Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru
Parchu ein gorffennol ac edrych i’r dyfodol
Bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn cael ei gweddnewid fis Tachwedd 2024.
Bydd y project ailddatblygu yn rhoi bywyd newydd i’n Hamgueddfa boblogaidd a bydd yn gwarchod ein hadeiladau hanesyddol gwych a chasgliadau pwysig fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu profi a mwynhau hanes anhygoel llechi.
Mae llawer i’w wneud, felly byddwn ni’n cau’r Amgueddfa dros dro ym mis Tachwedd 2024 i wneud yr holl waith cadwraeth ac adnewyddu yn ddiogel ac i ddiweddaru’r arddangosfeydd a’r arddangosiadau.
Fyddwn ni ddim yn segur tra rydyn ni ar gau! Yn 2025 byddwn yn mynd â’r Amgueddfa ar daith, yn gweithio gyda’n partneriaid, ac yn ymddangos dros dro mewn llefydd cyfagos, o atyniadau lleol i ddigwyddiadau cymunedol.
Byddwn yn ailagor gydag Amgueddfa wedi’i hadfywio sy’n rhoi profiadau gwell yn 2026.
Bydd y datblygiad yn:
- Gwarchod ac adnewyddu casgliadau ac adeiladau Gradd 1 Gilfach Ddu
- Gwella profiad yr ymwelydd a mynediad drwy adnewyddu ein cyfleusterau a’n dehongli
- Dod yn ganolfan/hwb ar gyfer y Safle Treftadaeth y Byd
- Gwella gofodau fydd yn ein galluogi ni i rannu mwy o gasgliadau amrywiol Amgueddfa Cymru.
- Rhoi cynaliadwyedd amgylcheddol wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud
- Cynnwys pobl a chymunedau wrth adrodd straeon ysbrydoledig
- Galluogi mwy o bobl o bob cefndir i ddysgu, datblygu sgiliau a bod yn greadigol.
- Galluogi mwy o bobl o bob cefndir i ddysgu gyda ni ac i feithrin sgiliau traddodiadol n ymwneud â’r diwydiant llechi.
- Creu cyfleoedd i archwilio'r amgueddfa yn ddigidol
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd