Digwyddiad:Arddangos Inclein cludo llechi Vivian
Dewch i weld yr inclein cludo llechi ar waith!
Ydych chi erioed wedi meddwl sut oedd y chwarelwyr yn cael y llechi i lawr y mynydd at y trenau? Yr ateb yw – gyda inclenau!
Llwythid y llechi ar wagenni a fyddai’n trafeilio i lawr yr inclein ar gledrau at y gwaelod, lle caent eu gwagio. Byddai gwrthbwys wedyn yn tynnu’r wagenni gweigion yn ôl I fyny’r inclein a byddai’r broses yn cychwyn eto!
Adeiladwyd Inclein Vivian rhwng 1873 - 1877. Cafodd y darn V2 ei hadfer yn 1998, diolch i grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Dyma'r unig inclein cludo llechi gweithiol ym Mhrydain heddiw!
Lleolir yr inclein ym Mharc Gwledig Padarn. I gyraedd ewch heibio gorsaf Rheilffordd y Llyn a dilyn y llwybyr.
Dydd Mercher 19, 26 Gorffennaf 2, 9, 16, 23, 30 Awst
2pm - 3pm (os yw'r tywydd yn caniatau - plis checiwch cyn trafeilio)
Gwybodaeth
Inclein Vivian ALC
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd