Creu a Gwneud

Grŵp Sgetsio Sain Ffagan

Ymunwch â’n grŵp braslunio anffurfiol newydd i archwilio golygfeydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru trwy ddarlunio. Mae croeso i bob lefel sgil, ac mae deunyddiau darlunio ar gael os oes angen.

Bydd y grŵp yn cyfarfod yn y Brif Dderbynfa am 10:30 ddydd Gwener bob mis am fore llawn hwyl a sbri o greadigrwydd. Does dim angen archebu lle - dim ond dangos i fyny a dechrau sgetsio!

Cyflwynir gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru mewn partneriaeth â Bywydau Creadigol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â gareth@creative-lives.org.

Dyddiadau: Pob mis 10.30am-12.00pm. 10 Tach 2023, 8 Rhag 2023, 12 Ionawr 2024, 9 Chwef 2024, 8 Mawrth 2024, 12 Ebrill 2024, 10 Mai 2024, 14 Mehefin 2024, 12 Gorffennaf 2024, 9 Awst 2024.