Ffrynt Cartref: Cymru yn yr Ail Ryfel Byd
Dysgwch am y Ffrynt Cartref yn yr Ail Ryfel Byd yng Nghymru drwy archwilio ffotograffau, gwrthrychau, paentiadau a recordiadau sain go iawn o fewn casgliad Amgueddfa Cymru.
Darganfyddwch sut effeithiodd y rhyfel ar bob rhan o fywyd pobl Cymru; o ddogni bwyd a dillad, i wneud bomiau mewn ffatrïoedd. Dysgwch pa mor bwysig oedd menywod i'r Ffrynt Cartref a sut y newidiodd bywyd bob dydd i blant.
Mae’r adnodd rhyngweithiol hwn wedi’i gynllunio i gael ei archwilio gan unigolyn neu ei rannu fel cyflwyniad o fewn yr ystafell ddosbarth. Argymhellir ailedrych ar yr adnodd a chanolbwyntio'n gynyddol ar bob adran.
Mae wedi'i greu gyda Cham ddilyniant 2 mewn golwg ond gellir ei addasu'n hawdd ar gyfer pob dysgwr.
Archwiliwch y llyfr rhyngweithiol uchod neu cliciwch ar y mân-lun isod i lawr lwytho PDF y gellir gwrando arno gan ddefnyddio’r nodwedd ‘Read Aloud’.
Eich Ffrynt Cartref | Sut i ymchwilio i'ch cymuned leol yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Mae’r adnodd hwn yn canolbwyntio ar Ffrynt Cartref yr Ail Ryfel Byd er mwyn dangos ffyrdd syml o ymchwilio i hanes ar-lein.
Cwricwlwm
Y DYNIAETHAU | Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Bydd taith y dysgwyr trwy’r Maes hwn yn ysgogi ymholi a darganfod, wrth iddyn nhw gael eu herio i fod yn chwilfrydig ac i gwestiynu, i feddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth. Mae meddwl ymholgar yn ysgogi ffordd greadigol a newydd o feddwl, a thrwy hyn gall dysgwyr feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cysyniadau sy’n sail i’r dyniaethau, a sut i’w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd eang. Gall meddylfryd o’r fath fod o gymorth i ddysgwyr ddeall profiadau pobl a’r byd naturiol yn well.
Mae ymholi yn fwy nag ymarferiad academaidd; mae’n galluogi myfyrio sydd o gymorth i ddysgwyr ddeall y cyflwr dynol. Yn ei dro, gall hyn ychwanegu ystyr at fywydau’r dysgwyr, a chyfrannu at eu hymdeimlad o le a bydolwg.