Hygyrchedd – Amgueddfa Lechi Cymru

Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn hygyrch i’n hymwelwyr er mwyn sicrhau bod y nifer ehangaf o bobl yn gallu mwynhau ein hamgueddfa, ein casgliadau a’n harddangosfeydd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau hygyrch a’r adnoddau ar draws y safle isod.

Mae mapiau o’r Amgueddfa ar gael wrth y Dderbynfa yn y brif neuadd. Gallwch chi lawrlwytho map cyn eich ymweliad.

Mae’r Amgueddfa am ddim i bawb. Efallai bydd tâl yn cael ei godi am rai arddangosfeydd a gweithgareddau. Gallwch chi archebu tocynnau wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Datganiad hygyrchedd ein gwefan

Rydyn ni’n falch o fod yr amgueddfa gyntaf i ddod yn aelod o’r cynllun Mynediad Cenedlaethol, sef Hynt. P’un a ydych chi’n unigolyn neu’n sefydliad, gallwch chi gael tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion ar gyfer rhai o’n digwyddiadau a’n harddangosfeydd. 

Mae Hynt yn fenter Cyngor Celfyddydau Cymru a reolir gan Greu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru gallwch chi wneud cais i fod yn aelod ar wefan Hynt

Archebu tocyn gyda cherdyn Hynt

Pan fyddwch chi’n archebu eich tocyn gyda cherdyn Hynt, byddwn ni’n gofyn am eich rhif cyfeirnod Hynt unigryw. Gallwch chi archebu eich tocynnau gyda ni yn y ffyrdd canlynol:

  • Wyneb yn wyneb yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – bydd ein Cynorthwywyr Amgueddfa cyfeillgar wrth y Dderbynfa yn hapus i’ch helpu chi.
  • Neu ar-lein – cliciwch ar y ddolen hon i ddechrau arni. Os ydych chi wedi archebu gyda ni ar-lein gan ddefnyddio rhif cod bar Hynt dilys, bydd eich cyfrif Hynt yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif Amgueddfa Cymru er eich hwylustod yn y dyfodol. Sylwch y gallai gymryd hyd at 24 awr i’ch aelodaeth Hynt gael ei hychwanegu at eich cyfrif ar-lein. 

Bydd tocynnau’n cael eu rhoi i ddeiliad y cerdyn, a bydd angen iddo gyflwyno ei gerdyn Hynt ffotograffig ym mhob arddangosfa neu ddigwyddiad y bydd yn ei fynychu. Bydd nifer y tocynnau Hynt sydd ar gael i'w harchebu ar-lein yn gyfyngedig, ac yn seiliedig ar y nifer a osodwyd gan Hynt yn ystod y broses ymgeisio. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dewis y nifer briodol o docynnau ar gyfer holl aelodau eich grŵp.

Er mwyn eich helpu chi i gynllunio eich ymweliad, cymerwch gip ar ein stori weledol. Mae’n cynnwys ffotograffau a gwybodaeth i ddangos beth allwch chi ei ddisgwyl o’ch ymweliad â’r Amgueddfa.

Mynedfa ac allanfa’r Amgueddfa

Mae prif fynedfa ac allanfa’r Amgueddfa o Barc Gwledig Padarn. Mae’r llwybr yn wastad a does dim grisiau. Fodd bynnag, mae rhai cledrau gwreiddiol yn y llawr a allai achosi anhawster.  

Mae’r fynedfa trwy siop yr Amgueddfa fel arfer.   
Dydy’r drysau ddim yn rhai electronig, ac mae’n bosibl y bydd angen cymorth arnoch chi i’w hagor os ydych chi ar eich pen eich hun.

Bydd mynediad trwy’r giât flaen yn ystod adegau prysur.   
Mae’r llawr yn wastad ond fe allai’r cledrau gwreiddiol yn y ddaear achosi anhawster.

