Cerfluniau atig Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Ar waliau allanol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym Mharc Cathays mae sawl cerflun i’w gweld. Maent yn cael eu galw yn ‘Gerfluniau Atig’. Mae rhai i’w gweld ar Neuadd y Ddinas drws nesaf hefyd.
Yn wir, pan lansiwyd cystadleuaeth i ddylunio Amgueddfa Genedlaethol newydd Cymru ym 1909, roedd telerau’r gystadleuaeth yn nodi:
‘From the position of the site on the east side of the City Hall and the relation of the Law Courts on its west side, to that building as a centre, it is thought desirable that externally the Museum building should be designed in harmony with these buildings, that, so far as possible, it may be in sympathy with the general scheme adopted’.
Bu’r penseiri a enillodd y gystadleuaeth, sef Arnold Dunbar Smith (1866–1933) a Cecil Claude Brewer (1871–1918), yn gweithio gyda’r cerflunydd enwog Syr William Goscombe John (1860–1952) i ddylunio’r cerfluniau fyddai’n addurno’r adeilad. Eu bwriad oedd creu pedwar grŵp, bob un yn cynnwys dau neu dri ffigwr, ar gyfer pedair ochr yr adeilad. Byddai hyn wedi golygu 16 grŵp i gyd.
Roedd grwpiau’r Adain Ddeheuol – sef blaen yr Amgueddfa – i fod i ddarlunio hanes Cymru, gyda cherfluniau ar gyfer Oes y Cerrig, Oes yr Efydd, Oes yr Haearn ac Oes y Glo.
Diwydiannau Cymru oedd i gael eu cynrychioli gan gerfluniau’r Adain Orllewinol: Amaeth, Mwyngloddio, Llongau a Haearn a Dur.
Byddai cerfluniau’r Adain Ddwyreiniol yn canolbwyntio ar y gwyddorau: Seryddiaeth, Cemeg a Ffiseg, Bywydeg a Daeareg ac Archaeoleg.
Ac yn olaf, roedd yr Adain Ogleddol i fod i gynrychioli’r celfyddydau: Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Celfyddydau Graffig a Phensaernïaeth a Cherfluniaeth.
Gan fod yr Amgueddfa yn cael ei hadeiladu mewn camau, fesul adain, gan ddechrau gyda’r Adain Ddeheuol, penderfynwyd canolbwyntio ar gerfluniau’r ardal honno gyntaf.
Ym 1914 cafodd 14 o gerflunwyr eu gwahodd i gyflwyno ceisiadau. Cawsant eu cynghori fod y cerfluniau i fod yn rhan o’r adeilad, ac nid yn ychwanegiad ato, a bod felly angen gweithiau ‘monumental and masonic’ yn hytrach na ‘plastic treatment’. Roedd angen iddynt fod yn symbolaidd yn hytrach na darluniadol, heb boeni gormod am gywirdeb hanesyddol nag edrych yn realistig.
Mae rhestr o’r enillwyr yn Adroddiad Blynyddol yr Amgueddfa 1914–15:
- Gilbert Bayes (1872–1953) am ei fodel o Oes yr Efydd
- Richard L. Garbe (1876–1957) am ei fodel o Oes y Cerrig
- Thomas J. Clapperton (1879–1962) am ei fodel o Oes y Glo
Gofynnwyd i’r artistiaid buddugol wneud fersiwn derfynol o’u dyluniad, yn ogystal â cherflun i gyd-fynd. Penderfynwyd hefyd bod angen newid y categorïau, a chawsant eu hailenwi yn Y Cyfnod Cynhanesyddol, Y Cyfnod Clasurol, Y Cyfnod Canoloesol a’r Cyfnod Modern.
Felly cafodd Gilbert Bayes y dasg o gynhyrchu cerfluniau’r Cyfnod Cynhanesyddol a’r Cyfnod Clasurol. Aeth Richard Garbe ati i gynhyrchu cerfluniau’r Cyfnod Canoloesol a’r Cyfnod Modern. Gyda’i gilydd, dyma gwblhau’r dyluniad o hanes Cymru ar du blaen yr Amgueddfa.
Gofynnwyd i’r enillydd arall, Thomas J. Clapperton, ail-enwi ei gerfluniau Oes y Glo yn Mwyngloddio a chreu cerflun arall i’r Llongau. Dyma fyddai’r ddau grŵp cyntaf o gerfluniau i gynrychioli Diwydiannau Cymru ar yr Adain Orllewinol. Adeiladwyd rhan o’r adain hon fel rhan o’r cam cyntaf, felly roedd lle ar gyfer y cerfluniau hyn.
Cafodd ambell i gerflun allanol arall eu comisiynu ar yr adeg hon hefyd, ond nid oeddent yn rhan o’r cynllun Cerfluniau Atig. Dyluniwyd dwy ddraig a dau lew gan A. Bertram Pegram, i gael eu rhoi o gwmpas gwaelod y gromen. Mae’n werth nodi na fu unrhyw gynlluniau i roi cerflun ar ben y gromen yn debyg i’r ddraig ar ben Neuadd y Ddinas; does dim golwg o gerflun o’r fath yn unrhyw un o ddarluniau’r penseiri o’r Amgueddfa.
Daeth cynllun y cerfluniau i stop nes i Adain Ddwyreiniol yr Amgueddfa gael ei hadeiladu yn y 1930au. Agorwyd yr adain, sy’n cynnwys Darlithfa Reardon Smith, yn swyddogol ym 1932. Fodd bynnag, erbyn hyn roedd y cynllun gwreiddiol ar gyfer y cerfluniau wedi newid yn sylweddol. Yn wahanol i’r grwpiau o ffigyrau ar yr Adain Ddeheuol, roedd y cerfluniau hyn yn ffigyrau unigol.
Y gred oedd na fyddai cymaint o bobl yn gweld yr Adain Ddwyreiniol, ac felly nad oedd angen cerfluniau mor fawr ac amlwg. Mae cofnodion y Pwyllgor Adeiladu ym mis Chwefror 1936 yn nodi: ‘Er ei bod yn bwysig y dylai’r cerfluniau wneud eu dyletswydd o gwblhau’r dyluniad pensaernïol, cynigir nad oes angen grwpiau tri ffigwr mewn cerfwedd uchel’.
Yn lle’r cynllun gwreiddiol i ddarlunio’r gwyddorau ar yr Adain Ddwyreiniol, penderfynodd y pwyllgor gomisiynu cerfluniau yn portreadu’r celfyddydau – thema’r Adain Ogleddol yn wreiddiol. Y cerfluniau a grëwyd oedd Addysg gan Thomas J. Clapperton (y cerflunydd oedd yn gyfrifol yn barod am ddau gerflun yr Adain Orllewinol), Cerddoriaeth gan David Evans (1893–1959); a Celf gan A. Bertram Pegram, a greodd y llewod ar waelod y gromen.
Chafodd gweddill yr Adain Orllewinol, a’i dau gerflun olaf, ddim eu cwblhau tan y 1960au. Roedd y gweithiau hyn yn ffigyrau unigol fel dyluniadau’r 1930au, yn hytrach na’r grwpiau aml-ffigwr gan T.J. Clapperton oedd ar yr Adain Orllewinol yn barod.
Jonah Jones (1919–2004) sy’n gyfrifol am y ddau gerflun. Hanes Natur yw pwnc y cyntaf, ac mae’n gerflun o Santes Melangell sy’n dal tusw o flodau, rhedyn a gweiriau a phenglog hwrdd, gyda sgwarnog o gwmpas godre ei gwisg. Diwydiant yw’r ail thema, sef cerflun o chwarelwr yn hollti llechen. Er nad yw’r cerfluniau yn cadw’n llwyr at y cynllun gwreiddiol (Amaeth a Haearn a Dur), maent yn cyfeirio at thema’r adain, sef diwydiannau Cymru.
Yn y 1980au cafodd y cerflun olaf ei gomisiynu, pan gafodd yr Adain Ddwyreiniol estyniad i’w gwneud yr un maint â’r Adain Orllewinol. Penderfynodd y Pwyllgor Celf ym 1988 i ofyn i bum cerflunydd am gynlluniau i greu ffigwr fyddai’n cyd-fynd â cherflun Cerddoriaeth gan David Evans, ac yn cwblhau thema gelfyddydol yr adain.
Y cerflun a ddewiswyd oedd Reguarding Guardians of Art gan Dhruva Mistry (1957– ), ffigwr oedd yn hanner person a hanner anifail, gydag adenydd. Cafodd ei osod ym mis Awst 1990. Er bod arddull y cerflun yn wahanol i’r gweddill, dywedodd Ceidwad Celf yr Amgueddfa ar y pryd ei fod yn ‘cwrdd â gofynion y sefyllfa yn wych o ran cyfansoddiad a graddfa’.
Roedd cynllun gwreiddiol yr Amgueddfa yn cynnwys Adain Ogleddol, ond ni chafodd erioed ei hadeiladu ac ni chrëwyd unrhyw gerfluniau ar ei chyfer. Felly o’r 16 grŵp o gerfluniau a gynlluniwyd ar gyfer yr Amgueddfa, dim ond 12 a gafodd eu creu. O’r 12 hynny, mae eu hanner yn ffigyrau unigol. Pwy â ŵyr, os caiff Adain Ogleddol ei hadeiladu byth, efallai y gwelwn gystadleuaeth arall i ddylunio’r pedwar cerflun sy’n weddill.