Arddangosfa:Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw gan John Akomfrah

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Beth allen ni ei gyflawni, o ddysgu gwrando’n iawn?

Mae Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw, gwaith yr artist o fri, John Akomfrah yn cyfuno celf gyfoes a gweithredu.

⁠Mae cyfle i chi i fod ymysg cyntaf i brofi Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dyma’r lleoliad cyntaf ar daith y gwaith o gwmpas y DU, ar ôl cael ei ddangos am y tro cyntaf yn Biennale Fenis 2024.

⁠Mae’r darn clyweledol yn mynd â ni ar daith o olygfeydd a synau sy’n dwyn i gof adegau a digwyddiadau sydd wedi siapio unigolion a chymdeithas.
Trwy wrando, gwylio a chysylltu â’r darn, cawn ein hannog i wrando fel ffordd o weithredu yn erbyn anghyfiawnderau ddoe a heddiw.

Mae’n waith sydd yn dangos pŵer celf gyfoes i greu newid, ac mae Amgueddfa Cymru, ar y cyd â’r British Council, y Gronfa Gelf, Lisson Gallery a Smoking Dogs Films, yn falch o gyflwyno’r arddangosfa hon yng Nghymru.

John Akomfrah

⁠Ganwyd John Akomfrah ym 1957, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain. Roedd yn un o sylfaenwyr y Black Audio Film Collective, 1982–1998. Mae ei ddylanwad yn enfawr ar feysydd ffilm arbrofol ac astudiaethau hanes trefedigaethol a hunaniaeth ar sail hil.

Comisiynwyd gan y British Council
 

Cefnogir gan y Gronfa Gelf

Tocynnau

Mae'r arddangosfa yn rhad ac am ddim ac gallwch archebu tocynnau cyn ymweld.  Gwnewch gyfraniad go iawn at ein gwaith o adrodd straeon rhyfeddol Cymru gan roi beth allwch chi – mae eich rhoddion yn ein helpu i sicrhau y gall Amgueddfa Cymru barhau i gynnal arddangosfeydd ysbrydoledig.

Gwybodaeth

24 Mai–7 Medi 2025
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Seddi coch mewn rhesi ar lawr uchaf llong, mae unigolion yn eistedd ar ambell sedd, ar flaen y llong mae un uniolyn yn sefyll gan edrych allan dros y mor

Hawlfraint: British Council / Lisson Gallery / Smoking Dogs Films

Logo Art Fund, testun du ar gefndir gwyn, gyda'r geiriau 'Art Fund' wedi cael eu dilyn gan linell du

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau