Polisi a Gweithdrefn Hysbysu a Thynnu i Lawr
Os caiff gweinyddwyr gwefan Amgueddfa Cymru eu hysbysu bod hawlfraint neu unrhyw hawliau eraill wedi’u tramgwyddo, neu os derbynnir cwyn bod rheolau cyhoeddi wedi’u torri neu fod unrhyw bryder arall, bydd yr eitem(au) dan sylw yn cael eu cymryd oddi ar y gwefannau cyn gynted â phosibl tra cynhelir ymchwiliad pellach.
Os ydych chi’n ddeiliad hawlfraint ac yn poeni eich bod wedi dod o hyd i ddeunydd ar ein gwefan nad ydych wedi rhoi caniatâd iddo fod yno, ac nad yw wedi’i ganiatáu dan eithriad i gyfraith y DU, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen ymholiadau ar-lein a nodi’r canlynol:
- Eich manylion cyswllt.
- Disgrifiad o’r deunydd.
- Cyfeiriad y dudalen we lle cawsoch hyd i’r deunydd.
- Natur y gŵyn
- Datganiad mai chi yw perchennog yr hawliau neu eich bod wedi eich awdurdodi i weithredu dros berchennog yr hawliau. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o berchnogaeth a fuasai’n ddilys gerbron llys barn.
- Ailosod y deunydd ar wefan(nau) Amgueddfa Cymru heb newid.
- Ailosod y deunydd ar wefan(nau) Amgueddfa Cymru gyda newidiadau.
- Tynnu’r deunydd o’r wefan/gwefannau yn barhaol.
Yna caiff y weithdrefn ‘Hysbysu a Chymryd i Lawr’ ei gweithredu fel a ganlyn:
1. Bydd Amgueddfa Cymru yn anfon llythyr neu e-bost i gydnabod ei bod wedi derbyn eich cwyn a bydd yn gwneud asesiad cychwynnol o ddilysrwydd a hygrededd y gŵyn.
2. Bydd mynediad at y deunydd o wefannau Amgueddfa Cymru yn cael ei rwystro hyd nes y cytunir ar ddatrysiad.
3. Gallai Amgueddfa Cymru gysylltu â thrydydd partïon i’w hysbysu bod y deunydd yn destun cwyn ac o dan ba honiadau.
4. Bydd Amgueddfa Cymru yn cysylltu â’r partïon dan sylw er mwyn ceisio datrys y mater yn gyflym, yn gyfeillgar ac er boddhad yr holl bartïon. Gallai’r drafodaeth hon arwain at un o’r canlyniadau canlynol:
Os na fydd y partïon yn gallu cytuno ar ddatrysiad, bydd Amgueddfa Cymru yn penderfynu un ai ailosod y deunydd ar y wefan/gwefannau neu rwystro mynediad ato hyd nes y bydd penderfyniad wedi ei gyrraedd.