Yr Het Gymreig - Ddoe A Heddiw

Niamh Rodda


 

Hetiau bach o’r 1860au gan yr hetiwr o Gymru, John Evans. Mae’r Het Gymreig yng nghanol y llun.

        Mae hetiau’n aml yn wleidyddol. Hawdd fyddai cymryd yn ganiataol mai gwarchod pen rhag y tywydd yw eu hunig bwrpas, ond o feddwl ychydig am y peth, fe welwch eu bod yn llawer mwy na hynny. O gap pig coch ‘Make America Great Again’, i gapiau cochion y Chwyldro Ffrengig, i unrhyw hetiau milwrol - mae hetiau’n cael eu defnyddio’n aml i nodi ar ba ochr ydych chi. Mae hetiau, fel sy’n wir am bob ffasiwn, yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth enfawr o ffyrdd i gyfathrebu ag eraill, a gallan nhw ddynodi ystod o wybodaeth wrthon ni: cenedligrwydd, rhywedd, diddordebau a hunaniaeth. Mae’r het yn aml yn gysylltiedig â hunaniaeth grŵp; mewn torf o bobl gall yr het fod yn ddynodwr allweddol ac os caiff ei gwisgo gan grŵp mawr o bobl gall greu delwedd drawiadol. Mae’r Het Gymreig, a oedd yn cael ei gwisgo’n draddodiadol gan ferched, yn gwneud yn union hynny, ac mae ei chorun du tal a’i chantel caled yn creu edrychiad unigryw a thrawiadol sydd wedi cael ei ddefnyddio fel symbol o Gymreictod ers amser maith.

 

Cyn yr Het Gymreig

Mae yna gred gyffredin mai dyfais Fictoraidd oedd yr het Gymreig a’r wisg genedlaethol – rhan o dreftadaeth Gymreig ddychmygol – ond mae digon o dystiolaeth yn mynd yn ôl ganrif ynghynt sy’n dweud fel arall wrthon ni. Mae’n bosib bod y Fictoriaid wedi curadu fersiwn benodol o’r wisg Gymreig ac wedi cadarnhau’r syniad ohoni fel ‘Gwisg Genedlaethol Gymreig’ ond roedd y dillad eu hunain, gan gynnwys yr het, wedi bod yn cael eu gwisgo ers yn llawer hirach.

Cyn i’r Het Gymreig fod yn Gymreig, dim ond het oedd hi. Roedd hetiau â chorun uchel wedi’u gwneud o ffelt neu ffwr befar yn boblogaidd mewn llawer o wledydd ar un adeg. Roedd dynion a merched ledled Prydain yn ystod ail hanner y cyfnod Elisabethaidd yn gwisgo hetiau o’r fath i deithio ac i farchogaeth, ac yna mabwysiadwyd fersiwn â chantel lletach, sef ‘steil cafalîr’, gan y dosbarth canol yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg. Ar yr adeg yma roedd hetiau’n symbol pwysig o statws. Ffwr befar oedd y defnydd o safon a fyddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer hetiau ffelt, ond roedd ffeltio’r ffwr yn anodd ac yn gostus ac o 1670 ymlaen, roedd y cynnyrch yn aml yn cael ei fewnforio o America. Mae Samuel Pepys yn nodi yn ei ddyddiadur ym 1661 fod het befar wedi costio 45 swllt iddo. O tua 1640 i 1660 daeth fersiwn o’r het befar gyda chorun tal, sef yr het bigfain, yn boblogaidd, a oedd yn edrych yn debyg iawn i’r hyn y bydden ni’n ei ystyried yn het Gymreig heddiw. Heddiw mae hetiau o’r steil yma’n cael eu cysylltu’n gryf â’r Piwritaniaid a’r pererinion i America, oherwydd eu dyluniad syml, di-addurn. Felly hyd yn oed 400 mlynedd yn ôl, roedd yr het yn llawn ystyr, o gyfoeth a dosbarth i dueddiadau gwleidyddol a chrefyddol.

