Môr Ladron Cymru | Barti Ddu
🔍 Darganfod ac Archwilio
Ewch yn ôl mewn amser i Oes aer y Môr Ladron i ddarganfod straeon o fasnach, trysor a brwydro'r Môr Leidr mwyaf adnabyddus o Gymru - Barti Ddu. Yn ystod y gweithdy yma fyddwch yn cyfarfod a Mor Leidr, clywed stori Bartholomew Roberts a Môr Ladron o Oes aer y Môr Ladron. Darganfyddwch sut oedd morwyr yn dod yn fôr ladron, y swyddi ar y llong, ar bwyd oeddent yn bwyta. Yn fwyaf pwysig dewch o hyd i’r gwir am fywyd Môr Leidr.
✏️ Cymryd rhan
Gweithdy wedi hwyluso gan gymeriad mewn gwisg Môr Leidr yw hwn. Fydd gan y disgyblion cyfle i drin a thrafod gwrthrychau go iawn, megis cleddyf a llawddryll Môr Leidr.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Mi fydd yna wrthrychau trin a thrafod megis cleddyf a llawddryll yn rhan o’r profiad, efallai fydd y disgyblion hefyd yn cael cyfle o arogli sbeis fel clof a sudd leim. Plîs rhowch wybod i ni wrth archebu eich gweithdy os fyddai rhai disgyblion yn sensitive i’r profiadau yma, fe wnawn ein gorau i sicrhâi fod pawb yn gyfforddus yn ystod y gweithdy.
Beth am edrych ar gael ymweliad rhithwir AM DDIM gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau | Môr-ladron Cymru: Y Gwir Tu ôl i'r Tales
Cwricwlwm
Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffenol, ei bresennol a'i ddyfodol.
Nodau Dysgu
Drwy archwilio gwrthrychau morwrol, gallu adnabod tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng bywydau pobl yn y gorffenol a'r presennol.
Archwilio story cymeriad hanesyddol môr leidr Bartholomew Roberts.
Darganfod pam oedd Barti Ddu yn un o'r môr ladron mwyaf llwyddianus wnaeth hwylior moroedd.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600