Datganiadau i'r Wasg

Bwyd stryd, stondinau a cherddoriaeth fyw i’w mwynhau yng Ngŵyl Fwyd flynyddol Amgueddfa Cymru

Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 7 ac 8 Medi, gyda gwledd o stondinau bwyd, cerddoriaeth fyw a hwyl i bawb o bob oed.

Bydd yr Amgueddfa yn dod yn fyw gyda thros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft i’w mwynhau o amgylch yr adeiladau hanesyddol.  


Bydd cerddoriaeth fyw ar Lawnt Gwalia wedi’i churadu gan Bloedd a Llwyfan Newydd. Ymysg y perfformwyr bydd Oasis One World Choir, Keyz Collective a Ladies of Rage. 


O wneud menyn i ddysgu am fasgedi siopa pobl ganrif yn ôl, gall ymwelwyr fwynhau mynd yn ôl mewn amser yn rhai o adeiladau eiconig yr Amgueddfa, diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. ⁠


Cynhelir digwyddiadau i’r teulu mewn amryw leoliadau ar draws yr Amgueddfa – o ddangosiadau coginio yn yr adeiladau hanesyddol i sesiynau sgiliau syrcas, bydd digon i gadw’r rhai bach yn brysur! 


Dewch i ddysgu sut i gynhyrchu blawd gyda Melinydd Melin Bompren, neu fwynhau arddangosfa’r cynhaeaf yng Nghapel Pen-rhiw.


Bydd dwy ardal newydd yn yr ŵyl eleni, diolch i arian grant Bwyd a Diod Cymru. Ymunwch â’r cogydd Nerys Howell, sy’n arbenigo mewn bwyd a diod o Gymru, am gyfres o sesiynau i werthfawrogi a mwynhau pob math o gynnyrch Cymreig o safon. Bydd y rhaglen yn cynnwys arddangosiadau coginio, sesiynau blasu bwyd a diod, sgyrsiau gyda chynhyrchwyr lleol a chyfle i ddysgu mwy am hanes a threftadaeth bwyd yng Nghymru drwy gasgliadau’r Amgueddfa a chynnyrch Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ei hun.


Dywedodd Nerys Howell: 
“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn i gyflwyno’r holl weithgareddau cyffrous sydd yn y babell fwyd newydd O’r Pridd i’r Plât. Bydd ffermwyr, garddwyr, cynhyrchwyr a chogyddion yn cyfrannu at stori treftadaeth bwyd yng Nghymru wrth rannu hanes tarddiad ein bwyd. Bydd cogyddion yn paratoi ryseitiau o fwyd lleol a thymhorol. Bydd gwledd o flasau gwahanol at ddant pawb!”


Yn Ardal Bwyd Da Caerdydd bydd digonedd o weithgareddau i’r teulu cyfan i ddysgu pa fwydydd sy’n dda i bobl a’r blaned. Dan ofal Bwyd Caerdydd, a gyda Beca Lyne-Pirkis (cogydd, cyflwynydd, awdur a seren y Great British Bake Off), bydd y lle yn llawn gweithdai, arddangosiadau, sgyrsiau a gweithgareddau’n dathlu bwyd lleol.


Dywedodd Pearl Costello, Cydlynydd Bwyd Caerdydd: 
"Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd dros fwyd da. Bydd Ardal Bwyd Da Caerdydd yn gyfle i deuluoedd gael diwrnod allan llawn hwyl a dysgu am sector bwyd a diod leol Cymru, wrth gael eu hysbrydoli i helpu Cymru i ddod yn genedl fwyd iach a chynaliadwy. 


Bydd digonedd o fwyd blasus ar gael gan gynnwys: 
Bao Selecta, Doughnutterie, Ffwrnes Pizza, Meat and Greek, Mr Croquewich, The Grazing Shed, Pettigrew Bakery a llawer mwy.  


Dywedodd Ruth Oliver, Rheolwr Digwyddiadau yn Amgueddfa Cymru: 
”Yr Ŵyl Fwyd yw digwyddiad mwya’r flwyddyn i Amgueddfa Cymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu gwledd o gynhyrchwyr Cymreig a thalent amrywiol o bob cwr o Gymru. Gall ymwelwyr ddisgwyl bwyd bendigedig, cerddoriaeth wych a digonedd o weithgareddau i’r teulu oll.

Bydd yr Amgueddfa ar agor tan 6pm ar y ddau ddiwrnod, er mwyn i ymwelwyr wneud y mwyaf o’r ŵyl.”
 

Bydd Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 7 ac 8 Medi rhwng 10am a 6pm.

Mae mynediad am ddim i Sain Ffagan, ac mae parcio yn costio £7. Mae manylion llawn ar ein gwefan