Gweithdy Rhithiol

Môr Ladron Cymru: Y gwir tu ôl i'r chwdlau (Gweithdy Rhithiol)

🔍 Darganfod ac Archwilio

Meddwl eich bod chi'n gwybod popeth am fôr ladron? Dewch i roi prawf ar eich gwybodaeth yn ein gweithdy rhithiol! Ymunwch a ni i ddarganfod sut oedd bywyd i fôr ladron. Yn y gweithdy yma byddwn yn herio'r hyn rydych chi'n gwybod am fôr ladron a’n dysgu mwy am fôr ladron adnabyddus Cymru fel Barti Ddu a Howell Davies.

✏️ Cymryd Rhan

Darganfyddwch sut ddaethant yn fôr ladron, beth oedden nhw'n gwisgo, beth oedden nhw'n bwyta, sut oedden nhw'n ymladd ac yn bwysicach byth ... pa fath o drysor oedd ganddynt!

ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon

Mae'r sesiwn hon yn trafod themâu trosedd ac anafiadau ac mae rhywfaint o gyfeiriad at farwolaeth.

Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r pynciau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus.

Môr-ladron Cymreig E-lyfr | Mae'r adnodd hwn yn gyflwyniad i fôr-ladron Cymreig a'u hanes.

Hyd: 45 munud
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Cwricwlwm

Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orfeenol, ei bresennol a'i dyffodol.

Gliniadur agored yn arddangos delwedd o fôr-leidr yn dal pistol
Barti Ddu
Henri Morgan
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600