Digwyddiad:Gweithdy creadigol gyda Luned Rhys Parri - Amgueddfa ar y Lôn: Llanberis

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni am weithdy creadigol gyda Luned Rhys Parri i greu cynrychiolaeth greadigol ohonoch chi'ch hun!

Dewch ag eitem gyda chi, crair neu 'arteffact' sy'n eich cynrychioli chi fel person. Byddwn yn ail-greu'r eitem hon mewn ffordd greadigol sy'n eich portreadu chi, eich bywyd, eich cymeriad. Byddwn wedyn yn archwilio beth sy'n gwneud creiriau neu arteffactau yn ddigon arwyddocaol i'w harddangos mewn amgueddfa.

Bydd eich creadigaeth yn cael ei harddangos fel rhan o'n Hamgueddfa ar y Lôn: Llanberis.

Addas ar gyfer: pobl hyd at 25 oed. (3+, byddai angen goruchwyliaeth gwarcheidwad ar gyfranogwyr iau.)

I archebu: helpwch ni i reoli niferoedd trwy roi gwybod i ni eich bod chi'n dod. Anfonwch e-bost at ymgysylltu@amgueddfacymru.ac.uk .

10 Gorffennaf 2025, 4:00-6:30PM

Y Festri, Llanberis

Gwybodaeth

10 Gorffennaf 2026, 4:00-6:30yh
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Mwy o gynnwys

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau