Gwen John: ‘Y naws sy’n bwysig’ Rhan 1
Gwen John yw un o artistiaid pwysicaf yr 20fed ganrif. Mae ei gwaith i’w weld mewn casgliadau ledled y byd gan gynnwys y Tate, Musée Rodin ac Amgueddfa Gelf Fetropolitan Efrog Newydd. Yn ffodus i ni yng Nghymru, yma yn Amgueddfa Cymru mae’r casgliad mwyaf a pwysicaf o’i gwaith. Rydyn ni’n mynd i gymryd cip ar y casgliad hwnnw a chanolbwyntio ar ddetholiad sy’n datgelu mwy am Gwen a’i thechneg, a pam mae ei gwaith yn dal mor berthnasol heddiw.
Ganwyd Gwen John yn Hwlffordd ym 1876, yn ail o chwech o blant ac yn chwaer fawr i Augustus John o ryw 18 mis. Symudodd y ddau i Lundain i astudio yn Ysgol Gelf Slade, gyda Gwen yno rhwng 1895 a 1898. Slade oedd un o’r ysgolion celf cyntaf i agor ei drysau i ferched, ac felly roedd Gwen ymhlith y genhedlaeth gyntaf o fenywod i dderbyn hyfforddiant celf ffurfiol.
Wedi gorffen yn Slade symudodd Gwen i Baris gan astudio yno dan law James McNeill Whistler. Yn Ffrainc y treuliodd y rhan fwyaf o’i bywyd, yn bennaf ym Mharis a’r cyffiniau – canolbwynt y byd celf – a cafodd ei haddysg a’i phrofiadau yno effaith ddofn ar ei gwaith. Talodd ei ffordd drwy weithio fel model artist, a thrwy hynny gyfarfod â Rodin a arweiniodd at berthynas angerddol.
Pan yn ymweld â’i chwaer ym Mharis, soniodd Augustus wrth y meistr Whistler fod gwaith Gwen yn dangos llawer o gymeriad. Yn ôl y sôn, ymateb Whistler oedd:
“Cymeriad? Beth yw hynny!? Y naws sy’n bwysig. Mae gan dy chwaer ymdeimlad da o naws.”
Y dyfyniad hwn yw ein man cychwyn, a byddwn ni’n edrych ar weithiau Gwen yng ngasgliad Amgueddfa Cymru o safbwynt naws, sut y datblygodd ei harddull, a’r ffaith nad yw symlrwydd o reidrwydd yn syml.
Casgliad Amgueddfa Cymru
Prin oedd y gwaith wnaeth Gwen John ei arddangos yn ystod ei bywyd, a dim ond un sioe unigol o’i gwaith a welwyd, yn Orielau Newydd Chenil yn Llundain ym 1926. Prin oedd y gweithiau a werthodd hefyd – byddai’n aml yn eu rhoi’n anrhegion – ac wedi ei marw y casglwyd y rhan fwyaf o’i lluniau. Un cefnogwr brwd oedd y noddwr o’r UDA, John Quinn, a brynodd 39 o’i gweithiau, a dyma’n rhannol pam fod cyfran helaeth o’i gwaith yn yr UDA. Roedd ei gefnogaeth yn rhoi peth rhyddid ariannol iddi arfer ei chrefft.
Prynodd Amgueddfa Cymru y gwaith cyntaf gan Gwen John ym 1935, Merch mewn Gwisg Las, a hynny am £20 ar ôl iddo gael ei ddangos mewn arddangosfa o Artistiaid Cyfoes Cymru yn Oriel Gelf Deffett Francis Art yn Abertawe. Wedi iddo gael ei brynu, ysgrifennodd Gwen y nodyn byr isod i’r Amgueddfa:
“Rwyf yn llawn llwenydd a balchder eich bod chi wedi prynu un o fy mheintiadau bach i dros yr Amgueddfa, a diolchaf i chi am eich canmoliaeth a’ch beirniadaeth ohono. Mewn erthygl ar yr arddangosfa mae eich gwerthfawrogiad medrus a greddfol o waith fy mrawd wedi rhoi boddhad i mi. Yr eiddoch yn gywir iawn Gwen John”
Er bod Merch mewn Gwisg Las yn parhau’n un o’r paentiadau pwysicaf yng nghasgliad Amgueddfa Cymru prin oedd y sylw a roddwyd i waith Gwen yn ystod ei bywyd na’r degawdau wedi ei marw. Hyd yn oed ym 1959, mae’n ymddangos yn y Penguin Dictionary of Art & Artists fel atodiad i’w brawd – does ganddi ddim cofnod personol.
