Gweithdy Amgueddfa

Ymweliad ysgol i Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Mae amrywiaeth o weithgareddau ar gael yn Big Pit! Archwiliwch a phrofwch:

Gweithdai addysg:

    Sut fywyd oedd gan filoedd o blant ym Mhrydain Oes Fictoria a oedd yn mynd allan i weithio? Defnyddiwch gyfoeth o ffynonellau tystiolaeth i ddysgu mwy am fywyd a gwaith y plant hyn, gan gynnwys gwrthrychau o’n casgliadau ni.

   Beth yw glo a sut fyddai'n cael ei gloddio? Sut brofiad oedd gweithio danddaear? Dysgwch am hanes y dynion, menywod, plant ac anifeiliaid fu’n gweithio yn y pyllau yma yng Nghymru. Taith dywys o'n profiad glofaol, Brenin Glo

Pa waith fyddai plant yn ei wneud danddaear? Gyda pha deganau a gemau fydden nhw'n chwarae? Sut mae'r diwrnod ysgol wedi newid? Dewch i ddarganfod hanes plant meysydd glo Cymru mewn gweithdy rhyngweithiol llawn hwyl dan arweiniad ein staff addysg. 

Hefyd: '12 Mis Allan' - 'Pan Oedd Glo yn Frenin' - gweithdy rhithiol AM DDIM sy’n adeiladu ar y daith danddaearol ac all gael ei wneud yn y dosbarth dros Microsoft Teams cyn, neu ar ôl eich ymweliad.

Taith Danddaearol

Teithiwch 90 metr (300 llath) danddaear a chael taith unigryw a chyfareddol drwy ran o'r hen waith glo gydag un o Dywyswyr Glofa Big Pit.

Brenin Glo

Mwynhewch brofiad clyweledol cyffrous ag arddangosfeydd o offer pyllau glo modern yn Orielau Glofaol Big Pit.

Y Baddondai Pen Pwll

Yn adeilad y Baddondai mae amgueddfa sy’n defnyddio gwrthrychau a delweddau i adrodd stori cloddio am lo yng Nghymru.

Adeiladau Hanesyddol

Gallwch chi weld a darganfod mwy am adeiladau ac offer o gwmpas yr Amgueddfa fyddai’n hanfodol i’r gwaith cloddio yn Big Pit

I ddysgu mwy am y dyddiadau sydd ar gael a'r costau, e-bostiwch igpitemail@museumwales.ac.uk gan gynnwys enw'r ysgol, nifer y disgyblion, oed y dosbarth a'ch dyddiadau delfrydol.

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650