Arddangosfa: Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn




Ydych chi'n bwriadu ymweld a'r arddangosfa? Archebwch docyn nawr
Mwy o amser yn yr arddangosfa!
Ar 4 Awst, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor nes 9pm el rhan o'n cynllun oriau ychwanegol, Mwy o Amser. Dewch i fwynhau arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn nes 8pm!
O'r corgimwch i'r carw, ac o'r arth wen i'r corryn – mae arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn enwog yr Amgueddfa Hanes Natur yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd!
Mae’r arddangosfa yn cynnwys 100 o luniau wedi eu hôl-oleuo fydd yn tanio brwdfrydedd a chwilfrydedd drwy arddangos amrywiaeth a bregusrwydd bywyd gwyllt ein planed.
Mae Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn blatfform byd-eang ar gyfer arddangos golygfeydd mwyaf trawiadol ac anhygoel byd natur. Derbyniwyd dros 49,000 o gynigion eleni o bob cwr o’r byd.
Gan ddefnyddio grym emosiynol ffotograffiaeth, mae'r gystadleuaeth yn annog pobl i feddwl yn wahanol am eu perthynas â natur, ac i weithredu dros y blaned.
Caiff y delweddau eu beirniadu gan banel o arbenigwyr yn y maes, a'u dewis am eu creadigrwydd, eu crefft a'u cymhlethdod technegol. Datblygwyd a cynhyrchwyd cystadleuaeth Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn gan yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain.
Mynediad am ddim i Aelodau!
Nid oes angen i Aelodau dalu am docyn i'r arddangosfa hon. Dewch yn Aelod am fynediad am ddim i arddangosfeydd sydd rhaid talu amdanynt.
Digwyddiadau Cysylltiedig
Cefnogwch Ni
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru trwy wirfoddoli, ymuno â ni neu gyfrannu. Eich stori chi yw ein stori ni. Cyfrannwch heddiw