblogeiddiodd y dywediad ‘A-OK’ i ddynodi bod rhywbeth ‘yn gweithio’n berffaith’.

Roedd Roberts yn ymwneud yn agos â theithiau Apollo yn ystod y 1960au a dyfarnwyd iddo’r Fedal Gwasanaeth Neilltuol gan NASA, eu hanrhydedd uchaf. Cadwodd Tec gysylltiad agos â Llanddaniel-fab yn ystod ei yrfa, gan ddychwelyd i’r pentref sawl gwaith cyn ei farwolaeth ym 1988.

George Abbey

Mae George Abbey’n disgrifio’i hun fel ‘Americanwr Cymreig’. Fe’i ganwyd yn Seattle ym 1932 ond ganwyd ei fam yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin, cyn ymfudo i Ogledd America yn ystod y 1920au.

Tra’r oedd yn gwasanaethu fel peilot yn Awyrlu’r Unol Daleithiau, gwnaeth Abbey gais i fod yn ofodwr, ond ni chafodd ei dderbyn. Er gwaethaf hynny, ymunodd â NASA ac ym 1976 cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Hediadau, gan roi’r cyfrifoldeb cyffredinol am bobl yn hedfan yn y gofod iddo. Yn ddiweddarach yn ei yrfa, penodwyd Abbey yn Gyfarwyddwr Canolfan Ofod Johnson gan chwarae rôl hanfodol yng nghreu’r Orsaf Ofod Ryngwladol.

Yn ystod ei amser yn NASA, trefnodd Abbey i lun o Dylan Thomas fynd o Amgueddfa‘r Boathouse yn Nhalacharn i’r gofod ar fwrdd y wennol ofod Columbia. Mae Abbey’n parhau i ymweld â Chymru’n rheolaidd ac yn ddiweddar traddododd ddarlith flynyddol Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe.

Joe Tanner

Ganwyd Joe Tanner yn Danville, Illinois, ym 1950. Er gwaethaf ei fagwraeth yn America, roedd gan Tanner gysylltiadau clos â Chymru. Tyfodd ei fam i fyny yn Nhregaron, Ceredigion ac roedd ei dad-cu’n gweithio fel prifathro yn Llanddewi Brefi, pentref y bu i Tanner ei hun ymweld ag ef ym 1995.

Ar ôl gweithio fel peilot i lynges yr Unol Daleithiau, ymunodd Joe â NASA ym 1984. Fel rhan o’i yrfa fel gofodwr, hedfanodd ar bedair taith gwennol ofod, gan dreulio dros 43 diwrnod yn y gofod. Cerddodd yn y gofod sawl gwaith hefyd, gan drwsio’r Telesgop Hubble unwaith.

Ym 1994, Tanner oedd y gofodwr cyntaf i fynd â’r ddraig goch i’r gofod. Yn ddiweddarach, cafodd y faner hon ei rhoi i Amgueddfa Cymru ac mae i’w gweld fel rhan o’r arddangosfa hon. Bu profiadau Joe yn y gofod yn ysbrydoliaeth i gasgliad o benillion a ysgrifennwyd gan Gwyneth Lewis. Mae Lewis, oedd yn Fardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, yn gyfnither i Joe Tanner.

Dafydd Williams

Ganwyd Dafydd Williams yn Saskatoon, Canada, ond un o Fargoed yn y cymoedd oedd ei dad, cyn iddo ymfudo i Ogledd America yn 30 oed.

Ar ôl gweithio yn y byd meddygol, cafodd Dafydd ei ddewis gan Asiantaeth Ofod Canada ym 1992. Dair blynedd yn ddiweddarach, ymunodd â NASA fel gofodwr arbenigol ar daith. Hedfanodd ar ddwy daith i’r gofod, y gyntaf ar fwrdd y wennol ofod Columbia ym 1998 a’r ail ar y wennol ofod Endeavour yn 2007. Cerddodd yn y gofod dair gwaith yn ystod ei yrfa.