 

Ni a Nhw

Tra bod yr het bigfain ddu, ynghyd â nodweddion eraill rydyn ni’n eu cysylltu heddiw â’r wisg genedlaethol, yn gyffredin ledled Ewrop ac America yn yr ail ganrif ar bymtheg, yn y ddeunawfed ganrif y gwelwn wahaniaeth mewn steil. Tra bod tueddiadau ffasiwn mewn mannau eraill yn newid, roedd y werin yng Nghymru yn dewis cadw’r ymddangosiad hŷn yma. Wrth i ffasiwn newid yn gyflym yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif, roedd y ffaith bod y dosbarthiadau is yng Nghymru yn ymwrthod â’r steiliau newydd (boed hynny’n fwriadol neu oherwydd diffyg arian) yn golygu bod gwahaniaeth nodedig yng ngwisg y dosbarthiadau is yng Nghymru o gymharu â’u cyfoedion yn Lloegr. Mae hyn yn cael ei ddogfennu mewn nifer o adroddiadau gan deithwyr o Loegr a wnaeth sylwadau ar y gwahaniaeth mewn dillad rhwng y Saeson a’r Cymry, ac ymhlith y rhain mae disgrifiadau o het ddu uchel a oedd yn cael ei gwisgo gan ferched. 

Paentiad gan Julius Caesar Ibbetson, Gwisgoedd Castellnewydd Emlyn, 1792

Arlunydd o Loegr oedd Julius Caesar Ibbetson a greodd nifer o weithiau yn cyfleu golygfeydd o fywyd Cymreig ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Drwy’r gweithiau hyn, gellir gweld delwedd amlwg o ferched dosbarth gweithiol Cymru. Mae’r paentiadau’n cyfleu gwisg sy’n wahanol i’r hyn a oedd yn wisg ffasiynol ledled Ewrop yn ystod y 1790au, ac mae bron pob un o’r gweithiau’n cynnwys merched yn gwisgo’r hyn y gallwn ei ystyried yn amrywiad cynnar o’r het Gymreig. 

Yn Gwisgoedd Castellnewydd Emlyn o 1792, mae pob un o’r 14 o ferched yn yr olygfa, yn ogystal â’r ddau blentyn, yn cael eu darlunio’n gwisgo hetiau ag ymylon du sydd bron yn union yr un fath â’i gilydd. Er bod yr hetiau’n fyrrach ac yn llai caled na’r hyn rydyn ni’n ei ystyried yn het Gymreig heddiw, mae yna debygrwydd amlwg o ran steil. Yn yr arysgrif o dan y paentiad dyfrlliw, mae Ibbetson yn nodi “peculiar drefs and costume of the peasantry, in the district around Newcastle Emlyn in Pembrokeshire.” Yma mae’r arlunydd o Loegr yn tynnu sylw at y ffaith fod gwisgoedd merched Cymru yn dra “hynod” iddo o’u cymharu â gwisgoedd yn Lloegr. Mae’r gwisgoedd hyn hefyd yn debyg i’r hyn y byddai rhywun yn ei feddwl amdano heddiw fel y wisg genedlaethol Gymreig, gyda’u patrymau streipiog a brith, a’u siolau a’u ffedogau. Yn ogystal â golwg nodedig y wisg, yr hyn sy’n rhyfeddol yw unffurfiaeth yr hetiau ymhlith yr holl ferched. Ar yr adeg yma roedd amrywiaeth eang o steiliau mewn hetiau, bonedau, capiau, tyrbanau, ategolion gwallt, wigiau a steiliau gwallt a dewis enfawr o addurniadau i’w hychwanegu gan gynnwys blodau, rhubanau a phlu. Fodd bynnag, yng ngweithiau Ibbetson, gwelwn un steil du di-addurn.

Roedd y Cymry’n ymwybodol o unffurfiaeth drawiadol y wisg Gymreig, a daeth yn symbol strategol o bŵer torfol. Yn ôl yr hanes enwog, dywedir ei fod wedi helpu i drechu pwerau milwrol goresgynnol hyd yn oed. Ym 1797, glaniodd llongau rhyfel Ffrainc yn Sir Benfro yn yr hyn a elwir yn Frwydr Abergwaun. Mae sawl adroddiad yn dogfennu sut y bu i gannoedd o ferched mewn siolau coch a hetiau befar du Cymreig sefyll ar hyd yr arfordir y tu ôl i fyddin Prydain gan greu’r ddelwedd o bell eu bod nhw hefyd yn filwyr; arweiniodd hyn i’r Ffrancwyr ildio’n ddiamod. Yn sgil hyn, ystyriwyd bod y wisg genedlaethol Gymreig yn symbol o gryfder ac undod, a daeth yn rhan o etifeddiaeth Gymreig falch a chafodd ei gwreiddio yn hanes y genedl.

