Gweithdy Amgueddfa

Saturnalia: Nadolig Rhufeinig?

Teithiwch yn ôl mewn amser i ymweld â Rhufeiniwr sy’n paratoi ar gyfer gŵl ganol gaeaf Saturnalia. Dysgwch am yr ŵl Rufeinig a rhannu traddodiadau canol gaeaf heddiw. Mae Rhufeiniaid cyfoethog yn enwog am eu partion! Darganfyddwch y bwyd rhyfedd a bendigedig roedden nhw'n ei fwyta, fel ymennydd y paun a llygod wedi'u stwffio. 

 

Hanes y Satwrnalia. Fideo a gynhyrchwyd gan Somerton Primary School.

 

 

 

Hyd: 45 munud
Dyddiadau: 4 Rhag - 22 Rhag
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Cwricwlwm i Gymru: Dyniaethau 

Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth, ac yn cael eu gweld, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd. 

Oed: 8-11

Amcanion dysgu:

  • Darganfod gwledd Rufeinig o safbwynt gwestai mewn parti Rhufeinig, a chaethwas Rhufeinig.
  • Adolygu’r ffyrdd y caiff y digwyddiadau a’r profiadau hyn eu gweld, eu dehongli a’u cynrychioli.
  • Ystyried bywyd bob-dydd a chyfartaledd ar gyfer gwahanol bobl adeg y Rhufeiniaid a heddiw.
  • Ystyried beth allwn ni ei ddysgu o gyfnod y Rhufeiniaid i wella cymdeithas heddiw.

Gweithdy Satwrnalia

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk