Ail-adeiladu gwesty’r Vulcan
Cefnogwch project Gwesty'r Vulcan
Cofrestrwyd tafarn y Vulcan fel ‘ale house’ am y tro cyntaf ym 1853. Erbyn iddi gael ei datgymalu gan yr Amgueddfa yn 2012 gwelwyd sawl cyfnod o addasiadau. Roedd gwaith addasu 1901 ac 1914 mor sylweddol fel bod rhaid ceisio am ganiatâd cynllunio drwy Gyngor y Sir. Heddiw, mae’r cynlluniau yn Archifdy Morgannwg.
Mae’r cais cynllunio o 1914 yn cynnwys dau ddarlun (does dim darlun o’r ffasâd ar y cais o 1901) – labelwyd un darlun yn At present, a labelwyd y llall yn Proposed. Does dim esboniad ysgrifenedig wedi goroesi i gyd-fynd â’r darluniau. Serch hynny, wrth edrych yn fanwl mae modd bwrw mwy o olau ar y newidiadau arfaethedig. Y gwahaniaeth mwyaf amlwg yw’r cynnydd ar y llawr cyntaf o ddwy ffenest i bedair, a chodi pileri newydd o frics coch naill ochr. Gwaredwyd y parapet oedd o flaen y to – sydd i’w weld fel cyfres o linellau llorweddol uwchben y ffenestri, ac fe addaswyd y simneiau a gosodwyd to newydd o lechi. Bu un newid arall, sydd ddim yn amlwg yn y darlun, a hwn oedd y newid mwyaf yn hanes y Vulcan – cynyddwyd uchder yr adeilad yn sylweddol. Mae’r darlun gwreiddiol yn dangos y dafarn yn rhannu to gyda’i gymdogion, lle mae’r darlun arfaethedig yn dangos adeilad cryn dipyn yn dalach na’r cymdogion.
Doedd dim bwriad i newid strwythur y ffasâd llawr gwaelod – dau ddrws, a dwy ffenest wedi eu rhannu yn ddwy a ffenestri linter (fanlights) uwch eu pen. Ond, wrth edrych yn fanwl mae modd gweld bod nifer o wahaniaethau allweddol, a digon i awgrymu fod y ddau ffasâd yn rhai gwahanol. Yn y darlun gwreiddiol mae dau banel hirsgwar o dan bob ffenest, ond yn y darlun arfaethedig dim ond un sydd. Mae’r nifer o baneli drws yn wahanol hefyd. Yn y darlun gwreiddiol, naill ochr i’r ffenestri mae’r pileri yn rhai rhychiog ac yn gorffen cyn cyrraedd y ffris. Dyw’r pileri ddim yn rhychiog yn y darlun arfaethedig ac maent yn cario ymlaen mewn i’r ffris nes cyrraedd y cornis uwch ei ben. Mae’r darlun arfaethedig hefyd yn dangos tri ffenest linter uwch ben pob gwydr ffenest, lle mae saith yn y darlun gwreiddiol. Dyw’r terfyniad addurniadol ddim i’w weld yn y darlun arfaethedig chwaith. Dim ond yn y darlun arfaethedig mae’r gwahaniaeth mwyaf oll i’w weld, sef yr arysgrif newydd THE VULCAN HOTEL, WINES & SPIRITS ac ALES & STOUTS.
Er nad yw’n glir yn y cynlluniau, rydym yn sicr fod y darlun gwreiddiol yn dangos ffasâd llawr gwaelod o bren – tebyg iawn i flaen siop Fictoraidd draddodiadol, a newidiwyd hwn yn 1914 am un tebyg o deils gwydrog a arhosodd yn eu lle nes tynnu’r adeilad yn 2012.
