Creu a Gwneud
Celf Wlanog
Mwynhewch liwio llun efo gwahanol fathau o wlân sydd gyda chi gartref.
Bydd angen:
- Papur / Cerdyn
- Pensil
- Glud
- Siswrn
- Gwahanol fathau o wlân
- Ffelt
- Pensiliau / pens lliw
- Unrhyw beth arall i wneud eich llun e.e. pren lolipop
Cyfarwyddiadau:
1. Tynnwch lun bras efo pensil. All fod yn syml neu yn gymhleth iawn.
2. Torrwch eich gwlân mewn i ddarnau byr, mae’n haws i ddefnyddio.
3. Rhowch glud ar y papur, PVA, copdex neu pritstick yn gweithio.
4. Gludiwch y gwlân i’r papur, wrth roi’n agos all creu bloc o liw.
5. Os nag oes wlân rydd gyda chi, allech chi ddefnyddio brwsh anifail a chribo’r gwlân yn rhydd, mae’n gweithio ar ffelt hefyd.
6. Mwynhewch chwarrau gyda siapiau a lliwiau.
Amgueddfa Wlân Cymru
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch 0300 111 2 333