Hyfforddiant doethurol yn
Amgueddfa Cymru

Consortiwm CDP4 Diwylliant a Threftadaeth Cymru

Dros yr haf, byddwn ni'n lansio’r ail rownd o Gonsortiwm CDP4 Diwylliant a Threftadaeth Cymru newydd gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae 10 safle’r bartneriaeth hon yn gartref i gasgliad amrywiol o lyfrau, llawysgrifau, recordiadau sain, ffilmiau, gweithiau celf, sbesimenau hanes natur ac arteffactau archaeolegol sy’n dyddio’n ôl dros 2,500 o flynyddoedd. Mae’r rhain yn cynnwys tirwedd dreftadaeth 400 acer, gofodau ac orielau amgueddfa, amgueddfeydd diwydiannol gweithiol, crefftwaith traddodiadol, adeiladau hanesyddol sy'n dyddio'n ôl mor bell ag Oes yr Haearn, llyfrgell adnau cyfreithiol, dros 2,000 o fetrau ciwbig o archifau, a chanolfan gasgliadau genedlaethol.

Mae gan y consortiwm bedwar prif faes ymchwil:

1. Cynrychioli pawb: Sut allwn ni adrodd straeon newydd, ail-ddehongli casgliadau i adrodd hanesion cyfarwydd drwy leisiau newydd, ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd?

2. Diogelu bioamrywiaeth: Sut allwn ni gefnogi ymatebion i’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a diogelu ein hecosystemau?

3. Mynediad digidol at gasgliadau: Sut all technoleg ddigidol effeithio ar hygyrchedd, dehongliad casgliadau a’r mathau o straeon rydyn ni’n eu hadrodd?

4. Cadwraeth: Sut all y sector treftadaeth reoli dewisiadau a blaenoriaethau cadwraeth mewn cyd-destun newydd o ddefnyddio casgliadau, ehangu cyfranogiad a thirweddau newidiol?

Rydyn ni'n chwilio am brojectau ymchwil sy'n mynd i'r afael â'r themâu hyn, ac yn cyd-fynd yn agos â'n meysydd gwaith a'n gwerthoedd sefydliadol. Fel arfer, disgwylir i dîm goruchwylio pob project gynnwys 4 goruchwylydd: 2 o’r sefydliad partner, a 2 o’r brifysgol.

Hyfforddiant Doethuriaeth Cydweithredol - Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb

Byddwn yn dyfarnu 14 ysgoloriaeth PhD dros dair galwad am nawdd ym mis Medi 2023, 2024 a 2025 ar gyfer projectau sy'n dechrau yn ystod yr Hydref yn 2024, 2025 a 2026.

Drwy ein partneriaeth, pynciau ymchwil, cynllun gweithredu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a rhaglen o ddigwyddiadau i fyfyrwyr, rydym am gefnogi diwylliant hyfforddiant ymchwil doethuriaeth bywiog, amrywiol a chysylltiedig yng Nghymru.

Digwyddiadau briffio

Byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad briffio ym mis Gorffennaf:

Mae'r digwyddiadau briffio yn gyfle i staff ym mhob un o'n sefydliadau a'n hymchwilwyr prifysgol sydd â diddordeb mewn datblygu projectau PhD gyda ni, i ddysgu mwy am y consortiwm newydd a'i amcanion, a dechrau datblygu cyfleoedd cydweithio posibl ar gyfer y rownd ariannu gyntaf a thu hwnt. Bydd gan bob person sy'n mynychu gyfle i rannu eu meysydd diddordeb a/neu bynciau posibl, a dysgu mwy am feysydd o ddiddordeb, pynciau ymchwil a gwaith perthnasol i'r consortiwm sy'n cwympo o fewn y dyddiadau dyfarnu arian.

Defnyddiwch y dolenni uchod i gofrestru ar gyfer y digwyddiad briffio.

Os byddai'n well gennych chi fynychu'r digwyddiad i ddysgu mwy yn unig, nodwch nad ydych chi eisiau rhannu eich gwaith ymchwil wrth gofrestru.

Amserlen ar gyfer yr ail rownd ariannu

  • ⁠Gorffennaf 2024: Digwyddiad briffio
  • 16 Medi 2024: Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiad o ddiddordeb
  • 29 Tachwedd 2024: Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynnig llawn
  • Ionawr 2025: Adolygiad panel
  • Chwefror – Mai 2025: Hysbysebu
  • Mehefin 2025: Cyfweliadau
  • Medi 2025: Ysgoloriaethau'n dechrau