Ffilmio ar Leoliad
Cartref y Diwydiant Llechi
Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn amgueddfa fyw - cartref i genedlaethau o arbenigedd, peirianwaith ddiwydiannol trwm, a gweithdai crefftwyr.
Rydym ni'n croesawu ffilmio ar leoliad, ac mae pob archebiad yn cefnogi ein gwaith, wrth i ni ofalu am hanes chwarelwyr Cymru a'u cymunedau.
Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad.Ffotograffeg Nwyddau
Mae ein gweithdai yn olrhain hanes crefftwyr y gorffennol, ac yn llawn gwaith llaw cain.
Gwnant gefndir delfrydol ar gyfer ffotograffeg nwyddau, crefft neu ffasiwn:
Llogwch ein gweithdai ar gyfer eich ffotograffeg nwyddau.Hanes Byw
Mae ein crefftwyr yn arbenigwyr profiadol, sy'n llawn straeon sy'n olrhain ein hanes diwydiannol.
Gofynnwch i ni sut y gallwch wneud y gorau o'u harbenigedd yn eich rhaglen ddogfen neu eitem am hanes cymdeithasol.Cefnogwch ein gwaith
Fel corff, rydym ni'n darparu mwy o gyfleuon dysgu y tu allan i'r dosbarth nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru, yn ogystal â gofalu am ein casgliad cenedlaethol.
Newyddion a'r Wasg
I gael gwybod be' sy' 'mlaen yn yr Amgueddfa, neu i gysylltu â Swyddog y Wasg, ymwelwch a thudalen
newyddion a'r wasg