Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ein nod yn Sain Ffagan yw creu amgueddfa sy'n torri tir newydd trwy adrodd straeon diddorol a chyfareddol pobl Cymru, o'r oesoedd cynharaf hyd heddiw, mewn ffyrdd cyffrous ac arloesol sy'n agored i bawb.

  • Sain Ffagan fydd cartref hanes Cymru
  • Mae archaeoleg yn dod i Sain Ffagan - gan ymestyn hanes Cymru a'i phobl, o'r oesoedd cynharaf hyd heddiw
  • Bydd Sain Ffagan yn datblygu'n gyrchfan ymwelwyr gydol y flwyddyn, trwy greu rhagor o lefydd dan do
  • Trwy fuddsoddi yn Sain Ffagan, byddwn yn creu datblygiad cyffrous er budd Cymru gyfan
  • Mae Sain Ffagan yn gyrchfan anhepgor - wrth wraidd twristiaeth yng Nghymru
  • Bydd Sain Ffagan yn cadarnhau'i lle fel amgueddfa o safon ryngwladol - gan hyrwyddo Cymru fel gwlad hyderus a blaengar
  • Elusen yw Amgueddfa Cymru, ac mae angen arian arnom i wireddu'r freuddwyd

Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgynghori mewn digwyddiadau cenedlaethol megis yr Eisteddfod Genedlaethol, ar-lein ac yn Sain Ffagan.

Bydd cymryd rhan wrth wraidd amgueddfa Sain Ffagan a gaiff ei chreu gan bobl Cymru, ar gyfer pobl Cymru ac ar y cyd â phobl Cymru.

  • Gallwn ni gynnig cyfleoedd i unigolion, grwpiau a sefydliadau weithio gyda’r Amgueddfa i ddatblygu hanes Cymru sy’n canolbwyntio ar straeon y bobl.
  • Helpwch ni i sicrhau fod y straeon y byddwn yn eu hadrodd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn ddiddorol ac yn berthnasol i’r cymunedau sy’n byw yng Nghymru heddiw.
  • Creu cysylltiadau cryfach a phartneriaethau gwaith gyda chymunedau lleol yng Nghymru. Oes gennych chi fentrau cyffrous yn eich cymuned chi y gallem ni eu cefnogi?
  • Cymrwch ran drwy wirfoddoli yn yr Amgueddfa. Dewch i feithrin sgiliau newydd, cyfarfod â phobl newydd a chael llond lle o hwyl.
  • Mae’ch angen chi ar Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru! Dewch i gael hwyl drwy gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau newydd a chyffrous a datblygu cynnwys eich amgueddfa CHI.