O Ddiwydiant i Ddiwylliant

'Dydan ni ddim am altro’r lle, na’i beintio fo. Rydan ni’n awyddus iawn i gadw’r lle fel ag yr oedd o.'

(Hugh Richard Jones, un o sylfaenwyr Amgueddfa Lechi Cymru).

 

Mae nifer o bobl yn cysylltu’r syniad o amgueddfa efo waliau gwynion, darluniau, pethau tu ôl i wydr ac awyrgylch dawel. Nid dyma’r syniad tu ôl i amgueddfeydd diwydiannol. Cynt, roedd peiriannau a gwrthrychau yn cael eu cario i adeilad filltiroedd i ffwrdd i’w harddangos. Erbyn y 1970au roedd y syniad o gael amgueddfa yn lleoliad gwreiddiol y gwaith yn llawer mwy poblogaidd. Roedd yna awydd mawr i gadw cymeriad a naws yr hen weithfeydd a rhoi syniad go iawn i’r ymwelwyr o sut yr oedd hi yno cynt.

Mae amseru yn gallu bod yn hollbwysig weithiau – cael y bobl iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn. Dyna ddigwyddodd yn hanes Amgueddfa Lechi Cymru. Roedd Chwarel Dinorwig wedi cau yn ddirybudd yn Awst 1969 ac roedd popeth oedd ynghlwm â’r gwaith i fynd ar werth. Roedd gweld popeth wedi ei rifo – yr injans, y peiriannau, hyd yn oed y pot pi-pi – yn loes calon i Hugh Richard Jones, Prif Beiriannydd y chwarel.

'…beth oedd yn fy nychryn i fwya oedd…gweld nhw i fyny ar yr olwyn fawr. Mi oddan nhw’n mynd i losgi honno, fel sgrap. Mi ges i gyfle i stopio nhw neud hynny, a siarad efo’r ocsiwniar a’r derbynnydd, ac fe neuthon nhw gau’r cwbwl i fyny a gyrru’r ‘vultures’ o na i gyd.'

1972

Agor drysau enfawr gweithdai’r Gilfach Ddu fel amgueddfa am y tro cyntaf a’r gwaith o ddehongli diwydiant ar gychwyn.

1980s

Ail-gychwyn calon y gweithdai – yr olwyn ddŵr fwyaf ar dir mawr Prydain.

Ychwanegu at ein casgliadau: y cloddiwr Smith Rodley.

1997

Cais llwyddiannus am arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri – cynlluniau mawr ar y gweill!

1998

Adfer yr inclen – yr unig un o’i math sy’n gweithio yn y DU.

Siop a caffi’n agor ar y safle.

1999

Agor drysau Fron Haul – rhoi cyfle i bobl gael cipolwg ar fywyd cartref y chwarelwyr, un o’n hatyniadau mwyaf poblogaidd hyd heddiw.

2001

Mynediad am ddim – i bawb! Ers i Llywodraeth Cymru gyflwyno polisi mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol, rydym wedi croesawu dros 1.5 miliwn o ymwelwyr i Amgueddfa Lechi Cymru.

2007

Ffrindiau ar draws y dŵrdathlu’r gefeillio rhwng Amgueddfa Slate Valley, Granville, UDA ag Amgueddfa Lechi Cymru.

 

Darllen pellach: Dinorwig: Cofio'r Cau