Cefndir y prosiect
Datblygwyd yr amgueddfa ar ddiwedd y 1990au gyda arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Yn 2017, nodwyd mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fod angen buddsoddiad mawr yn yr Amgueddfa.
Cryfhawyd yr achos dros ailddatblygu ymhellach gan Arysgrif Treftadaeth y Byd UNESCO a ddyfarnwyd i Dirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru yn 2021.
Yn Ionawr 2023, derbyniodd Cyngor Gwynedd Gyllid gan Lywodraeth y DU, ar gyfer y prosiect Llewyrch o’r Llechi: Ffyniant o’n Gorffennol Diwydiannol’ Llewyrch o'r Llechi, Cronfa Ffyniant Bro
Dyma gyfle unigryw i ddatblygu ardaloedd o fewn Safle Treftadaeth y Byd – a bydd y cyllid yma yn cefnogi Amgueddfa Lechi Cymru i warchod ac adnewyddu’r adeiladau rhestredig Gradd 1 er mwyn dod yn ganolbwynt dynodedig ar gyfer dehongli tirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Yn Ebrill 2024 derbyniodd yr Amgueddfa gyllid datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol tuag at y prosiect.
Mae cyllid arall hefyd yn cael ei geisio ar gyfer y prosiect.
Mae amser yn gyfyng iawn ar gyfer cyflawni’r ailddatblygiad, felly caewyd yr amgueddfa ym mis Tachwedd 2024 er mwyn i’r gwaith gael ei gwblhau yn ddiogel.
Yn 2025 rydym yn mynd ar daith ac yn mynd â’n pobl, ein casgliadau a’n straeon i leoliadau partner sydd wrth galon y stori llechi. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Ein nod yw ail-agor yr amgueddfa yn 2026.