Y Datblygiad

Bydd y project ailddatblygu yn rhoi bywyd newydd i’n Hamgueddfa boblogaidd a bydd yn gwarchod ein hadeiladau hanesyddol gwych a chasgliadau pwysig fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu profi a mwynhau hanes anhygoel llechi.

Bydd y datblygiad yn:

  • Gwarchod ac adnewyddu casgliadau ac adeiladau Gradd 1 Gilfach Ddu
  • Gwella profiad yr ymwelydd a mynediad drwy adnewyddu ein cyfleusterau a’n dehongli
  • Dod yn ganolfan ar gyfer y Safle Treftadaeth y Byd
  • Gwella gofodau fydd yn ein galluogi ni i rannu mwy o gasgliadau amrywiol Amgueddfa Cymru
  • Rhoi cynaliadwyedd amgylcheddol wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud
  • Cynnwys pobl a chymunedau wrth adrodd straeon ysbrydoledig
  • Galluogi mwy o bobl o bob cefndir i ddysgu, datblygu sgiliau a bod yn greadigol
  • Galluogi mwy o bobl o bob cefndir i ddysgu gyda ni ac i feithrin sgiliau traddodiadol n ymwneud â’r diwydiant llechi
  • Creu cyfleoedd i archwilio'r Amgueddfa yn ddigidol
  • Rhai o’r datblygiadau newydd yn yr Amgueddfa

    Y Caffi a Chanolfan Addysg newydd

    Canolfan Addysg newydd