Gweithgaredd Addysg

Cam 8: Astudio canlyniadau'r ymchwiliad (Mehefin/Gorffennaf)

Mae Tueddiadau y Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn adnodd rhyngweithiol sy’n seiliedig ar ddata sy’n helpu disgyblion i archwilio sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar batrymau tywydd ac amseriad blodeuo planhigion megis cennin Pedr a chrocysau. Gan ddefnyddio data go iawn a gasglwyd gan ysgolion ledled Cymru a’r DU, mae dysgwyr yn ymchwilio i dueddiadau mewn tymheredd, glawiad a heulwen, yn cymharu eu canlyniadau eu hunain â setiau data cenedlaethol, ac yn defnyddio tystiolaeth i egluro newid dros amser. Mae’r gweithgareddau’n datblygu sgiliau ymholi, dehongli data a rhesymu, gyda chysylltiadau cryf â gwyddoniaeth, rhifedd a’r dyniaethau ar Gam Cynnydd 3.

Adnoddau dysgu

Mae plant yn defnyddio cyfrifiadur i gymryd rhan yn y project

Ysgol Llandwrog yn cofnodi data tywydd i'r wefan.