Datganiadau i'r Wasg

Noson wyllt yn yr amgueddfa!

Ar ôl seibiant o ddwy flynedd oherwydd pandemig COVID-19, bydd Amgueddfa Cymru yn cynnal ei digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf.

Mae Hwyrnos: ANIFAIL yn noson allan wyllt yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i oedolion yn unig a bydd ymwelwyr i’r digwyddiad yn cael golwg gyntaf ar arddangosfa fyd-enwog Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn sydd ar fenthyg o'r Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain. Bydd yr arddangosfa yn agor i’r cyhoedd y diwrnod canlynol ar ddydd Gwener 27 Mai 2022.

Bydd y digwyddiad yn llenwi’r amgueddfa er mwyn lansio'r arddangosfa ac i ddathlu byd natur, gan gynnwys cwis gyda Bingo Lingo, sydd wedi teithio'r DU gyda'u fersiwn unigryw o noson bingo!

Bydd yr amgueddfa yn cymysgu coctels arbennig wedi’u hysbrydoli gan anifeiliaid i gyd-fynd â'r digwyddiad.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sgyrsiau curadurol gan rai o arbenigwyr yr amgueddfa ac ardaloedd crefftau fydd yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth ar eich stepen drws.

Meddai Ruth Oliver, Rheolwr Digwyddiadau Amgueddfa Cymru, "Ry’n ni mor gyffrous i agor drysau'r Amgueddfa eto ar gyfer digwyddiadau byw wrth i ni ail-lansio ein rhaglen Hwyrnos. Bydd y digwyddiad yn gyfle i oedolion o bob oed fwynhau'r holl bethau hwyliog ry’n ni wedi’u trefnu. Dewch i edrych ar yr arddangosfa, cwrdd â'n curaduron a dathlu harddwch a breuder byd natur."

Mae tocynnau Hwyrnos: ANIFAIL yn costio £15 ac ar gael i'w brynu nawr o www.amgueddfa.cymru/Hwyrnos

Tra bydd Hwyrnos: ANIFAIL yn lansio arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn, mae'r amgueddfa wedi cyhoeddi rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i gefnogi'r arddangosfa a rhoi cyfle i ymwelwyr o bob oed gael eu hysbrydoli a'u diddanu yr haf hwn. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • 2 Gorffennaf 2022: Diwrnod Cenedlaethol y Ddôl

Cyfle i’r cyhoedd alw draw i Ddôl Drefol yr Amgueddfa a rhoi cynnig ar greu bomiau hadau, celf a yoga.

  • 28 Gorffennaf 2022: Ffilm a thaith drwy’r arddangosfa

Mae arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn amlygu gwirioneddau anghysurus am yr argyfwng hinsawdd. Bydd y noson hon yn gyfle i weld yr arddangosfa a gwylio ffilm amgylcheddol bwerus fydd yn eich ysbrydoli.

  • 4 Awst 2022: Sgwrs gyda...

Trafodaeth banel fyw a rhithiol hybrid fydd yn dathlu arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn ac yn gyfle i drafod pynciau sy’n cael eu hamlygu gan y ffotograffau, megis cynaliadwyedd, yr argyfwng hinsawdd a’r effaith ar fywyd gwyllt, byd natur a’n bywydau ni.

  • 13-14 Awst 2022: Amgueddfa Dros Nos: Byd Natur Gartref

Mwynhewch noson o sbort a sbri yn yr Amgueddfa o adref, gan gynnwys cystadleuthau, coginio, crefftau a gwesteion arbennig. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Amgueddfa Dros Nos wedi gwerthu allan yn gyflym, felly bachwch y cyfle i diddanu’r plant dros yr haf!

Bydd Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn dychwelyd i Gaerdydd rhwng 27 Mai a 29 Awst 2022, i arddangos lluniau rhagorol sy’n dal ymddygiad diddorol anifeiliaid ac amrywiaeth rhyfeddol byd natur.

Noddir yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn hael iawn gan Gefnogwr Teithio Rheilffyrdd Cymru, Great Western Railways, a dyma’r unig amgueddfa yn y DU y tu allan i Lundain i ddangos y 100 ffotograff rhagorol wedi’u hôl-oleuo.

Cost mynediad i’r arddangosfa yw £10, gyda gostyngiadau yn £7 a mynediad am ddim i blant dan 16 ac Aelodau Amgueddfa Cymru. Am ragor o wybdoaeth ac i archebu tocynnau ir arddangosfa a’r digwyddiadau, ewch i dudalen yr arddangosfa ar ein gwefan.