Parcio hygyrch

Cyngor Gwynedd sy’n berchen ar y maes parcio ac yn ei weithredu, ac mae parcio yn £5.50 y dydd. Gallwch chi dalu gydag arian parod neu gerdyn, neu drwy’r ap PAYBYPHONE (cod lleoliad 804552).

Mae llefydd parcio hygyrch ar gael yng nghanol y maes parcio, y tu ôl i’r siopau crefft. Mae parcio am ddim i ddeiliaid bathodyn glas.

Adegau Tawel  

Gall yr Amgueddfa fod yn brysur iawn ac yn swnllyd weithiau. Yr adeg dawelaf i ymweld â’r Amgueddfa yw rhwng 10am-11am ac ar ôl 3pm, fel arfer.  

Yn y gaeaf, mae ein horielau yn cau am 3.30pm ac mae’r Amgueddfa yn cau am 4pm.

Yn yr haf, mae ein horielau yn cau am 4.30pm ac mae’r Amgueddfa yn cau am 5pm.

Ardaloedd tawel 

Y Ffowndri a’r Llofft Batrwm yw rhai o ardaloedd tawelaf yr Amgueddfa.

*Sylwch fod ardaloedd yn union y tu allan i’r Ffowndri yn gallu bod yn swnllyd.

Goleuadau a thymheredd 

Mae golau isel yn rhai o’n hardaloedd. 

Mae’r tymheredd yn amrywio wrth i chi symud trwy’r Amgueddfa ac mae rhai gofodau yn eithaf oer. Efallai hoffech chi ddod â dilledyn ychwanegol gyda chi i’w wisgo yn yr ardaloedd hyn.

Gan fod llawer o fannau awyr agored hefyd, cofiwch wisgo dillad addas i’r tywydd.

Llawr anwastad 

Mae’r Amgueddfa wedi’i lleoli ar safle diwydiannol, felly mae rhan helaeth o’r llawr yn anwastad. Mae graean llechi yn gorchuddio’r rhan fwyaf o’r ardaloedd allanol ac mae cledrau rheilffordd trwy rai ardaloedd. Gan fod y cledrau rheilffordd yn mynd trwy’r safle cyfan, fe allai hyn achosi anhawster os bydd ymwelwyr yn gadael y llwybrau swyddogol.  

Benthyg cadair olwyn 

Mae cadeiriau olwyn ar gael i’w benthyg am ddim ar gyfer eich ymweliad o siop yr Amgueddfa, ac mae’n cael ei dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Yn anffodus, allwn ni ddim darparu cymorth staff o amgylch yr Amgueddfa ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Allwch chi ddim mynd â chadeiriau olwyn allan o’r Amgueddfa.  

Sgwteri symudedd 

Mae croeso i chi ddefnyddio sgwteri symudedd yn yr Amgueddfa.

Clirio’r safle mewn argyfwng  

Mae’n annhebygol y bydd larwm yn canu yn ystod eich ymweliad. Os bydd un yn canu, peidiwch â phoeni – dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau gan aelodau staff, a fydd yn eich tywys chi i’r allanfa ddiogel agosaf. Mae larymau tân gweledol gyda goleuadau sy’n fflachio yn gweithredu hefyd.

Lifft a mynediad i’r orielau  

Mae un lifft ar y safle ar hyn o bryd, sy’n cael ei ddefnyddio i gyrraedd yr olwyn ddŵr. Mae’n addas i gadeiriau olwyn a sgwteri symudedd.  

Yr unig fynediad i’r Llofft Batrwm ar hyn o bryd yw i fyny grisiau serth, felly does dim modd i ddefnyddwyr cadair olwyn gael mynediad ati. Gallwch weld fideo am y Lofft Patrwm yma.

Mae’r llwybr yn mynd ychydig yn gulach yn Efail y Gof, sy’n golygu ei bod yn amhosibl i gadair olwyn ddefnyddio’r llwybr arferol. Gofynnwch i aelod o staff helpu i agor y rhwystrau i roi mynediad.

Mae’r llwybr at y tai ar ychydig o lethr ac mae’n bosibl y bydd angen i ddefnyddwyr cadair olwyn gael cymorth staff os ydyn nhw ar eu pen eu hunain.

Mae drysau cul y tai hanesyddol a’r gris o’u blaen yn golygu nad ydyn nhw'n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn. Fodd bynnag, mae codau QR y tu allan i bob un o’r tai sy’n rhoi mynediad at ffilmiau 3D o’r tu mewn ar gyfer ein holl ymwelwyr.

Toiledau Hygyrch

Mae toiledau hygyrch ar gael yng Nghaffi’r Ffowntan yng nghefn yr Amgueddfa. Maen nhw’n cynnwys larwm cortyn tynnu. Cyfeiriwch at y map neu gofynnwch i aelod o staff. Gallwch chi lawrlwytho map cyn eich ymweliad. 

Cyfleusterau newid cewynnau

Mae cyfleusterau newid cewynnau ar gael yn ein holl doiledau.

Mae croeso i chi fwydo ar y fron unrhyw le yn yr Amgueddfa.

Seddi

Mae meinciau wedi’u lleoli o amgylch y safle – yn y brif iard a ger Tai’r Chwarelwyr yng nghefn yr Amgueddfa. Mae seddi yn yr ardaloedd arddangos ac yn Ffowndri’r Amgueddfa hefyd.  

Mae croeso i chi ddefnyddio ffyn cerdded neu stolion plygu â sedd.

Gofynnwch i aelod o staff os oes angen seddi ychwanegol.

Seiniau Cyfoethog

Efallai byddwch chi’n clywed rhai seiniau annisgwyl yn ystod eich ymweliad. Mae’r rhain yn cynnwys sŵn chwibanu uchel o Reilffordd y Llyn wrth i’r trên fynd heibio i Dai’r Chwarelwyr. Mae ffrwydrad yn ystod y ffilm gyflwyniadol hefyd.

Cŵn gwasanaeth

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn falch o groesawu cŵn i’r Amgueddfa.  

Mae croeso iddyn nhw yn y rhan fwyaf o ardaloedd o amgylch yr Amgueddfa, ond does dim modd iddyn nhw fynd mewn i’r theatr, yr oriel gelf, y tai hanesyddol, yr arddangosiad hollti llechi na’r caffi.

Mae croeso i gŵn cymorth hyfforddedig yn yr ardaloedd hyn.

Mae’n rhaid i gŵn gael eu cadw ar dennyn byr bob amser.

Mae powlenni dŵr wedi’u darparu wrth fynedfa’r Amgueddfa a ger y caffi.

Mae ‘rhaw faw’ ar gael wrth fynd i mewn i’r Amgueddfa ac rydyn ni’n gwerthfawrogi eich cydweithrediad wrth gadw’r Amgueddfa yn lân ac yn ddiogel.

Dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw anifeiliaid eraill.

Dolenni Sain

Mae dolenni sain wedi’u darparu yn y Sinema, yr Ystafell Arddangosfa (Padarn), yr Ardal Hollti Llechi (Dinorwig), y Siop a’r Caffi. 

Mae dolenni sain cludadwy ar gael hefyd ar gais.

Bagiau synhwyraidd

Mae bagiau synhwyraidd ar gael yn ein hystafell addysg os ydych chi’n cymryd rhan mewn sesiwn wedi’i hwyluso, neu gallwch chi eu casglu o’r Dderbynfa yn y siop os ydych chi ar ymweliad cyffredinol. Mae’r bagiau yn cynnwys:  
Clustffonau canslo sŵn    
Teganau fidget   
Tortsh   
Chwyddwydr 

Teithiau Dementia-gyfeillgar

Rydyn ni’n gweithio gyda grwpiau Dementia ac yn cynnal gweithgareddau rheolaidd i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â llechi@amgueddfacymru.ac.uk.