Y teils
Erbyn i'r Amgueddfa ddatgymalu'r Vulcan yn 2012, roedd teils lliwgar brown a gwyrdd y ffasâd wedi bod y neu lle am 97 mlynedd, ac o ganlyniad roedd nifer fawr mor wael eu cyflwyr fel na ellid eu ailddefnyddio. Ar ben hyn, gwnaeth nifer fawr wrthod wahanu oddi wrth y sment a ddefnyddiwyd i'w gludo yn eu lle. Gwnaeth y teils a gariodd enw Y Vulcan oroesi yn well oherwydd eu bod yn uwch i fyny'r adeilad, a byddent yn cael eu cadw i'w harddangos yn y dyfodol. Cynhyrchwyd y teils gan Craven Dunnill, o Ironbridge, Swydd Amwythig – yn ffodus, roedd eu henw ar gefn y teils. Gan fod y cwmni'n dal i fynd, fe benderfynon ni gomisiynu set newydd sbon o deils ar gyfer y Vulcan – a chafodd y rhain eu creu o'r un mowldiau pren a ddefnyddiwyd yn wreiddiol nol yn 1915.
Y Ffenestri
Cafodd ffenestri plwm Y Vulcan eu gosod yn eu lle ar yr un pryd â'r teils – fel rhan o'r gwaith adnewyddu mawr a gwblhawyd yn 1915. Wrth edrych yn agos, maen nhw i'w gweld mewn llun o’r Vulcan a dynnwyd yn 1919. Mae erthygl a gyhoeddwyd yn y Western Mail ar 16 Rhagfyr 1914 yn nodi:
‘Broke Public House Window
Paul Begley (46), a cripple, was fined 10s and costs at Cardiff on Tuesday…for disorderly conduct in Adam Street and for wilfully breaking two panes of plate glass in the bar window of The Vulcan Inn. Although the damage amounted to £3, the landlord…made no claim.’
Cyn adnewyddu’r Vulcan, roedd y ffasâd llawr gwaelod yn cynnwys dwy ffenestr fawr o ddau rhan. Os tybiwn fod yr erthygl hon yn ymwneud ag un o'r ddwy ffenest fawr, yna efallai na wnaeth y Landlord wneud hawliad gan ei fod yn gwybod bod y ffenestri yn mynd I gael eu adnwyddu o fewn yr wythnosau neu'r misoedd nesaf. Efallai bod y newid o wydr plât i wydr plwm (o ddarnau bach o wydr) wedi bod yn ymgais i leihau effaith difrod o'r fath yn y dyfodol. Mae yw weld bod fframiau'r ffenestri wedi goroesi mewn cyflwr gwell gan fod un wedi cael ei ail-ddefnyddio fel ffenestr y bar cefn – yr hen agoriad yn cael ei ehangu i ffitio.
Pan brynodd Bragdy Brains y dafarn yn y 1950au, fe osodon eu logo Draig Goch mewn rowndel yng nghanol pob un o'r ffenestri. Erbyn 2012, dim ond un o'r rhain oedd ar ôl. Gan y bydd y Vulcan yn cael ei ddehongli fel yr edrychodd yn 1915, dydyn’t methu cynnwys logo Brains gan nad oeddent yn berchen ar y dafarn bryd hynny. Ar y pryd, roedd yn eiddo i William Walter Nell ac fe'i gyflenwyd gan ei fragdy Eagle Brewery, yn Sgwâr Sant Ioan, Yr Aes, yng nghanol dinas Caerdydd. Wrth i'w fonogram W.W.N. oroesi ar adeilad ym Merthyr Tudful, llwyddon yw efelychu i gymryd lle'r Ddraig Goch. Gwnaed y gwaith o adnewyddu’r ffenestri plwm gan arbenigwyr o Goleg Celf Abertawe, yn y Ganolfan Gwydr Pensaernïol. Gwnaethant ddod o hyd i'r gwydr cywir i gymryd lle unrhyw wydr toriedig, fe wnaethant lanhau pob darn unigol o wydr cyn eu rhoi yn ôl yn eu lleoliad gwreiddiol, ac ail-blymio y ffenestri yn barod ar gyfer y 97 mlynedd nesaf.