Ymweliadau Rhithwir i Ysgolion
Ymunwch ag Amgueddfa Cymru ar-lein gyda'ch dosbarth am weithdy rhyngweithiol byw am ddim. Wedi'u creu ar gyfer dysgwyr 7-11 oed, mae'r gweithdai yn trafod meysydd yn y cwricwlwm, gan gynnwys: y Dyniaethau, Celfyddydau Mynegiannol, a Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Cymerwch ran mewn digwyddiadau byw, edrych yn fanylach ar drysorau'r Amgueddfa, ac ymuno â sgyrsiau ysgogol gyda staff yr Amgueddfa. Cefnogir pob sesiwn gydag adnoddau digidol perthnasol, a chynnwys sydd wedi'i recordio ymlaen llaw.
Ers Hydref 2020, rydym wedi ymgysylltu â dros 32,000+ o ddisgyblion dros Gymru a thu hwnt! Os yw eich disgyblion yn dysgu gartref neu yn yr ysgol – gallwn ymgysylltu â chi.
Dilynwch ni ar Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf @Amgueddfa_Learn
Canllawiau i Athrawon: Paratoi am Ymweliadau Rhithwir.
Gweler y manylion isod i drefnu sesiwn. Dywedodd 100% o athrawon a lenwodd ein holiadur Doopoll y byddent yn archebu sesiwn rithiol eto. Cynhelir sesiynau ar Microsoft Teams, a dyma ganllaw i athrawon sy'n paratoi ar gyfer ymweliad rhithiol.
Hyd yn oed y tu allan i'r cyfnod clo, mae'n ffordd wych o ymgysylltu ag arbenigedd a phrofiadau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Dyma gyfle gwych i'r plant!
Ffordd ardderchog i'r plant brofi arteffactau a straeon bywyd go iawn yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Nid yw'r ymweliadau rhithiol hyn yn cymryd lle'r profiad bendigedig o ymweld â'n hamgueddfeydd yn y cnawd. Mae ymweliadau rhithiol yn cynnig profiad dysgu gwahanol, a chyfle i ymgysylltu â staff a gwrthrychau'r Amgueddfa yn amlach, drwy gydol y flwyddyn academaidd. Gallai dysgwyr ymweld ag Amgueddfa i astudio un pwnc, ac ymuno â ni yn rhithiol i astudio pwnc arall. Rydym hefyd wedi gweld bod dysgwyr yn llawer mwy tebygol o ofyn cwestiynau manwl ac ysgogol wrth ymgysylltu â ni yn rhithiol.
Mae ymweliadau rhithiol yn ffordd dda i ni gyflawni rhaglen addysg fwy cynhwysol i ysgolion sy'n rhy bell o'n hamgueddfeydd i allu ymweld, sydd ag anghenion sy'n gwneud ymweliadau'n anodd, neu sydd â phroblemau ariannol.