Gweithgaredd Addysg

Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: Canllaw i athrawon

Dyma adnoddau i gefnogi athrawon sy'n cynnal ymchwiliad Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion. Mae'r cynllunydd tymor yn cynnwys yr holl ddyddiadau allweddol ar gyfer y prosiect a dolenni i'r holl adnoddau a chyflwyniadau y gall athrawon eu defnyddio ar wahanol adegau drwy gydol y prosiect.

2024 yw'r 19fed penblwydd Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion! Rydyn ni’n croesawu rhai ysgolion newydd i’r ymchwiliad ac yn parhau i weithio gyda’r rhai sydd wedi bod gyda ni ers y dechrau. 

Rydyn ni’n dal i gydweithio ag Ymddiriedolaeth Edina sy’n noddi’r potiau a’r bylbiau ac yn ehangu cyrhaeddiad y project!Eleni, bydd 175 o ysgolion yn cymryd rhan; 76 o Gymru, 44 o Loegr, 28 o'r Alban a 27 o Gogledd Iwerddon.

Canllaw Athrawon: Canllaw Athrawon 2024-25

Camau allweddol:

 

#CyfeillionYGwanwyn

@Professor_Plant

@Amgueddfa_Learn

Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion - arbrawf hinsawdd

Ein gwyddonwyr tywydd wrth eu gwaith.

Ysgol Carnbroe yn cymryd cofnodion tywydd.

Ysgol Llandwrog yn cofnodi data tywydd i'r wefan.

Ysgol St Julian's