Datganiadau i'r Wasg
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dangos Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw gan Syr John Akomfrah am y tro cyntaf yn y DU
Dyddiad:
2025-03-27Gosodwaith amlgyfrwng yw Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw gan Syr John Akomfrah, a gomisiynwyd gan y British Council ar gyfer pafiliwn Prydain yn 60fed gŵyl Biennale Fenis, 2024. Amgueddfa Cymru yw’r amgueddfa gyntaf i ddangos y gwaith ar ei daith drwy’r DU.
John Akomfrah. Hawlfraint: © John Akomfrah. Llun gan Jack Hems.
Cafodd y gwaith ei arddangos yn wreiddiol yn Fenis fel cyfres o wyth ‘Caniad’ – gweithiau oedd yn gorgyffwrdd. Mae’n bleser gan Amgueddfa Cymru gael dangos Caniadau IV, V a VI yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 24 Mai–7 Medi 2025, gyda chefnogaeth y British Council a’r Gronfa Gelf.
Mae John Akomfrah, sy’n byw ac yn gweithio yn Llundain, yn ffigwr dylanwadol ym meysydd ffilm arbrofol ac astudiaeth hanes trefedigaethol a hunaniaeth ar sail hil. Nid yw’r gwaith hwn yn eithriad. Mae delweddau hardd yn cyferbynnu â gwirioneddau poenus, wrth i’r darnau ddod ynghyd i greu naratifau ynghylch mudo, gwrthryfel, ymgyrchu, camwahaniaethu ac effeithiau amgylcheddol. Mae’n talu teyrnged i leisiau ar ymylon cymdeithas, gan gynnwys cenhedlaeth Windrush, ac yn edrych ar eiliadau allweddol mewn hanes trefedigaethol ac ôl-drefedigaethol.
Mae pob darn aml-haenog yn cynnwys deunydd wedi’i ffilmio o’r newydd, ynghyd â chlipiau fideo o’r archif a delweddau llonydd, wedi’u plethu ynghyd gyda seiniau rhythmig, clipiau sain a thestun. Mae’n waith i ymgolli ynddo, ac mae’n annog gwrando fel ffurf o weithredu.
Dywedodd Syr John Akomfrah:
“Mae dod â Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw i’r DU ar ôl ei gyfnod ym Mhafiliwn Prydain yn Fenis yn fodd o barhau â’r sgyrsiau a ddechreuwyd gan y gwaith. Mae gwahanol ddarnau’r gwaith yn toddi i’w gilydd, gan adlewyrchu’r ffordd y caiff y cof – personol a chyffredinol – ei siapio gan hanesion mudo, dadleoli ac ymyrraeth wleidyddol. Rwy’n gobeithio y bydd arddangos y gwaith ym Mhrydain yn amlygu safbwyntiau newydd ar y ffyrdd y mae’r naratifau hyn yn esblygu ar draws cenedlaethau, ac yn dal i atseinio heddiw.”
Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:
“Rydyn ni’n gyffrous iawn i ddod ag arddangosfa Listening All Night To The Rain gan John Akomfrah i Gaerdydd. Mae hon yn foment arwyddocaol i Gymru. Wedi’i ddangosiad llwyddiannus yng ngŵyl Biennale Fenis, un o’r llwyfannau pwysicaf yn y byd ar gyfer celf weledol, mae’n anrhydedd cael cyflwyno darn mor bwerus yn Amgueddfa Cymru, gan roi cyfle i gynulleidfa newydd brofi’r gwaith cymhleth hwn. Mae’r gwaith yn cynnig naratif sy’n croesi ffiniau, gan archwilio mudo, hunaniaeth a phrofiadau dynol. Trwy ddod â gwaith John i’n prifddinas, gobeithiwn annog pobl Cymru i gysylltu â’i weledigaeth, ei greadigrwydd a’i negeseuon pwysig.”
Ynghyd â Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hefyd yn cynnal arddangosfa o waith yr artist o Gymru Sean Edwards, Undo Things Done. Bu Sean yn cynrychioli Cymru yn 58fed Biennale Fenis yn 2019.
Mae Undo Things Done yn archwilio magwraeth yr artist mewn stad o dai yng Nghaerdydd yn y 1980au, gan gofnodi cyflwr o ‘beidio disgwyl llawer’ a’i drosi yn iaith weledol; un sydd yn dwyn i gof ffordd o fyw fydd yn gyfarwydd i lawer. Cafodd ei brynu gan Amgueddfa Cymru ar gyfer y casgliad cenedlaethol, a hwn fydd y tro cyntaf i’r gwaith gael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Dywedodd Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru:
“Mae Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw yn ddarn teimladwy a myfyriol, sy’n archwilio digwyddiadau yn ein hanes fel pobl sydd wedi siapio ein ffordd o weld a phrofi’r byd. Rydym yn falch iawn mai Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fydd y lleoliad cyntaf yn y DU i ddangos y gwaith, a hoffem ddiolch i’r British Council am gefnogi’r daith. Rydym hefyd yn falch o ddangos gwaith Sean Edwards, Undo Things Done, ar y cyd â gosodwaith Syr John Akomfrah. Mae’r ddau waith yn wedi’u cyflwyno’n wreiddiol yn Biennale Fenis, ac yn dystiolaeth o safon artistiaid cyfoes Cymru a Phrydain ar y llwyfan rhyngwladol.”
Mae tocynnau ar gyfer Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw (24 Mai 2025–7 Medi 2025) am ddim. Mwy o wybodaeth ar gael o Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw gan John Akomfrah
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Rachel Bowyer, Arweinydd Cyfathrebu
rachel.bowyer@amgueddfacymru.ac.uk
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Ganwyd Syr John Akomfrah ym 1957, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain. Mae’n un o sylfaenwyr y Black Audio Film Collective, 1982-1998. Mae ei ddylanwad yn enfawr ar feysydd ffilm arbrofol ac astudiaeth hanes trefedigaethol a hunaniaeth ar sail hil.
Cafodd Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw ei gomisiynu gan y British Council ar gyfer 60fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia, 2024 ar y cyd â Lisson Gallery, Thyssen Bornemisza Art Contemporary a Smoking Dogs Films.
Mae’r holl waith celf yn ymddangos trwy garedigrwydd Lisson Gallery a Smoking Dogs Films.
Caiff comisiwn a thaith Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw o gwmpas y DU ei gefnogi gan y Gronfa Gelf.
Delweddau:
Portreadau o’r artist
Hawlfraint: © John Akomfrah. Llun gan Jack Hems.
Delweddau o Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw
Dylid cydnabod delweddau fel a ganlyn:
© Smoking Dogs Films; Trwy garedigrwydd Smoking Dogs Films a Lisson Gallery.
Dylid capsiynu delweddau fel a ganlyn:
John Akomfrah; Listening All Night To The Rain, 2024 (llun llonydd)
Gosodwaith fideo HD aml-sianel gyda sain amgylchynol
Comisiynwyd gan y British Council ar gyfer 60fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia, 2024