 

Gwisg Genedlaethol

Atgynhyrchiad o 1931 o gardiau post “Dull-wisgoedd Cymru/Cambrian Costumes“ gan Arglwyddes Llanofer ym 1834 (wedi'i docio)

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd yr het Gymreig a gweddill y wisg Gymreig i fod â steil sydd hyd yn oed yn fwy diffiniedig. Cyn hynny, nid yr het Gymreig oedd yr unig het oedd yn cael ei gwisgo o bell ffordd, yn rhannol gan ei bod yn ddrytach na hetiau ffelt neu wellt eraill. Roedd llawer o amrywiadau lleol ar yr het Gymreig hefyd; roedd yr het uchel yn boblogaidd mewn trefi mwy fel Caerdydd, Bangor a Chaerfyrddin, tra bod hetiau gwellt is gyda chorun gwastad yn boblogaidd ym Mhenrhyn Gŵyr, gan eu bod yn caniatáu i ferched gario basgedi cocos ar eu pen ac yn fwy addas ar gyfer y tywydd gwyntog. Ond dros y ganrif, byddai’r het yn cael ei newid i’r edrychiad mwy unigol, safonol ac unffurf rydyn ni’n meddwl amdani heddiw fel yr het Gymreig.

Arglwyddes Llanofer (1802 i 1896) oedd y person a ddylanwadodd yn fawr ar y defnydd o’r wisg Gymreig draddodiadol, a bu’n gweithio’n ddiflino i hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Ysgrifennai’n helaeth am y wisg Gymreig, a chynhyrchodd gyfres o ddarluniau ar y testun, a chanddi hi y cawn y traddodiad o wisgo’r wisg genedlaethol ar Ddydd Gŵyl Dewi. Er nad Arglwyddes Llanofer a ddyfeisiodd y wisg genedlaethol Gymreig, gweithiodd yn galed i ddod â’r wisg o gyfyngau’r dosbarth gweithiol, i gymdeithas y dosbarth uwch, gan fynnu bod yn rhaid i westeion i’w phartïon wisgo’r wisg genedlaethol hyd yn oed.

Ym 1832, daeth y Dywysoges Fictoria (cyn bod yn frenhines) a’i mam ar ymweliad i’r gogledd, ac yn eu coets roedden nhw’n gwisgo hetiau Cymreig wrth basio drwy Fangor ‘i dalu teyrnged i forwynion hardd Cymru’. Felly erbyn hyn, gallwn weld y trawsnewidiad llwyr o wisg draddodiadol y werin i’r wisg genedlaethol ffasiynol ar gyfer pob dosbarth. Yn y ganrif honno felly, mae’r het a’r wisg genedlaethol yn dod yn ddillad ffurfiol smart. Roedd merched yn dewis gwisgo eu gwisg orau wrth werthu eu nwyddau yn y farchnad, yn ogystal ag ar y Sul i’r eglwys a’r capel. Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, byddai llawer o gystadlaethau’r Eisteddfod yn cynnig gwobr am yr het Gymreig orau hyd yn oed. Yn ystod y ganrif hon, mae’r het Gymreig wedi dod yn symbol o falchder cenedlaethol. Wrth ddisgrifio’i chyfnod yn y gorllewin, ysgrifenna’r llenor o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Marie Trevelyan, ym 1893: “Yno, mae’r het befar yn dal i gael ei gwisgo o hyd gan rai o’r merched prydferthaf a glanaf yn y dywysogaeth. Maen nhw’n ferched trwsiadus iawn”.

Mae’n anodd nodi’n union pryd rhoddwyd y gorau i wisgo’r het Gymreig o ddydd i ddydd oherwydd poblogrwydd aruthrol delwedd yr ‘hen fenyw Gymreig’. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif roedd y wisg Gymreig wedi newid o fod yn ddillad arferol, i wisg o Gymreictod ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus a thwristiaeth. Daeth delwedd y Wisg Genedlaethol Gymreig yn thema doreithiog ar gardiau post, cofroddion, a thwristiaeth yn nhrefi glan môr Cymru. Felly roedd pobl yn parhau i wisgo’r Het Gymreig ond roedd ei hystyr wedi newid unwaith eto.