Er iddo gael ei fagu yng Nghanada, mae Dafydd yn falch o’i dreftadaeth Gymreig. Ar ei daith gyntaf ym 1998, aeth â nifer o eitemau Cymreig gydag ef gan gynnwys baner y ddraig goch, cap rygbi a wisgwyd gan Syr Gareth Edwards, a thegan Mr Urdd. Cafodd ei gyfweld yn fyw o’r gofod ar raglen deledu BBC Wales Today, gan ddod y person cyntaf i siarad Cymraeg yn y gofod.

ISSET

Ffurfiwyd yr Ymddiriedolaeth Addysg Ysgol Ofod Ryngwladol (ISSET) yng Nghaerdydd ym 1998. Ei nod yw amlygu gwerth archwilio’r gofod ac ysbrydoli pobl ifanc gyda’u gyrfaoedd.

Yn y gorffennol mae’r sefydliad wedi cynnal cystadleuaeth i fyfyrwyr gynllunio arbrofion y gellid eu cynnal yn y gofod. Yna estynnwyd gwahoddiad i fyfyrwyr llwyddiannus fynd ar daith bythefnos i safleoedd NASA yn San Francisco, Florida a Houston. Yn fwy diweddar, mae myfyrwyr wedi gweithio’n uniongyrchol gyda gofodwyr a gwyddonwyr NASA i gynllunio arbrofion i’w cynnal ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol.

Yn 2014, dechreuwyd anfon arbrofion llwyddiannus i’r gofod, gydag arbrofion dau grŵp o fyfyrwyr o Gymru’n cael eu dewis i gael eu profi ar daith yn y dyfodol. Bydd un arbrawf yn edrych ar effaith diffyg pwysau ac un arall ar ddatblygiad clefyd Alzheimer.

Mae’r cynllun bellach yn denu diddordeb o bedwar ban byd, ond mae’r sefydliad yn cadw cysylltiadau arbennig o gryf gyda’r wlad lle cafodd ei ffurfio.

Hefin Jones – Ymgyrch Ofod Cymru

Dylunydd sy’n gweithio yn Llundain ac a fagwyd yn Aberteifi yw Hefin. Mae ei broject ‘Ymgyrch Ofod Cymru’ yn edrych ar sut y gellid defnyddio diwylliant, sgiliau a thraddodiadau Cymru mewn cyd-destun cosmig.

Fel rhan o’r project hwn, creodd Hefin siwt ofod sydd wedi’i gwneud yn llwyr o ddeunyddiau Cymreig. Mae’r gwlân a ddefnyddiwyd i wneud y siwt wedi dod o’r melinau gwlân olaf sydd ar ôl yng Nghymru, tra bo gwneuthurwr clocsiau traddodiadol wedi gwneud clocsiau gofod yn lle esgidiau gofod. Adeiladodd brawd Hefin, sy’n blymer cymwysedig, system bwysedd sydd wedi’i llunio i gynnal bywyd yn y gofod.

Yn 2013, enillodd Hefin wobr Christine Risley am waith neilltuol mewn perthynas â thecstilau. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar nifer o brojectau dylunio gofod cysylltiedig, yn cynnwys siwt ofod newydd a chynllunio canolfannau hyfforddi gofodwyr ffuglennol mewn pyllau glo gwag.

Technoleg Gymreig yn y Gofod

William Grove

Ganwyd William Grove yn Abertawe ym 1811. Yn gyfreithiwr o ran galwedigaeth, roedd Grove yn wyddonydd amatur brwd. Bu’n ymwneud yn agos â’r gwaith o ffurfio Sefydliad Brenhinol De Cymru ym 1835.

Ym 1842 dyfeisiodd y gell danwydd hydrogen a gynhyrchai drydan. Cyflawnodd hyn drwy roi electrodau mewn asid sylffyrig ac ar wahân mewn hydrogen ac ocsigen i gynhyrchu cerrynt trydanol. Trwy gysylltu nifer o gelloedd â’i gilydd gellid cael foltedd uwch.

Gan mlynedd yn ddiweddarach, roedd dyfais Grove yn sail i’r celloedd tanwydd a ddefnyddiwyd gan NASA ar gyfer teithiau orbit Gemini Earth, ac Apollo yn glanio ar y Lleuad. Yn fwy diweddar, mae’r dechnoleg hon wedi’i defnyddio i bweru’r Wennol Ofod a lloerennau.

