Saturnalia: Nadolig Rhufeinig?
Darganfod ac Archwilio
Camwch yn ôl mewn amser i gwrdd â Rhufeiniwr sy’n paratoi ar gyfer gŵyl ganol gaeaf Saturnalia! Beth oedd yn digwydd yn y dathliadau Rhufeinig hyn? Pa anrhegion oedd pobl yn eu rhoi a’u derbyn? Beth oedden nhw’n ei fwyta? Dewch i brofi Saturnalia, gŵyl llawn traddodiad, crefydd a bwyd!
Hanes y Satwrnalia. Fideo a gynhyrchwyd gan Somerton Primary School.
Cymryd Rhan
Rhowch eich pileus (het) ymlaen ac ymuno â ni i ddathlu Saturnalia! Dewch i weld sut mae eich traddodiadau ganol gaeaf yn cymharu â thraddodiadau’r Rhufeinwyr oedd yn dathlu bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
Am y Sesiwn hon
Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus!
Cwricwlwm
Cwricwlwm i Gymru: Dyniaethau
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth, ac yn cael eu gweld, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Oed: 8-11
Amcanion dysgu:
- Darganfod gwledd Rufeinig o safbwynt gwestai mewn parti Rhufeinig, a chaethwas Rhufeinig.
- Adolygu’r ffyrdd y caiff y digwyddiadau a’r profiadau hyn eu gweld, eu dehongli a’u cynrychioli.
- Ystyried bywyd bob-dydd a chyfartaledd ar gyfer gwahanol bobl adeg y Rhufeiniaid a heddiw.
- Ystyried beth allwn ni ei ddysgu o gyfnod y Rhufeiniaid i wella cymdeithas heddiw.
Gweithdy Satwrnalia
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk