Datganiadau i'r Wasg

Bwyd stryd, danteithion melys a stondinau lu yn Sain Ffagan wrth i ŵyl fwyd flynyddol Amgueddfa Cymru ddychwelyd

Yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i lawer, mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 9 a 10 Medi, gyda gwledd o stondinau bwyd, cerddoriaeth a hwyl i'r teulu cyfan. 

Bydd yr Amgueddfa yn dod yn fyw gyda thros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft i'w mwynhau o amgylch yr adeiladau hanesyddol.  

Bydd cerddoriaeth fyw ar ddau lwyfan gan lu o dalentau Cymru wedi'u curadu gan Gorwelion BBC a Tafwyl, New Heights, a Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru.  Bydd perfformwyr yn cynnwys Mace the Great, Small Miracles, Half Happy, Blankface a llawer mwy. 

O wneud menyn i ddysgu am fasgedi siopa pobl ganrif yn ôl, gall ymwelwyr fwynhau mynd yn ôl mewn amser yn rhai o adeiladau eiconig yr Amgueddfa diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. ⁠

Cynhelir digwyddiadau i'r teulu mewn amryw leoliadau ar draws yr Amgueddfa - o ddangosiadau coginio yn yr adeiladau hanesyddol i sesiynau sgiliau syrcas, bydd digon i gadw'r rhai bach yn brysur! 

Dewch i ddysgu sut i gynhyrchu blawd gyda Melinydd Melin Bopmren, neu fwynhau arddangosfa'r cynhaeaf yng Nghapel Pen-rhiw. 

Yn Ardal Bwyd Da Caerdydd bydd digonedd o weithgareddau i'r teulu cyfan  i ddysgu pa fwydydd sy'n dda i bobol a'r blaned. Dan ofal Bwyd Caerdydd, a gyda Beca Lyne-Pirkis, bydd y lle yn llawn gweithdai, arddangosiadau, sgyrsiau a gweithgareddau'n dathlu bwyd lleol.

Bydd Cangen Cymru'r Gymdeithas Lysiau Genedlaethol yn dychwelyd eleni. ⁠Ydych chi'n siŵr o'ch shibwns a'ch sweds? Dyma gyfle i weld y grefft o dyfu llysiau ar ei gorau – gallech ei galw yn gelfyddyd hyd yn oed.  ⁠

O brydau traddodiadol Cymru i fwyd stryd blasus, dyma rai o'r stondinau fydd yma i'ch temtio: 

Austringer Cider, Babita's Spice Deli, Bao Selecta, Gin Tin Bar, Green Beans, Hello Good Pie, Ice Green, Minto's Patisserie, Mr Croquewich, Quantum Coffee Roasters, Rickshaw Rodeo, The Pudding Wagon, The Real Ting, Welsh Gluten Free Bakery Products, a llawer mwy!  

Gallwch chi brynu bara a theisennau o fecws yr Amgueddfa ei hun hefyd.

Dywedodd Mared Maggs, Pennaeth Digwyddiadau Amgueddfa Cymru: 

 "Mae'r ŵyl fwyd yn un o ddigwyddiadau mwya'r flwyddyn i Amgueddfa Cymru, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddathlu gwledd o gynhyrchwyr Cymreig a thalent amrywiol o bob cwr o Gymru. Gall ymwelwyr ddisgwyl bwyd bendigedig, cerddoriaeth wych a digonedd o weithgareddau i'r teulu oll." 

⁠"Diolch o galon i chwaraewyr y People's Postcode Lottery am gefnogi'r gweithgareddau teuluol yn yr ŵyl."

Bydd yr Amgueddfa ar agor yn hwyrach i roi cyfle i chi fwynhau'r digwyddiad yn llawn - cyfle i ymlacio a mwynhau dyddiau ola'r haf tan 6pm. ⁠

Bydd Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 9 ac 10 Medi rhwng 10am a 6pm. 

Mae mynediad am ddim i Sain Ffagan a pharcio yn costio £6. ⁠ Mae manylion llawn ar wefan. Gŵyl Fwyd | Amgueddfa Cymru