Datganiadau i'r Wasg

Safle Amgueddfa Lechi Cymru i gau y drysau am y tro!

Ar 4 Tachwedd 2024 bydd Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn cau y drysau tan 2026 tra bod yr Amgueddfa yn cael ei hailddatblygu!

Bydd yr ailddatblygiad yn rhoi bywyd newydd i'r amgueddfa boblogaidd ac yn ei thrawsnewid i fod yn atyniad o safon fyd-eang wrth galon Tirwedd Llechi gogledd-orllewin Cymru - safle Treftadaeth y Byd UNESCO.                                                                                                                                                                                                                                                                                         
Bydd yr adeiladau Gradd 1 nodedig yn cael eu cadw’n saff a’u hadnewyddu, a bydd profiad ymwelwyr yn cael ei wella gyda chanolfan addysg newydd, man chwarae, siop a chaffi. Bydd dehongli yn cael ei wella ar draws yr amgueddfa a gofodau’n cael eu huwchraddio er mwyn galluogi’r amgueddfa i rannu mwy o gasgliadau amrywiol Amgueddfa Cymru.                                         
 

Bydd y project ailddatblygu yn rhoi bywyd newydd i’n Hamgueddfa boblogaidd a bydd yn gwarchod ein hadeiladau hanesyddol gwych a chasgliadau pwysig fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu profi a mwynhau hanes anhygoel llechi.
 

Dywedodd Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru:
“Bydd y prosiect yn diogelu ein hamgueddfa a’n casgliadau sydd a phwysigrwydd byd-eang fel y gall cenedlaethau a chymunedau’r dyfodol brofi a mwynhau stori anhygoel llechi. Bydd yr ailddatblygiad hwn yn trawsnewid sut rydym yn adrodd stori llechi, gan wneud profiad ein hymwelwyr hyd yn oed yn fwy cyffrous.”
“Byddwn yn cau’r Amgueddfa dros dro ym mis Tachwedd 2024 er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl waith cadwraeth ac adnewyddu yn gallu digwydd yn ddiogel. Hoffem ddiolch i’n partneriaid a’n cyllidwyr, Cyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – hebddynt hwy, a chefnogaeth y gymuned leol, ni fyddai’r gwaith hwn yn bosibl. Ni allwn aros i groesawu ymwelwyr yn ôl yn 2026!”
 

Gyda llai na 30 diwrnod i fynd tan i’r Amgueddfa gau dros dro, mae llawer i’w wneud! Mae gwaith curadurol i gofnodi casgliad cyfan yr Amgueddfa ar y gweill, cyn i dros 8,000 o eitemau gael eu symud i’w cartref newydd dros dro. 
Mae’r Amgueddfa hefyd yn brysur yn trefnu wythnos o weithgareddau i nodi’r achlysur yn ystod hanner tymor mis Hydref i ffarwelio â’r gymuned leol ac ymwelwyr am y tro.

Bydd llu o weithgareddau gan gynnwys teithiau tu ôl i'r llenni a gweithgareddau crefftau.
 

Er y bydd safle’r Amgueddfa ar gau, bydd stori a hanes y llechi yn parhau i gael ei adrodd, fel eglurodd Elen Roberts, Pennaeth Amgueddfa Lechi Cymru:
“Yn 2025, byddwn yn mynd â’r amgueddfa ar daith, ac yn gweithio gyda’n partneriaid mewn atyniadau a digwyddiadau cymunedol cyfagos. Rydyn ni’n gyffrous iawn am wneud pethau ychydig yn wahanol a cael mynd tu hwnt i furiau’r amgueddfa, gan ddysgu gan ymwelwyr a chymunedau lleol ac ymgysylltu â nhw wrth ail-ddweud stori llechi.”
Ychwanegodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: 
“Mae’n gyffrous gweld cynlluniau’n datblygu i Amgueddfa Lechi Cymru fod wrth galon adrodd ei hanes a pharhau â’i hetifeddiaeth ddiwydiannol. Rydym yn falch o ddyfarnu’r cyllid hwn i alluogi’r cynlluniau hynny i gael eu datblygu ac edrychwn ymlaen at weld sut y gall y prosiect hwn drawsnewid yr amgueddfa ar gyfer ymwelwyr, sut y gall pobl gymryd rhan mewn llunio eu treftadaeth a sut y bydd cymunedau yng Ngogledd-orllewin Cymru a thu hwnt yn elwa .”
 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd: 
“Rydym yn hapus i weld y gwaith i ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn symud i’r cam nesaf.  Mae hwn yn ddatblygiad blaenllaw ar gyfer prosiect Llewyrch o’r Llechi sy’n cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd a’i ariannu gan Lywodraeth y DU, a fydd yn sefydlu’r Amgueddfa fel y prif ganolbwynt ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.