Yn 2015, dadorchuddiodd Cyngor Dinas Abertawe Blac Glas yn agos at ei hen gartref yn Grove Place i anrhydeddu ei gyfraniad. Mae crater ar y Lleuad wedi’i enwi er cof amdano.

Beagle 2

Chwiliedydd Gofod Prydeinig a lansiwyd yn 2003 oedd Beagle 2. Ei ddiben oedd chwilio am arwyddion o fywyd – ddoe neu heddiw – ar y blaned Mawrth.

Cafodd y project ei reoli gan y Ganolfan Ofod Genedlaethol yng Nghaerlŷr a bu tîm mawr o arbenigwyr wrthi’n datblygu’r robot. Roedd gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe’n gyfrifol am ddatblygu braich robotig Beagle. Byddai’r fraich yn casglu samplau o bridd o’r blaned, cyn eu dychwelyd i’r labordy ar fwrdd y robot er mwyn chwilio am arwyddion o fywyd. Datblygodd y Brifysgol ddynwarediad cyfrifiadurol o wyneb y blaned Mawrth er mwyn ei gynorthwyo gyda’i symudiadau.

Roedd disgwyl i’r robot lanio ar y blaned Mawrth ar ddydd Nadolig 2003, ond ni chafwyd neges i gadarnhau ei fod wedi glanio’n ddiogel, a’r gred oedd ei fod ar goll. Fodd bynnag, yn 2015, dangosodd delweddau manwl a ddatblygwyd gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth fod Beagle wedi llwyddo i lanio ar y blaned Mawrth ond ei fod wedi methu gweithredu’n iawn.

Herschel

Adeiladwyd a gweithredwyd Arsyllfa Ofod Herschel gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd. Roedd yn weithredol rhwng 2009 a 2013. Mae’n parhau i fod y telesgop gofod isgoch mwyaf erioed i gael ei lansio.

Roedd adeiladu’r telesgop yn her eithriadol o gymhleth a dynnodd ar arbenigedd unigolion ledled y byd. Chwaraeodd myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd rôl hanfodol yn y broses hon gan gymryd yr awenau ar gyfer cynhyrchu un o dri chamera’r telesgop, o’r enw SPIRE.

Sbectromedr eglurdeb isel oedd SPIRE, ac roedd yn gallu gweld golau o sêr a phlanedau oedd biliynau o flynyddoedd goleuni i ffwrdd. Roedd yn ddigon pwerus i ganfod golau o fwlb golau 100w miliwn kilometr i ffwrdd neu fwlb ynni isel 20w ar y Lleuad. Roedd hyn yn caniatáu i fyfyrwyr astudio galaethau pell ac edrych yn agosach ar sut y caiff sêr eu ffurfio.

Ym mis Mehefin 2013, rhedwyd allan o’r heliwm hylif oedd yn cael ei ddefnyddio i oeri offerynnau’r telesgop a chafodd y lloeren ei diffodd.

Qioptiq

Gwneuthurwr arbenigol dalenni gwydr gwarchod yw Technoleg Gofod Qioptiq. Gyda’i ganolfan ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, mae’r cwmni’n un o ddau gyflenwr yn unig yn y byd sy’n cynhyrchu’r gwydr tenau a ddefnyddir ar y rhan fwyaf o loerennau.

Defnyddir y gwydr i warchod y celloedd haul sy’n pweru’r lloerennau rhag amgylchedd arw’r gofod. Er bod y gwydr cyn deneued â blewyn o wallt unigolyn, mae’n eithriadol o gryf. Mae modd ei blygu’n ddwbl heb iddo dorri.

Yn ystod y pedwar degawd y mae Qioptiq wedi bod yn gwneud y gwydr, mae wedi cael ei ddefnyddio ar delesgopau Gofod Hubble a Kepler, yr Orsaf Ofod Ryngwladol a’r Crwydrwyr Spirit ac Opportunity Mars. Yn fwy diweddar, mae wedi’i ddefnyddio ar daith Rosetta i lanio chwiliedydd ar gomed symudol. Cyflawnwyd hyn ym mis Tachwedd 2014.

