Gweithdy Amgueddfa

Ymweliad ysgol i Gaerllion

Archwiliwch a phrofwch:

  • Ymweliad ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru lle gall y disgyblion. Astudio'r casgliadau Rhufeinig real yn yr oriel a gweld gardd Rufeinig go iawn. Gwisgo lifrai llengfilwr mewn model o Ystafell Barics a phrofi bywyd milwr Rhufeinig.
  • Mwynhau gweithdy gydag un o'n hathrawon Rhufeinig. Gweithdy dan arweiniad hwylusydd Rhufeinig mewn gwisg. Trwy chwarae rôl, gall disgyblion fod yn recriwt newydd yn y fyddin Rufeinig, yn glaf yn ymweld â meddyg Rhufeinig, yn ddisgybl mewn ysgol Rufeinig neu’n mwynhau gwledd dymhorol Rufeinig. Un pwnc y tymor - gweler y manylion am ddyddiadau a thaliadau.
  • Ymweliad â'r Baddondai Rufeinig i weld sut fyddai'r Rhufeiniaid yn ymolchi ac ymlacio ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
  • Ymweliad â'r Amffitheatr a'r Barics – i weld gweddillion amffitheatr fwyaf cyflawn Prydain a'r unig farics llengol i'w weld yn Ewrop!

Mae ymweliadau ysgol ar gael rhwng dydd Llun a dydd Gwener, rhwng 10:15 a 14:15, gan gynnwys lle i fwynhau cinio.

Sesiynau hunan-hwyluso yw'r rhain, heblaw am y gweithdy wedi'u hwyluso ddylai gael ei arwain gan athrawon yr ysgol dan sylw. Bydd staff yr Amgueddfa yn bresennol ym mhob sesiwn, heblaw am yn yr Amffitheatr a'r Barics.

Gellir archebu bagiau rhodd ymlaen llaw. Rhowch wybod wrth archebu sesiwn os hoffech chi archebu bagiau hefyd. 

I ddysgu mwy am y dyddiadau sydd ar gael a'r costau, e-bostiwch addysg.rhufeinig@amgueddfacymru.ac.uk gan gynnwys enw'r ysgol, nifer y disgyblion, oed y dosbarth a'ch dyddiadau delfrydol.

Cwricwlwm

Y Dyniaethau: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol. 

Oed: 8-11

Amcanion dysgu: 

  • Hybu holi a darganfod drwy archwilio hen olion ac arteffactau Rhufeinig.
  • Cyfleoedd i fod yn chwilfrydig, i gwestiynu, meddwl yn feirniadol ac ystyried tystiolaeth.
  • Sbarduno meddwl newydd a chreadigol.
  • Deall y cysyniadau sy’n sail i’r dyniaethau yn well, a sut i’w chymhwyso mewn cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Ymweliad ysgol i Gaerllion

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk