Datganiadau i'r Wasg

Datganiad ar Ail agor

Mae saith amgueddfa genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol ar gau ar hyn o bryd oherwydd pandemig COVID-19. Iechyd a lles ein hymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr yw ein blaenoriaeth ac felly bydd ein safleoedd ar gau nes mae’n ddiogel i ni ailagor.

Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru heddiw (19 Mehefin 2020) ynghylch llacio rhai o’r cyfyngiadau symud ym mis Gorffennaf ar gyfer y sector twristiaeth, rydym yn cynllunio i ailagor tiroedd awyr-agored Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am rai dyddiau bob wythnos o ddechrau Awst. Bydd yn brofiad gwahanol i ymwelwyr gan y bydd rhaid i’r tai hanesyddol a’r ardaloedd chwarae aros ar gau oherwydd y cyfyngiadau presennol. Bydd ein chwech amgueddfa genedlaethol arall yn agor yn ddiweddarach, ac nid oes dyddiad wedi’i benderfynu eto ar eu cyfer.

 

Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein holl amgueddfeydd yn llefydd diogel i staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr pan fyddant yn ailagor, gyda chanllawiau ar bellter cymdeithasol yn cael eu dilyn a nifer yr ymwelwyr yn cael ei reoli. Mae hyn yn cynnwys system archebu newydd oherwydd, er y bydd mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd yn parhau, bydd gofyn i ymwelwyr archebu ymweliad ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eu siomi. Dim ond nifer cyfyngedig o ymwelwyr fyddwn ni’n gallu’i groesawu bob dydd wrth i ni ailagor.

 

Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn adolygu sut y gallwn gefnogi ein cymunedau trwy’r cyfnod anodd hwn – o bell, a phan fyddwn yn gallu ailagor ein hamgueddfeydd. Rydym wedi lansio apêl gyhoeddus newydd a phroject digidol enfawr i gasglu profiadau trigolion Cymru yn ystod COVID-19: https://amgueddfa.cymru/casglu-covid/

 

Fel elusen, mae sefydlogrwydd ariannol Amgueddfa Cymru hefyd yn flaenoriaeth. Ar hyn o bryd rydym yn colli tua £400k o incwm y mis. Rydym ar gau i’r cyhoedd, a hyd yn oed pan fyddwn yn ailagor fydd dim modd i ni adfer y colledion hyn yn llwyr oherwydd y canllawiau ynghylch ymbellhau cymdeithasol. Rydym felly wedi cymryd camau eraill i warchod y sefydliad, gan roi dros 40% o’n staff ar ffyrlo trwy Gynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU, a gweithio gyda’n noddwyr i ganfod ffynonellau incwm eraill. Bydd y gwaith hwn yn parhau ac rydym yn ddiolchgar am unrhyw gymorth i’n helpu i barhau i weithio gyda chymunedau Cymru a chyflawni ein rôl fel amgueddfa genedlaethol Cymru.