Cymru a’r Gofod: Y Dyfodol

Strategaeth Ofod Cymru

Ym mis Gorffennaf 2015, cafodd Strategaeth Ofod Cymru ei lansio. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r rôl y mae Cymru’n gobeithio ei chwarae yng ngwaith archwilio’r gofod yn y dyfodol a’r cyfraniad y bydd yn ei wneud i dwf y sector gofod yn y Deyrnas Unedig.

Ymhlith y meysydd a nodwyd ar gyfer twf yng Nghymru mae systemau erial heb griw, gyrru rocedi yn eu blaen, cynhyrchu lloerennau ac arsyllu ar y Ddaear. Bydd datblygu’r meysydd hyn yn gwella’r dechnoleg yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer telegyfathrebu, adroddiadau tywydd, dadansoddi’r amgylchedd a diogelwch cenedlaethol.

Mae nifer fawr o gwmnïau a phrifysgolion, yn ogystal â Fforwm Aerofod Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i gydweithio er mwyn sicrhau fod Cymru’n hyrwyddo’i photensial yn rhyngwladol ac yn parhau i ddenu buddsoddiad newydd. Erbyn 2030, y gobaith yw y bydd Cymru yn creu 5% o drosiant diwydiant gofod y Deyrnas Unedig – oddeutu £2bn y flwyddyn.

Maes Rocedi Cymru

Mae teithiau masnachol i’r gofod eisoes yn realiti. Yn 2001 dechreuodd Asiantaeth Ofod Rwsia gludo ‘twristiaid gofod’, gyda theithiau’n costio dros ugain miliwn o ddoleri. Mae disgwyl i dwristiaeth gofod dyfu dros y deg mlynedd nesaf, gyda chwmnïau megis Virgin Galactic yn cynnig y cyfle i deithwyr dalu i hedfan y tu allan i atmosffer y Ddaear.

Mae Llywodraeth Prydain yn awyddus i fanteisio ar y farchnad hon ac mae yn y broses o ddewis safle addas ar gyfer maes rocedi’r Deyrnas Unedig. O restr fer wreiddiol o wyth safle, tri’n unig sydd ar ôl: Prestwick yn yr Alban, Newquay yng Nghernyw a Llanbedr yng Ngwynedd.

Pe câi ei ddewis, byddai datblygu maes rocedi yn Llanbedr yn creu cannoedd o swyddi ac yn arwain y ffordd ar gyfer rhagor o fuddsoddi. Fodd bynnag, mae cryn wrthwynebiad wedi bod, gydag ymgyrchwyr yn dadlau y byddai’r cynllun yn difetha ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae disgwyl cael penderfyniad ynghylch y maes rocedi yn gynnar yn 2016.

Treiddiwr Planedol Airbus

Mae Cymru’n gartref i nifer o gyfleusterau profi pwysig, gan gynnwys ail drac profi hiraf y byd ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin. Mae’r trac profi hwn, a weithredir gan gwmni technolegol QinetiQ, yn caniatáu i wrthrychau godi i gyflymder uchel cyn taro targed.

Yn ddiweddar, mae peirianwyr o’r Deyrnas Unedig wedi bod yn profi technoleg hyrddiol y credant y gellid ei defnyddio i archwilio Cysawd yr Haul. Cafodd treiddiwr dur a ddatblygwyd gan Airbus Defence and Space ei danio at giwb deg tunnell o eira er mwyn dynwared wyneb Europa, lleuad y blaned Iau. Teithiodd y treiddiwr yn agos at gyflymder sŵn ac roedd yn dal i fod mewn un darn wedi’r gwrthdrawiad.

