e-Llyfr

eLyfr: Ditectifs y Deinosoriaid

Chwiliwch am ffosil deinosor, dysgwch am fwyd y deinosoriaid a rhyfeddwch at ba mor fawr oedd traed T. rex drwy gyfrwng gemau a posau. Mae’n gyfle hefyd i gwrdd â’r deinosor Cymreig newydd, Dracoraptor hanigani.

Lawrlwythwch yr iBook neu’r ffeil PDF ar eich dyfais symudol i ddarganfod mwy. Gallwch ei ddefnyddio adref, neu ddod ag ef i’r Amgueddfa i archwilio’r orielau.

Ditectifs y Deinosoriaid (Gellir ei weld ar ddyfeisiau Apple)

elyfr - Ditectifs y Deinosoriaid (Gellir gweld fel cyswllt ar unrhyw ddyfais)

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Cwricwlwm

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.
  • Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.

Y Dyniaethau

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Ditectifs y Deinosoriaid