Het i Bawb

 Ar hyd y canrifoedd, roedd y defnydd o’r het Gymreig yn symud yn ôl ac ymlaen o ran steil, o’r werin i’r teulu brenhinol. Nid dosbarth oedd yr unig ffin ddiwylliannol yr oedd yr het yn ei chroesi. Mae’r het hefyd wedi mynd y tu hwnt i ffiniau dillad rhywedd. Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif, roedd y steil yma o het yn cael ei hystyried i raddau helaeth yn het i ddynion, a oedd yn dderbyniol yn gymdeithasol i ferched ei gwisgo yng nghyd-destun marchogaeth a theithio yn unig (gweithredoedd a oedd yn aml yn cael eu hystyried fel rhai gwrywaidd) ac eto yng Nghymru, mae’n ymddangos bod y drefn honno’n cael ei hanwybyddu. Yn y ddeunawfed ganrif, roedd llawer o ddisgrifiadau Saesneg am ferched yng Nghymru yn gwisgo mewn modd ‘hynod’, ac yn nodi eu bod yn gwisgo ‘hetiau dynion’. Mynychodd Mary Yorke, teithiwr i Gymru ym 1774, wasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a sylwodd ar hen wraig gyda “sgarff dros ei phen a het fel het i ddynion”. Er gwaethaf hyn, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, roedd yr het Gymreig wedi dod yn eitem oedd â chysylltiad cryf â bod yn fenyw Gymreig. 

Er bod hetiau Cymreig yn cael eu hystyried yn draddodiadol fel dilledyn i ferched, mae bellach yn ddilledyn sy’n herio’r deuaidd yn fwyfwy, gydag artistiaid cwiar cyfoes yn benodol yn defnyddio’r het yn eu gwaith fel symbol cenedlaethol y gall unrhyw un ei gwisgo. Felly, mae’r het a ddechreuodd yn ôl pob tebyg fel het dyn yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac a fabwysiadwyd wedi hynny gan ferched, unwaith eto yn llwyddo i orchfygu’r rhywedd deuaidd yn y rhai sy’n ei gwisgo heddiw. Ac felly, wrth i’r pendil ffasiwn symud o un pen o’r sbectrwm i’r llall, rydyn ni’n ei weld yn dechrau siglo’n ôl heddiw.

Nid yw’r berthynas ddeinamig yma rhwng y Cymry, dillad, a rhywedd yn rhywbeth newydd. Yn y 1800au, roedd merched a oedd yn gweithio yn y pyllau glo yn gwisgo dillad bechgyn, gan gynnwys trowsus, er mwyn gallu cropian drwy’r pyllau. Yn ystod Terfysgoedd Beca gwelwyd dynion yn gwisgo dillad merched mewn protestiadau treisgar, ac fel y soniwyd eisoes, cafodd merched mewn gwisg Gymreig eu camgymryd fel milwyr Prydeinig yn ystod Brwydr Abergwaun. Mae’r Het ei hun, mewn sawl ffordd, yn eitem androgynaidd - mae ei nodweddion du ac onglog llyfn yn llawer tebycach i eitemau gwisg gwrywaidd nodweddiadol fel siwt a het silc na llawer o ddillad benywaidd traddodiadol. Mae ei nodweddion onglog yn aml yn gwrthgyferbynnu â’r cap gwyn â ffrils a lesys oddi tano. Efallai mai dyma’n rhannol pam ei bod yn bwnc mor ddiddorol i lawer o artistiaid cwiar heddiw.

Ffotograff o berfformwyr o’r grŵp Dawns Gyfoes Qwerin. Ffotograff gan Sioned Birchall.

Yn y grŵp perfformio dawns gyfoes Qwerin, sy’n cael ei gyfarwyddo a’i goreograffu gan Osian Meilir, mae perfformwyr yn asio dawns werin draddodiadol Gymreig ag egni’r bywyd nos cwiar. Mae’r perfformwyr yn gwisgo ffurf wedi’i haddasu o’r wisg genedlaethol, ynghyd â hetiau Cymreig hynod o fawr, sy’n hongian drosodd ac yn cuddio llawer o wynebau’r perfformwyr, gan eu gorfodi i edrych allan drwy dyllau wedi’u torri allan yn ochr yr het. Mae’r gwisgoedd hyn, a ddyluniwyd gan Becky Davies, yn adrodd stori weledol drawiadol. Mewn dyfyniad gan Osian am y perfformiad maen nhw’n dweud:

“Mae’r het yn creu rhyw fath o bresenoldeb, sy’n rhoi ymddangosiad sinistr a dirgel i ni. Mae’r hetiau, sy’n symbol o ddiwylliant Cymreig, yn cyfleu’r union bethau sy’n ein cyfyngu rhag symud ymlaen yn gorfforol at ddawnsio mwy egnïol a llawen. Drwy dynnu’r hetiau yma rydyn ni’n dileu’r blynyddoedd o gywilydd, baich a gormes, gan dorri cysylltiadau â disgwyliadau a chyfyngiadau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae aduno a chyfarch yr hetiau tua diwedd y gwaith yn weithred o dderbyn, derbyniad o’n hunaniaeth ein hunain. Rydyn ni’n croesawu’r hetiau yma’n ôl i’n breichiau fel symbol o ddilyniant, undod, cytgord a newid; symud gyda’n gilydd i ddyfodol newydd, Cymru gwiar.”

