Meddyginiaethau Traddodiadol
Mae’n anodd dychmygu amser, yn enwedig ar hyn o bryd, pan nad oedd modd troi at y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol pan yn dioddef o anhwylder. Cyn sefydlu'r GIG ym 1948, roedd cael gafael ar ofal meddygol yn dasg llawer mwy cymhleth ac ansicr. Rhaid oedd talu am ofal doctor preifat, gyda’r mwyafrif yn ceisio osgoi ymweliad ag ysbytai’r cyfnod. Roedd insiwrans iechyd ar gael, ond nid oedd honno yn system gynhwysfawr o bell ffordd. O dan yr amodau anodd hyn, byddai trigolion Cymru yn troi at natur; at blanhigion a blodau a defnyddiau eraill i greu moddion, elïau, powltisiau a meddyginiaethau o bob math. Roedd rhain yn gynhwysion a fyddai ar gael yn hawdd ac fe’u defnyddid i drin amrywiaeth eang o anhwylderau ac anafiadau a fyddai’n poenydio pobl ac anifeiliaid.
Yn ystod yr 1970au a’r 1980au, aeth Amgueddfa Werin Cymru ati i gasglu tystiolaeth lafar gan gannoedd o siaradwyr er mwyn creu casgliad o wybodaeth ac atgofion am feddyginiaethau traddodiadol trigolion Cymru. Yr arbenigwraig yn y maes hwn ar staff yr Amgueddfa ar y pryd oedd ymchwilwraig ifanc a dawnus o’r enw Anne Elizabeth Williams. I ddathlu Wythnos Genedlaethol Garddio dyma gip ar atgofion siaradwyr yr Archif Sain am rai o’r planhigion, y blodau, y coed a’r llysiau a fyddai’n cael eu defnyddio.
Blodau a Phlanhigion
Roedd Edward Davies, Croes-goch, yn cofio defnyddio Dant y Llew (neu “ddant y ci” neu “ddail clais”) i gael gwared o ddafaden trwy rhwbio’r hylif gwyn o’r coesyn arno. Roedd eraill yn gwneud diod o flodau dant y llew ar gyfer gwella gwynegon. Yn Nhrawsfynydd a Llanuwchllyn, byddai rhai yn yfed trwyth o ddail dant y llew i buro’r gwaed. Yng Nghwm Main byddai trwyth dail dant y llew yn foddion ar gyfer trywinod.
Blodyn parhaol o deulu’r Aster yw’r Tansi (Tanacetum Vulgare) yn frodorol o Ewrop ac Asia. Ceir sôn amdano yng nghyfrol Complete Herbal Nicholas Culpeper. Byddai’r planhigyn hwn yn cael ei ddefnyddio yn sir Feirionnydd i drin llyngyr rhuban (tapeworm) tra yn Sir Benfro, byddai rhai yn ei ferwi mewn llaeth i drin rhyddni. Yn Llangybi, cofiai Mai Jones y defnyddiwyd y tansi weithiau i drin anhwylderau merched hefyd.
Ffa Corsydd (Bogbean). Yn Nhrawsfynydd, Llangybi a Llandysul byddai ffa corsydd yn cael ei ddefnyddio i drin problemau gyda’r dŵr ac yng Nghwm Main, byddai’n cael ei ddefnyddio i drin gwynegon a chrydcymalau. Yn Nhrawsfynydd, roedd Laura Morris yn cofio’r arfer o wneud trwyth o lin y mynydd a ffa corsydd i drin dolur cefn ac yn Llanuwchllyn, cofiai Catherine Jones rai yn cymryd trwyth ffa corsydd i buro’r gwaed.
Byddai Llysiau’r Dryw (Agrimony) hefyd yn cael eu defnyddio i drin problemau gyda’r dŵr yng Nghwm Main yn ogystal â Gelaets (Yellow Flag) a Chwerwlys yr Eithin (Wood Sage) mewn ardaloedd eraill. Roedd Ceinwen Richards yn cofio y byddai llysiau’r dryw hefyd yn cael eu defnyddio i wneud te i wella llosg cylla yng Nghroes-goch.
Arferid defnyddio sudd Llysiau Pen Tai (house-leek) i drin dafaden a chyrn ar y traed. Roedd y ddeilen gron a dail eiddew hefyd yn dda at gyrn. Yn ardal Llansannan, credai rhai hefyd bod llysiau pen tai yn fodd i gael gwared ar y ddrywinen (ringworm) a chofiai David Jones, Bronnant, eu berwi a'u “stwmpio” i wneud eli i iro'r llygaid.
