Ffotograffiaeth Hanesyddol
Penlle'r-gaer, ger Abertawe
Y teulu Dillwyn (Dillwyn Llewelyn yn ddiweddarach) oedd yn berchen ar Ystâd Penlle'r-gaer o'r 18fed ganrif ymlaen. Roedd John Dillwyn Llewelyn, un o arloeswyr ffotograffiaeth, yn byw ac yn tynnu lluniau yma. Roedd yn perthyn i Thomas Mansel Franklen (ffotograffydd y llun hwn) drwy ei briodas â modryb Mansel Franklen, sef Emma Thomasina Talbot.