Digwyddiad:Helfa Basg: Amgueddfa ar y Lon - Ysbyty Chwarel
Dewch i chwilio am y wyau sy’n cuddio o gwmpas yr Ysbyty Chwarel!
Cwblhewch bob her i ddarganfod y gair arbennig i ennill gwobr – g-wŷ-ch!
Beth ydw i'n ei gael?
Taflen helfa A4 llawn lliw.
1 Gwobr.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r taflenni'n ddwyieithog.
Oedran – Addas ar gyfer plant 4+ oed, efallai y bydd angen help ar blant iau.
Cost – Mae'r gost yn cynnwys un daflen ac un wobr. Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person. Derbynnir cerdyn a arian parod.
Mae Llwybrau Pasg ar gael yn safleoedd eraill Amgueddfa Cymru, ond gall y gwobrau, costau a’r llwybrau fod yn wahanol ym mhob safle.
Lle bo'n bosibl, rydyn ni wedi defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a byddwn yn defnyddio'r rhain eto.
Gwobr – Mae'r gwobr yn cynnwys wŷ siocled. Mae yno opsiynnau gwobr di-laeth a vegan ar gael ar gais.
Dyddiadau Helfa Basg - 15 Ebrill - 19 Ebrill, 21 Ebrill - 26 Ebrill 2026
Mae’r Ysbyty Chwarel ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn 10yb - 4yh.
*Mae'r Ysbyty ar agor dydd Gwener 18 o Ebrill, a dydd Llun 21 o Ebrill yn ystod Gwyliau Banc.*
*Mae'r Helfa Basg ar gael ar y dyddiadau penodedig nodwyd ar y dudalen yma.*
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd