Oriel y Parc

Oriel y Parc, Tyddewi

Mae Amgueddfa Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn cydweithio yn Oriel y Parc, lle mae gwasanaethau ar gyfer ymwelwyr yn cael eu cyfuno gydag arddangosfeydd o’r casgliadau cenedlaethol i ddathlu’r dirwedd.

Mynediad am ddim, ac mae’r adeilad yn gwbl hygyrch.

Am wybodaeth am arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau, gweler gwefan Oriel y Parc.

Ar agor 10am-4pm bob dydd (ar gau 26-26 Rhagfyr).

Ffurfiwyd Ffrindiau Oriel y Parc yn 2011 i godi broffeil, gefnogi ac i gymorthwyo Oriel Tirluniau Oriel y Parc, Tyddewi.
Am fwy o wybodaeth ymwelwch â www.friendsoforielyparc.co.uk

Partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw Oriel y Parc.