Digwyddiad:Amgueddfa ar y Lôn: Bethesda

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen

Tra bod yr Amgueddfa ar gau, ein cam nesaf yw parhau â’n stori y tu hwnt i furiau’r amgueddfa – a mynd a’r Amgueddfa ar y Lôn! Rydym am wneud y mwyaf o’r cyfle unigryw hwn a mynd â’n pobl, ein casgliadau a’n straeon i leoliadau ein partneriaid sydd wrth galon y cymunedau llechi.

Byddwn yn edrych ar sut mae’r diwydiant a thirwedd chwarelyddol wedi ysbrydoli creadigrwydd a chelf yn Nyffryn Ogwen.

Gwelwch ein casgliad yn Neuadd Ogwen, gan gynnwys cerflun o Gastell Penrhyn wedi’i wneud o lechi a chwpan bedyddio llechen, a chymerwch ran mewn gweithgaredd braslunio yn Llys Dafydd wedi’i ysbrydoli gan waith M. E. Thompson (os mae’r tywydd yn caniatáu).


📅15-16 Awst  
🕰️1-5pm  
📌Neuadd Ogwen a Llys Dafydd, Bethesda 
👛 Am ddim  

Mewn partneriaeth â LleCHI LleNI

Baner logo ar gyfer cyllidwyr project ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru.

Gwybodaeth

15-16 Awst
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau