Y project
Project tair blynedd yw Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion wedi'i arwain ar y cyd gan Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Alzheimer’s Cymru, gyda nawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y project ym mis Ebrill 2022 gan adeiladu ar ein rhaglen bresennol o ddigwyddiadau dementia-gyfeillgar, gyda’r nod o weithio gyda pobl sydd yn byw gyda dementia, gofalwyr di-dâl, staff y sector gofal, cydweithwyr y sector treftadaeth a chymunedau a sefyliadau oddi ledled Cymru i ddatblygu a darparu ffyrdd ymarferol i ymgysylltu â phobl sydd wedi’u heffeithio gan dementia ac i wella’u safon byw drwy wella mynediad i safleoedd ac adnoddau’r Amgueddfa.
Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn:
- creu Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth i lywio a siapio gwaith y project
- datblygu a darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia i staff yn y sector treftadaeth
- datblygu a darparu pecyn cefnogol ar gyfer gofalwyr di-dâl/staff y sector gofal i ddefnyddio adnoddau amgueddfa gyda’r bobl yn eu gofal
- creu rhaglen o weithgareddau i ddarparu mynediad i'r amgueddfa, ei hadnoddau a'i chasgliadau i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia
“Yma yn y Gymdeithas Alzheimer's, rydyn ni'n gweithio tuag at fyd lle nad yw dementia yn dinistrio bywydau. Rydyn ni'n gwneud hyn drwy helpu'r bobl sy'n byw gyda dementia heddiw, a chynnig gobaith ar gyfer y dyfodol. I lawer o bobl, mae amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth yn hollbwysig ac yn rhan gyson o'n bywydau. Gall hyn amrywio o ymweld â safleoedd hanesyddol gyda'n rhieni fel plentyn neu ar daith ysgol, i fynd i atyniadau cenedlaethol ar wyliau. Mae safleoedd treftadaeth yn dod yn bwysicach i ni wrth i ni heneiddio, fel lle i ymlacio, adfer ac ymgysylltu drwy brofiad amlsynhwyraidd o'r amgylchedd o'n cwmpas.
Rydyn ni wrth ein boddau i fod yn cydweithio ag Amgueddfa Cymru ar broject Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion, i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a darparu ffyrdd ymarferol o ymgysylltu â phobl sy'n byw gyda dementia a helpu i wella iechyd a lles drwy fynediad i safleoedd ac adnoddau'r Amgueddfa. Rydyn ni'n falch iawn o'r cynnydd a wnaed hyd yma gan dîm Amgueddfa Cymru, ac yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach wrth i ni archwilio ffyrdd newydd a chyffrous o ymgysylltu â chymunedau, gan gynyddu effaith y project ymhellach.”
Richie Maiorano, Cymunedau Cyfeillgar i Ddementia – Arweinydd Cymru, Cymdeithas Alzheimer’s Cymru