Arwyr cyffredin mewn cyfnod anghyffredin
Yn sgil yr argyfwng iechyd presennol mae galw am wirfoddolwyr i gefnogi’r GIG ac mae cynlluniau ar droed i addasu canolfannau yn ysbytai maes.
Dros ganrif yn ôl, gwelwyd yr un math o weithgaredd ar hyd a lled Prydain wrth baratoi at ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1909 unodd Cymdeithas Brydeinig y Groes Goch gydag Urdd Sant Ioan i greu cynllun y Voluntary Aid Detachment. Prif amcan y VAD oedd i wasanaethu a chefnogi’r ysbytai milwrol. Cawsant eu trefnu fesul siroedd ac roedd yr aelodau yn cynnwys dynion a menywod a fyddai’n cyflawni pob math o weithgarwch gwirfoddol.
Sefydlwyd yr uned, neu’r VAD, cyntaf yng Nghymru yn Sain Ffagan, Caerdydd ym mis Tachwedd 1909. Llywydd Cymdeithas y Groes Goch yn sir Forgannwg ar y pryd oedd y Fonesig Plymouth o Gastell Sain Ffagan. Yn fuan wedyn sefydlwyd unedau eraill ar draws Cymru, gyda chyfanswm o 32 VAD erbyn mis Medi 1910. O hynny ymlaen dechreuodd y gwaith o ddifrif yn recriwtio ac hyfforddi aelodau ac yn addasu adeiladau yn ysbytai.
Ar 24 Medi 1910, ymgasglodd dros 200 o ddynion a menywod o’r VADs newydd ar draws sir Forgannwg i ddigwyddiad yng ngerddi Castell Sain Ffagan. Prif bwrpas y diwrnod oedd i recriwtio mwy o wirfoddolwyr, menywod yn arbennig. Roedd hefyd yn gyfle i ddysgu am y gwaith; sut i drin cleifion yn y maes drwy ddefnyddio cymorth cyntaf gydag offer sylfaenol. Cynhaliwyd digwyddiadau o’r fath yn rheolaidd yng Nghastell Sain Ffagan dros y blynyddoedd yn arwain at y rhyfel.
Byddai’r unedau VAD yn cyfarfod o leiaf unwaith y mis a byddai’r aelodau (a elwid yn VADs hefyd) yn ennyn profiad drwy wirfoddoli mewn ysbytai. Roedd y menywod yn derbyn hyfforddiant mewn cymorth cyntaf, nyrsio cartref, glanweithdra a choginio tra roedd y dynion yn dysgu am gymorth cyntaf yn y maes a sut i gludo cleifion ar gludwely. Roedd yn ofynnol iddynt basio arholiadau er mwyn derbyn tystysgrif cymorth cyntaf a nyrsio cartref.
Anfonwyd rhai o’r VADs i ysbytai ar draws Prydain ond byddai’r mwyafrif yn aros i wirfoddoli yn eu cymunedau, megis Sain Ffagan. Yn sgil y prinder ysbytai, cynigiwyd pob math o adeiladau i ddeunydd y Groes Goch, o neuaddau pentref i blastai moethus. Addaswyd yr adeiladau hyn yn ysbytai atodol gyda tua 30 o welyau a fyddai’n cefnogi ysbyty filwrol gyfagos. Ym 1916 cynigiodd Iarll a’r Fonesig Plymouth y Neuadd Giniawa yng ngerddi Castell Sain Ffagan ar gyfer ei newid yn ysbyty atodol.
Erbyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ym mis Awst 1914 roedd gwaith y gwirfoddolwyr wedi sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer derbyn y cleifion cyntaf o’r rhyfel. Wedi hynny, cafodd llawer mwy eu recriwtio a’u hyfforddi. Bu gymaint â 90,000 o wirfoddolwyr yn gweithio adref a thramor yn ystod y rhyfel, gan chwarae rhan annatod yn gofalu am filwyr sâl a chlwyfedig.
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn rhoi mwy o hanes rhai o’r gwirfoddolwyr bu’n gweithio yn Ysbyty VAD y Groes Goch yn Sain Ffagan.