Pan gaiff y treiddiwr ei danio i mewn i Europa, bydd yn drilio i mewn i’w chramen ac yn cymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi mewn labordy ar fwrdd y treiddiwr. Yna bydd y canlyniadau’n cael eu gyrru’n ôl i’r Ddaear. Mae rhagor o waith profi’n mynd rhagddo a’r gobaith yw y caiff y treiddiwr ei lansio yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Prifysgol Aberystwyth ac ExoMars

Archwiliwr robotig ar gyfer y blaned Mawrth yw’r Crwydrwr ExoMars ac mae disgwyl iddo gael ei lansio yn 2018. Bydd y daith yn chwilio am arwyddion posibl o fywyd – ddoe neu heddiw – ar y blaned Mawrth. Bydd hefyd yn archwilio wyneb y blaned er mwyn ceisio deall yn well sut mae wedi esblygu.

Caiff y daith ei harwain gan Asiantaeth Ofod Ewrop ac mae’n cyfuno arbenigedd nifer o sefydliadau. Mae tîm ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gyfrifol am ddatblygu technegau calibro lliwiau newydd ar gyfer Camera Panoramig y crwydryn. Bydd y technegau hyn yn sicrhau fod y delweddau a anfonir yn ôl i’r Ddaear yn gynrychiolaeth gywir o liwiau naturiol y blaned Mawrth.

Fel gyda thaith Beagle 2, bydd tîm Aberystwyth hefyd yn darparu map o dir y blaned er mwyn nodi safleoedd glanio posib i’r crwydryn. Bydd hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio delweddau a gymerir gan Gylchdröwr Rhagchwilio Planed Mawrth NASA.

Prifysgol Glyndŵr a’r Telesgop Eithriadol o Fawr Ewropeaidd

Ar hyn o bryd mae gwyddonwyr o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam yn gweithio ar ddatblygu’r drychau ar gyfer y Telesgop Eithriadol o Fawr Ewropeaidd. Bydd y telesgop yn cael ei leoli yn Chile, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn 2024. Bydd yn casglu pymtheg gwaith yn fwy o oleuni na’r telesgopau mwyaf sydd ar gael heddiw, gan ganiatáu iddo weld ymhellach i’r bydysawd.

Mae drychau’n rhan hanfodol o delesgop. Mae eu hansawdd yn pennu pa mor glir ac eglur yw’r delweddau sy’n cael eu cynhyrchu. Oherwydd maint y drych sydd ei angen ar gyfer y telesgop hwn – oddeutu hanner maint cae pêl-droed – nid yw’n bosibl ei adeiladu mewn un darn. O’r herwydd, mae gwyddonwyr yn defnyddio nifer o ddrychau llai wedi’u rhoi at ei gilydd fel jig-so.

Mae angen llyfnu ymylon y drychau hyn yn gynnil iawn fel eu bod yn ffitio’n dynn ac nad oes golau’n cael ei golli. Yn ddiweddar, derbyniodd y tîm ym Mhrifysgol Glyndŵr ganmoliaeth ledled y byd wedi iddynt lyfnhau ymyl drych prototeip i lawr i 7.5 nanometr – llai nag un miliwnfed rhan o filimetr.

Prifysgol Caerdydd a Twinkle

Taith uchelgeisiol yw Twinkle fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut gwnaeth ecsoblanedau ffurfio ac esblygu, ac mae disgwyl ei lansio yn 2019. Planed sy’n cylchdroi unrhyw seren heblaw’r Haul yw ecsoblaned. Mae’r planedau hyn y tu allan i Gysawd yr Haul.

Er bod 2,000 o ecsoblanedau eisoes wedi’u darganfod, ychydig iawn a wyddwn am y bydoedd pell hyn. Bydd Twinkle yn dadansoddi atmosfferau o leiaf 100 ecsoblaned yn y Llwybr Llaethog ac yn dweud wrthym a allent, neu yn wir a ydynt, yn cynnal rhyw ffurf ar fywyd.

Mae Prifysgol Caerdydd yn chwarae rôl allweddol yn y prosiect, gan gymryd cyfrifoldeb am ddatblygu offerynnau’r lloeren. Caiff y tîm ei arwain gan Dr Enzo Pascale sy’n gweithio gyda myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i ddatblygu’r dechnoleg hon. Mae’r cydweithrediad hwn yn strategol bwysig i Gymru, ac yn rhoi hyfforddiant i’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.