Ond gwelwyd newid dramatig i’r casgliad yn Amgueddfa Cymru ym 1976 ar ganmlwyddiant ei geni. Y flwyddyn honno caffaelodd yr Amgueddfa dros 900 o ddarluniau, llyfrau braslunio a phaentiadau gan ŵyr Gwen, Edwin John. Yn y cagliad oedd cynnwys ei stiwdio pan fu farw 40 mlynedd ynghynt a chyfran helaeth o gynnyrch diwedd ei gyrfa. Yn sydyn, roedd yng Nghymru y casgliad mwyaf o’i gwaith yn y byd.
Techneg
Beth am gael cip ar y casgliad yma felly – yn enwedig ei gwaith diweddarach – a dod i ddeall yn well ei thechneg a’i datblygiad, a sut y defnyddiai Gwen ddull hynod gymhleth i gynhyrchu’r gweithiau hudolus sydd mor gyfarwydd i ni heddiw.
Gall techneg paentio olew Gwen gael ei rannu’n daclus yn dechneg draddodiadol gynnar a thechneg sych ddiweddarach. Y gwaith diweddarach yw mwyafrif casgliad yr Amgueddfa ond mae hon yn esiampl dda o’r dechneg draddodiadol. Paentiwyd y llun hwn o ystafell Gwen mewn atig ym Mharis yn 1907-09. Saif cadair wiail unig wrth ffenestr agored ac ar y bwrdd bychan o dan y ffenestr mae llyfr agored. Cafodd y gwaith ei gaffael gan yr amgueddfa yn gymharol ddiweddar, ym 1995.
Mae nifer yn gweld ystafelloedd moel Gwen fel ymgorfforiad o’i bywyd meudwyol, ac mae’r llun hwn yn bendant yn atgyfnerthu’r darlleniad hwnnw. Daeth rhai i’r cagliad fod y gwaith, a baentiwyd pan oedd ei pherthynas â Rodin yn chwalu, yn bortread o absenoldeb. Ond mae Alicia Foster ac eraill yn dadlau y dylid ei weld yng nghyd-destun gwaith ei chyfoedion ym Mharis. Yn hytrach na phortread o feudwy, mae’n brawf fod Gwen wrth galon datblygiadau celfyddydol y ddinas ar y pryd.
Ar droad yr 20fed ganrif trodd nifer o artistiaid at Yr Ystafell fel testun, a Gwen John yn eu plith. Gwelir y gadair wiail hon mewn nifer o’i gweithiau o’r cyfnod. Roedd cadeiriau gwiail yn ysgafn a rhad ac i’w gweld mewn ystafelloedd a stiwdios cymaint o artistiaid nes dod yn symbol ffasiynol o hunaniaeth yr artist ym Mharis dechrau’r 20fed ganrif.
Beth am gymryd golwg agosach ar dechneg a deunyddiau’r paentiad hwn. Mae staff Cadwraeth Amgueddfa Cymru wedi ymchwilio’n helaeth i adeiladwaith paentiadau Gwen John, gan ddatgelu gwybodaeht ddiddorol am ei dull o weithio, a sut y newidiodd dros y blynyddoedd.
Mae Cornel o Ystafell yr Artist ym Mharis yn un o ddwy fersiwn o’r olygfa hon, ac mae’r llall yng nghasgliad Amgueddfeydd Sheffield. Roedd Gwen ar y pryd yn paentio gyda phaent olew gwlyb wedi’i adeiladu’n haenau dros gefndir gwyn. Caiff y brwswaith ei guddio ac mae’r gwaith yn ymddangos yn llyfn a llathraidd diolch i’r haen o farnais. Mae’r arddull yn nodweddiadol o dechneg yr Hen Feistri ac yn dangos hyfforddiant ffurfiol Gwen. Ar y chwith mae trawstoriad o’r haenau paent wedi’i gymryd o ochr chwith y paentiad, ger pen y gadair.
Ar y dde, mae’r haen binc sy’n rhoi gwawr gynnes i’r olygfa, ac mae’r paent dros ei ben yn denau iawn mewn mannau i ddatgelu’r pinc. Mae’r cyfan yn cyfleu naws hamddenol hwyr brynhawn neu noswyl, gyda’r llenni les yn chwythu’n hamddenol ar yr awel.
Yn ail ran y erthygl hwn byddwn ni’n edrych ar y newid mawr yn nhechneg ddiweddarach Gwen ac yn taflu goleuni newydd ar un o baentiadau pwysicaf yr Amgueddfa...
Gyda diolch i gydweithwyr Amgueddfa Cymru ddoe a heddiw am eu gwaith ymchwil trylwyr, yn enwedig David Fraser Jenkins, Beth McIntyre, Kate Lowr ac Oliver Fairclough. Mae bywgraffiad byr Alicia Foster, a gyhoeddwyd gan Tate, yn rhoi crynodeb drylwyr ac yn ailystyried elfennau pwysig o yrfa gwen John.
sylw - (1)