Bydd datblygu’r canolbwynt hwn yn rhoi’r profiad ymwelwyr o’r radd flaenaf i’r Dirwedd Lechi y mae’n ei haeddu – gan ddathlu ein treftadaeth gyfoethog, ein diwylliant, ein hiaith a’n cymunedau – yn ogystal ag adrodd hanes ein rôl yn toi’r byd, ymdrechion ac arloesedd ein gwlad a'n pobl a'r effaith y mae hyn yn ei gael ar ein cymunedau a'n tirwedd. Bydd y canolbwynt hefyd yn sicrhau bod y rhai sydd am ddysgu a gweld mwy o Safle Treftadaeth y Byd yn cael eu cyfeirio a’u cyfeirio at ardaloedd unigryw a chofiadwy eraill y dirwedd lechi fel y gallant fwynhau a gwerthfawrogi treftadaeth a diwylliant cyfoethog yr ardal. Mae Cyngor Gwynedd yn falch o fod yn bartner yn y prosiect hwn ac yn dymuno pob lwc i Amgueddfa Lechi Cymru a’i staff ar gyfer y gwaith ailddatblygu cyffrous.”
 

Bwriad yr amgueddfa yw ail-agor yn 2026. 


Amcangyfrifir mai cyfanswm cost presennol yr ailddatblygiad yw £21 miliwn. Y mae swm sylweddol ohono wedi’i sicrhau drwy bartneriaethau ariannu gyda Chyngor Gwynedd (trwy Lywodraeth y DU) fel rhan o brosiect Llewyrch o’r Llechi, Llywodraeth Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a chyllidwyr eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar am y cymorth ariannol a ddarparwyd hyd yma.
 

Darllenwch mwy am y prosiect yma: https://amgueddfa.cymru/llechi/ailddatblygu

Nodiadau i’r Golygydd

Mae’r amgueddfa wedi’i lleoli yng ngweithdai Diwydiannol Fictoraidd rhestredig Gradd 1 chwarel lechi hanesyddol Dinorwig. Fe’i hagorwyd am y tro cyntaf ym Mai 1972 fel Amgueddfa Chwareli Gogledd Cymru, yn dilyn cau’r chwarel ym 1969. 

Ers 1972 mae dros 4 miliwn o bobl wedi cerdded drwy ei porth mawr anhygoel i weld nodweddion ac atyniadau unigryw’r amgueddfa – gan gynnwys olwyn ddŵr weithredol fwyaf y DU, y ffowndri wreiddiol, ac arddangosiadau hollti llechi poblogaidd. Ar gyfartaledd rydym yn croesawu 145,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. 

Derbyniodd Amgueddfa Lechi Cymru gyllid o £1.6 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ym 1997 i ailddatblygu'r amgueddfa. Roedd y datblygiadau hyn yn cynnwys adleoli teras o Dai Chwarelwyr i’r amgueddfa o Danygrisiau ac adfer inclein Vivian V2 ym Mharc Gwledig Padarn. 

Amgueddfa Cymru: Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein hamgueddfeydd yw Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.

Mae ein safleoedd yn ofodau cymunedol hanfodol sy'n llawer mwy na lle ar fap. Ein nod yw defnyddio stori Cymru i ysbrydoli pawb fyddwn ni'n eu cyffwrdd, gan gydnabod bod gan bawb rywbeth i'w gyfrannu drwy ein casgliadau a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud. Diolch i nawdd Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i bob un o'n saith amgueddfa.

Mae dros 600 o staff yn gweithio yma ac rydyn ni'n croesawu tua 1.8 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn. Mae dros 5 miliwn o eitemau unigol yn ein casgliadau, sy’n cynnwys celf a dylunio, hanes ac archaeoleg a’r gwyddorau naturiol.