Digwyddiad:Amgueddfa ar y Lôn: Cwrdd â Margaret y Mêtron, Ysbyty'r Chwarel
Dewch i fwynhau perfformiad yn Ysbyty'r Chwarel gan un o ein actorion preswyl a fyddai'n cyflwyno cymeriad newydd!
Ymunwch â Margaret – mêtron yn Ysbyty’r Chwarel - yn 1921 i ddarganfod fwy am fywyd yn yr Ysbyty. Mi fydd hi'n dweud wrthych sut beth yw gofalu am chwarelwyr sydd wedi’u hanafu, ac weithiau ambell i dieithrin! Nid yw bywyd yn yr Ysbyty yn hawdd – mae yna reolau llym, staff gweithgar, a rhai triniaethau newydd a allai eich synnu! Camwch i’w esgidiau hi, clywch ambell stori go iawn o’r gorffennol, a darganfyddwch sut beth oedd gweithio, gwella a byw yn Ysbyty’r Chwarel dros 100 mlynedd yn ôl.
Dyddiadau: 28 Awst, 4, 11, 17, 26 Medi
Amser: 12yh - 4yh
Lleoliad: Ysbyty'r Chwarel, Gilfach Ddu, LL55 4TY
Pris: Am Ddim
Gwybodaeth
Margaret y Mêtron yn Ysbyty'r Chwarel
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd