Y broses — o ddafad i ddefnydd
Cneifio, cynaeafu a didoli
Cneifio oedd uchafbwynt cymdeithasol y flwyddyn ar ffermydd Cymru. Cneifid y cnuau mewn un darn, cyn eu rholio allan a’u plygu’n ofalus i hwyluso’r gwaith o’u didoli yn y felin.
Roedd y broses ddidoli’n hanfodol gan fod gwahanol ddefaid yn cynhyrchu gwlân o wahanol safon. Fe’u defnyddiwyd ar gyfer creu cynhyrchion gwahanol fel dillad, carpedi a charthenni. Mae ansawdd gwlân yn amrywio yn dibynnu ar ba ran o’r ddafad y daeth y cnu.
Chwalu, sgwrio a lliwio
Mae’r cnu’n cael ei basio drwy’r Chwalwr, neu’r cythraul, i’w ddatgymalu a chael gwared ar bethau fel llwch a thywod. Caiff ei ddatglymu mewn drwm â sbigynnau dur i greu swp o ffibrau meddal, fflwffog.
Roedd rhai o’r melinau mwyaf yng Nghymru’n sgwrio’r gwlân cyn ei heislanu. Tan y 1930au y dull mwyaf cyffredin oedd trochi gwlân crai mewn toddiant yn cynnwys un rhan o wrin dynol ac un rhan o ddŵr.
Hyd at tua 1850, defnyddid lliwiau naturiol i liwio gwlân. Roedd tair adeg pryd y gellid gwneud hyn: pan oedd yn dal i fod yn gnu, yn edeifion yn barod i gael eu gwehyddu, neu wedi i’r brethyn gael ei wehyddu.
Cribo, nyddu a dirwyn
Mae cribo’n creu rholiau o wlân meddal wedi’u datgymalu’n llwyr, sef edafedd cyfrodedd wedi’u datod, i’w nyddu’n edafedd. Gwnaed hyn â llaw yn wreiddiol, ond dyfeisiwyd peiriant cribo yn y ddeunawfed ganrif.
Mae nyddu’n tynnu ac yn cordeddu’r ffibrau at ei gilydd i ffurfio un edau barhaus, gan droi’r rholiau meddal yn edafedd gwlanog cryf, yn wreiddiol drwy ddefnyddio gwerthyd a throell gludadwy.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dyfeisiwyd peiriannau nyddu cyflym ac effeithlon, gan weddnewid y diwydiant gwlân. Mae dirwyn, dad-ddirwyn a dirwyn eto yn rhan hanfodol o’r broses o baratoi edafedd i’w gwehyddu.
Ystofi, gwehyddu a gorffennu
Ystofi â llaw yw un o brosesau mwyaf cymhleth y maes tecstilau; rhaid gosod yr holl edafedd yn y drefn gywir a’r drefn lliwiau cywir cyn dechrau gwehyddu.
Mae gwehyddu’n troi edafedd yn frethyn, a wneir o ddwy set o edeifion. Gosodir yr edeifion ystof ochr yn ochr, a gwehyddir yr anwe o dan, a thros, yr ystof - o dan un, dros un, o dan un, dros un…ac yn y blaen. Yn ogystal â golchi a sychu; roedd pannu, codi’r geden a gwasgu yn rhan o’r broses orffennu.
Gallwch ddysgu mwy am yr holl brosesau a’r termau hyn drwy ymweld â’r Amgueddfa, a chael golwg agosach o’r offer a’r peiriannau oedd yn hanfodol ar gyfer y diwydiant.