Mewn geiriau eraill, mae’r het wedi dod yn symbol o hen Ddiwylliant Cymreig, ond yn hytrach na symbol y gellir gadael iddo lithro i ffwrdd, yn symbol y gellir ei ailfywiogi gydag ysbryd cyfnod newydd o hunaniaeth Gymreig.

 

Seicoleg Hetiau

Mae’r Het yn eistedd mewn man amlwg ar y gwisgwr, mae’n fframio’r wyneb ac mae modd i’r gwisgwr ei gweld yng nghornel eu llygaid. Mae hyn yn golygu y gallan nhw ddod yn arfau pwerus yn y ffordd rydyn ni’n gweld ein hunain. Wrth drafod hetiau, dywedodd y golygydd ffasiwn, Isabella Blow, sy’n adnabyddus am wisgo hetiau: “Mae ffasiwn yn beth fampiraidd, hwn yw’r hwfer ar eich ymennydd. Dyna pam dw i’n gwisgo’r hetiau, i gadw pawb draw oddi wrtha i.” Mae Isabella yn cyfeirio at ofynion cymdeithasol ffasiwn a chydymffurfiaeth, sy’n gallu bod yn ormesol, a sut gall chwarae ar y meddwl; fel gwrthbwynt i hyn, mae’r het yn cyflawni rôl tarian feddyliol a chorfforol. Mae het ag ymylon llydan yn creu ac yn mynnu pellter corfforol rhwng pobl, ac yn gwneud yr un peth yn seicolegol hefyd, gan greu gwahaniaeth amlwg rhwng y sawl sy’n ei gwisgo a’r rhai nad ydyn nhw’n ei gwisgo. Yn ei hanfod, mae gan het y potensial i greu ymdeimlad o wahanu a hunaniaeth annibynnol rhwng y gwisgwr a’r llall. Gall hyn roi cipolwg ar lwyddiant yr het Gymreig, fel tarian amddiffynnol, mae’n symbol o warchod diwylliant a threftadaeth Cymru.

 Yn olaf, mewn dyfyniad arall gan Isabella, mae’r ymdeimlad cynhenid o hunaniaeth sy’n gysylltiedig â’r het yn cael ei atgyfnerthu“Dydw i ddim yn defnyddio het fel prop, dw i’n ei defnyddio fel rhan ohona i. Os ydw i’n teimlo’n isel, dw i’n mynd i weld Philip (Treacy), yn gorchuddio fy wyneb, ac yn teimlo’n wych”. Felly mae sut mae rhywun yn gwisgo yn effeithio nid yn unig ar sut mae eraill yn eich gweld, ond sut rydyn ni’n gweld ac yn teimlo amdanon ni ein hunain. Os yw dillad yn estyniad o’n hunain, yna mae caru’r dillad rydyn ni’n eu gwisgo yn creu potensial i’n helpu ni i weld ein hunain yn wahanol. Yn achos yr het Gymreig gall fod yn symbol o gryfder, cenedligrwydd, a balchder. I’r rhai sy’n gwisgo’r Het Gymreig heddiw, boed wrth ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, fel rhan o wisg dawns yn yr Eisteddfod, neu am hwyl, mwynhewch wisgo’r Het i’ch helpu i deimlo’n wych ac i’ch cysylltu â 400 mlynedd o hanes a treftadaeth Cymru.

 

Cyfeiriadau / Darllen Pellach

  • British Vogue, Isabella Blow, Bibby Sowray. 4 Tachwedd (2011)

  • Folk life, Welsh Peasant Costume, F. G. Payne. cyfrol II (1964) 

  • Textile history, Welsh peasant dress-workwear or national costume?, Christine Stevens. 33 (I) (2002)

  • The costume accessories series, Hats, Fiona Clark. (1982)

  • Welsh Costume, Ken Ethridge. (1958)

  • Women in Welsh History, Derek Draisey. (2004)

  • Women’s Headdress and Hairstyles in England from A.D.600 to the Present Day, Georgine de Courtais.(1986)

Dolenni gwe

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.