Roedd llawer yn credu bod Ysgol Fair (Common Centaury) ac Ysgallen Fraith (Milk Thistle) yn dda at drin heintiau ar yr arennau neu’r bledren. Yn ardal Niwbwrch, roedd Margaret Roberts yn cofio defnyddio Ysgol Fair at stumog anhwylus ac yn Nhregroes, cofiai Elizabeth Lloyd ddefnyddio ysgol fair i wneud diod at ddolur cefn.
Coed
Cafwyd sôn gan Feddygon Myddfai am bwerau iachaol nifer o goed yn Llyfr Coch Hergest a ysgrifennwyd tua diwedd y 14g (Llyfr Coch Hergest, yn y Bodleian Libraries, MS 111). Mae casgliad eang o dystiolaeth lafar wedi ei gasglu am y defnydd o goed mewn meddyginiaethau traddodiadol yn Ngymru.
Roedd gwraig o Landecwyn, sir Feirionnydd yn cofio creu diod o risgl y Griafolen (Mountain Ash) i drin problemau gyda’r nerfau.
Credai gŵr o Faenclochog y byddai arllwys dŵr ar risgl Y Ddraenen Ddu (Hawthorn) ac yna yfed y dŵr hwnnw yn lliniaru poenau yn y stumog.
Roedd llawer o’r farn bod gan yr Ysgawen (Elder) lawer rhinwedd llesol. Byddid yn sychu’r dail i greu trwyth ar gyfer amryw o anhwylderau a defnyddid yr aeron i wneud gwin – y trwyth a’r gwin yn feddyginiaeth boblogaidd at annwyd. Gellid gwneud eli hefyd trwy gymysgu’r dail neu’r canghennau gyda braster mochyn neu hen fenyn (“menyn gwyrdd”).
Ffrwythau a Choed Ffrwythau
Roedd diod wedi ei wneud o ddail mwyar duon yn boblogaidd iawn i drin rhyddni a stumog wael a defnyddiwyd y blodau mewn diod i drin clwy’r marchogion (haemorrhoids). Roedd Catherine Jones o Lanuwchlyn y cofio rhoi ychydig o jam mwyar duon mewn dŵr poeth i wella annwyd a Kate Davies, Maesymeillion yn cofio creu moddion o finegr gwin gwyn, mwyar duon a siwgr at annwyd hefyd.
Defnyddiwyd riwbob i gael gwared o rwymedd gyda dail y riwbob yn cael eu defnyddio i drin gwynegon y cymalau. Roedd Henry Owen o Langynnog yn cofio y byddai rhai yn rhoi ychydig o riwbob a sunsur i’r gwartheg unwaith y dydd i’w hamddiffyn rhag yr oerfel.
Llysiau
Byddai garlleg yn cael ei ddefnyddo mewn amryw feddyginiaeth. Yn Llanfallteg ger Caerfyrddin, byddai llawer yn rhoi darn o arlleg mewn hosan a gwisgo’r hosan honno dros nos. Credid y byddai arogl y garlleg yn amddiffyn rhag annwyd a rhag peswch. Roedd dwy wraig o Landysul yn cofio cael eu gorfodi i wisgo garlleg o gwmpas eu gyddfau pan yn blant gan y byddai hyn, yn ôl pob sôn, yn eu gwarchod rhag llyngyr. Byddai rhai hefyd yn defnyddio garlleg i drin brathiad neidr.
Roedd gan datws eu defnydd iachaol hefyd – byddai rhai yn rhoi sleisen o daten ar y cymalau i liniaru poen ac eraill yn gwneud powltis i’r gwddf i drin cwinsi. Roedd Margaret Williams, Tregaron, yn cofio rhai yn rhoi taten y tu fewn i’w hosan i leddfu crydcymalau.
Roedd Olive Evans o’r Rhos, ger Hwlffordd yn cofio defnyddio Winwnsyn (neu nionyn) ar gyfer pigyn clust. Byddid yn rhoi’r winwnsyn yn y ffwrn i’w gynhesu yna tynnu’r galon (canol) allan a’i roi yn y glust. Roedd hi hefyd yn arfer rhoi winwnsyn poeth mewn cadach a gosod y cadach wedyn ar y glust. Byddai rhai yn rhwbio hanner winwnsyn ar losg eira er mwyn lliniaru’r boen ac eraill yn bwyta winwnsyn wedi ei falu’n fân mewn griwel i wella rhwymedd. Mae hyd yn oed sôn yn yr Archif o rwbio’r pen gyda winwnsyn i atal moelni.
Rhywbeth Braidd yn Wahanol..
Ond beth yw’r feddyginiaeth fwyaf anghyffredin yn yr Archif? Mae llawer un braidd yn ddiddorol ac anarferol â dweud y lleiaf.
Gan adael byd y planhigion am funud, mae un arfer o ardal Abertawe yn haeddu peth sylw yma. Mae’n debyg yr arferid defnyddio llysnafedd malwoden i drin llefrithen (stye) ar y llygad.