Gweithdy Amgueddfa

Môr Ladron Cymru | Barti Ddu

🔍 Darganfod ac Archwilio

Ewch yn ôl mewn amser i Oes aer y Môr Ladron i ddarganfod straeon o fasnach, trysor a brwydro'r Môr Leidr mwyaf adnabyddus o Gymru - Barti Ddu. Yn ystod y gweithdy yma fyddwch yn cyfarfod a Mor Leidr, clywed stori Bartholomew Roberts a Môr Ladron o Oes aer y Môr Ladron. Darganfyddwch sut oedd morwyr yn dod yn fôr ladron, y swyddi ar y llong, ar bwyd oeddent yn bwyta. Yn fwyaf pwysig dewch o hyd i’r gwir am fywyd Môr Leidr.

✏️ Cymryd rhan

Gweithdy wedi hwyluso gan gymeriad mewn gwisg Môr Leidr yw hwn. Fydd gan y disgyblion cyfle i drin a thrafod gwrthrychau go iawn, megis cleddyf a llawddryll Môr Leidr 

ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon

Mi fydd yna wrthrychau trin a thrafod megis cleddyf a llawddryll yn rhan o’r profiad, efallai fydd y disgyblion hefyd yn cael cyfle o arogli sbeis fel clof a sudd leim. Plîs rhowch wybod i ni wrth archebu eich gweithdy os fyddai rhai disgyblion yn sensitive i’r profiadau yma, fe wnawn ein gorau i sicrhâi fod pawb yn gyfforddus yn ystod y gweithdy. 

Beth am edrych ar gael ymweliad rhithwir AM DDIM gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau | Môr-ladron Cymru: Y Gwir Tu ôl i'r Tales

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffenol, ei bresennol a'i ddyfodol.

Nodau Dysgu

Drwy archwilio gwrthrychau morwrol, gallu adnabod tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng bywydau pobl yn y gorffenol a'r presennol. 

Archwilio story cymeriad hanesyddol môr leidr Bartholomew Roberts.

Darganfod pam oedd Barti Ddu yn un o'r môr ladron mwyaf llwyddianus wnaeth hwylior moroedd.  

Dyn wedi gwisgo fel môr-leidr yn dangos bocs trysor i blant.
Barti Du
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600

Adnoddau